‘The Art of Marketing’, sesiwn Ystafell Werdd nesaf SPAN, yw’r diweddaraf mewn cyfres o sesiynau am ddim i gefnogi datblygiad proffesiynol i Artistiaid.
Ar ôl yr ymateb cadarnhaol i ddigwyddiadau Parti Arti SPAN ar gyfer gweithwyr llawrydd creadigol, roeddem wrth ein bodd i lansio Sesiynau’r Ystafell Werdd, cyfres newydd o weithdai’n cynnig mynediad at sesiynau datblygiad proffesiynol i weithwyr creadigol llawrydd o Orllewin Cymru. Gan adeiladu ar lwyddiant The Art of Fundraising, The Art of Marketing fydd y sesiwn nesaf. Sylwer mai Saesneg yw iaith y sesiynau. Mae’r sesiynau Ystafell Werdd yn gyfres o weithdai sy’n canolbwyntio ar artistiaid. Fe’u cynhelir gan dîm SPAN gan edrych ar ystod o sgiliau proffesiynol sy’n cynnig mewnwelediad i amrywiaeth o feysydd, o godi arian i hyrwyddo. Ymunwch â ni ar gyfer yr ail sesiwn yn y gyfres, sef The Art of Marketing, dan arweiniad Samara Van Rijswijk ac Evangeline Morris. Mae’r ddwy yn gweithio ar y tîm Marchnata yn SPAN yn ogystal â bod yn Artistiaid gweithredol. Mae ganddynt wybodaeth helaeth o’r offer a’r triciau y gallwch eu defnyddio i ddatblygu arddull farchnata broffesiynol ac ymarferol fel artist llawrydd a rhoi hwb i’ch gwelededd. Ymunwch â nhw ar gyfer y sesiwn hon i ddysgu am agweddau allweddol hunan-hyrwyddo gan gynnwys datblygu gwefannau, postio allan, a chyfryngau cymdeithasol, yn ogystal â gwybodaeth am offer am ddim i’ch […]