Ar nos Fawrth gaeafol aeth Span Digidol i weithio gyda Chlwb Hyrwyddwyr ifanc i drafod marchnata digidol ar gyfer sioe dymhorol Theatr Genedlaethol Cymru Llygoden yr Eira.  Mae’r Clwb yn cwrdd yn Ysgol y Preseli ac wedi dod at ei gilydd i gymryd cyfrifoldeb a phob agwedd o baratoi at ymweliad y sioe theatr yma at Ganolfan Hermon ym mis Rhagfyr.

Dyma’r grŵp yn cyflwyno’u hunain:

“Mae rhai o ddisgyblion blwyddyn 10 Ysgol Y Preseli yn cydweithio gyda Theatr Genedlaethol Cymru ar Gynllun Hyrwyddwyr Ifanc.  Mae’r merched Lilly, Chloe, Casey ac Elin yn dymuno hysbysebu perfformiadau o Lygoden Yr Eira, sef bypedau sy’n cael ei pherfformio yn Ganolfan Hermon. Sioe gyntaf am 1:30yp ail Sioe i ddechrau 4:30yp, ar ddydd Sadwrn 14eg o Ragfyr. Bydd y tocynnau mynediad yn costio £8 i oedolion a £7 i blentyn. Bydd yna raffl , siop a hefyd diodydd ar werth.

Mae’r sioe i blant o dan 5 oed. Mae’r sioe am Lygoden Fach a’i dau ffrind sy’n cysgu, llithro, cwympo a chwerthin gyda’i gilydd wrth  archwilio’r ‘Winter Wonderland’.”

Ymunodd Owen ar y grŵp neithiwr hefyd a wnaethon nhw fwrw ati i roi gwybodaeth am y perfformiadau ar dudalennau ‘listings’ ar-lein.

Blas o’r gwaith yma:  https://www.thebestof.co.uk/local/pembrokeshire/events/feature/llygoden-yr-eira/

Cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru a Theatr Iolo yw Llygoden yr Eira.
Lleoliad: Canolfan Hermon

Tocynnau ar gael o Menter Iaith Sir Benfro 01239 831129

Scroll to Top