Natural Consequences – A love stories to Nature Commission
Natural Consequences – A Love Stories to Nature Commission Mae Canlyniadau Naturiol yn brosiect a gomisiynwyd ar gyfer menter Straeon Cariad at Natur Celfyddydau SPAN. Mae’r prosiect hwn yn dwyn ynghyd pedair artist talentog: cyfansoddwraig, coreograffydd, bardd/awdur, ac artist gweledol. Mae’r artistiaid hyn, menywod hŷn sydd â chysylltiadau dwfn â thir Sir Benfro a Cheredigion, wedi teithio drwy ymdrechion artistig helaeth. Mae eu gwaith yn cael ei ddylanwadu’n fawr gan yr amgylchedd naturiol y maent yn byw ynddo. Mae’r syniad ar gyfer Canlyniadau Naturiol yn deillio o awydd i archwilio sut mae bodau dynol ac artistiaid yn dylanwadu ar ei gilydd, yn cyfathrebu, ac weithiau’n camgyfathrebu. Mae ein gweithredoedd yn cychwyn cadwyn o effeithiau ar ein hamgylchedd, y mae eu canlyniadau’n aml yn anhysbys, boed yn fuddiol neu’n niweidiol. Mae’r prosiect hwn yn adlewyrchu cydgysylltiad y byd naturiol â dynoliaeth, gan dynnu sylw at ein dealltwriaeth sydd yn gyfyngedig yn aml o negeseuon natur a chanlyniadau ein gweithredoedd. Mae’r prosiect yn cychwyn gydag afon, a ddewiswyd am ei harwyddocâd amgylcheddol a’i chynrychiolaeth symbolaidd o ganlyniadau naturiol. Chwedl Hermann Hesse, “Dŵr, bob amser yr un fath ac eto’n cael ei adnewyddu’n barhaus.” Mae afon yn edau, mae’n brodio ein byd gyda […]