Consesiynau:
Arall:
Ad-daliadau
Nid yw’n bolisi gennym ni i gynnig ad-daliadau ar gyfer tocynnau a brynwyd. Byddwch cystal â gwirio’ch tocyn ar ôl lei brynu gan nad yw’n bosibl bob amser i gywiro camgymeriadau ar ôl prynu.
Preifatrwydd.
Rydym yn parchu’ch preifatrwydd ac yn diogelu’r holl fanylion personol rydych yn eu darparu pan brynwch docynnau. Caiff y wybodaeth rydych yn ei darparu dim ond ei defnyddio gan Gelfyddydau SPAN at bwrpasau darparu gwasanaethau ac i’ch hysbysebu am newyddion, cynigion arbennig a digwyddiadau i ddod. Nid ydym yn danfon ein cronfa ddata at gwmniau allanol sy’n ymwneud â marchnata. Os, ar unrhyw adeg, yr hoffech i ni dynnu’ch manylion o’n cronfa ddata yna peidiwch ag oedi rhag cysylltu â ni. Darllenwch ein Polisi Preifatrwydd llawn os gwelwch yn dda. Os ydych yn meddwl fod yna broblem â’r modd y mae Celfyddydau SPAN yn trin eich data mae gennych yr hawl i gwyno i Swyddfa’r Comisiwn Gwybodaeth (ICO).
O ganlyniad i bandemig y firws COVID-19 mae adeilad SPAN yn Arberth ar gau i’r cyhoedd am gyfnod amhenodol.
Er hynny mae SPAN yn dal i fod yn hynod weithgar a phrysur ar-lein ac mae’n tîm yn parhau i weithio gartref.
Rydym yn falch iawn ein bod ni wedi llwyddo i barhau i ddarparu rhaglen lawn ac amrywiol o ddigwyddiadau a gweithgareddau celfyddydol ar-lein yn unig ers Mawrth 2020. Ac rydym yn gwneud pob dim y gallwn i ddychwelyd at ddigwyddiadau a gweithgareddau byw mewn modd cyfreithlon, diogel ac addas, sy’n ystyried staff, gwirfoddolwyr, cynulleidfaoedd ac artistiaid fel ei gilydd, pan godir cyfyngiadau.
Rydym yn wir obeithio y byddwn yn eich gweld wyneb yn wyneb cyn hir.
Cadwch yn iach, gyda llawer o gariad, SPAN.
Sefydliad celfyddydau cymdeithasol heb leoliad penodol yw SPAN, yn cyflwyno rhaglen o gelfyddydau a digwyddiadau ar-lein ac ar draws Sir Benfro gan weithio o bell ac o’n swyddfa yn Arberth.
Rydym yn defnyddio amrywiaeth o leoliadau a mannau cyfarfod yn cynnwys neuaddau pentref, canolfannau cymunedol a lleoliadau awyr agored ac rydym yn ymroddedig i sicrhau fod pob man cyfarfod yn hygyrch i bawb.
Er hyn, cynhelir rhai digwyddiadau mewn lleoliadau bychain gwledig neu yn yr awyr agored lle mae hygyrchedd weithiau’n gyfyngedig.
Caiff manylion am bob lleoliad eu cyhoeddi ar-lein ynghyd â gwybodaeth am y digwyddiad gyda manylion am barcio, parcio i’r anabl, toiledau, bwyd a diod a chyfleusterau sy’n addas i deuluoedd.
Gallwn hefyd ddarparu’r cyfleusterau hygyrchedd canlynol y gellir eu harchebu ar gais, cysylltwch â’r swyddfa am ragor o wybodaeth os gwelwch yn dda:
Rydym hefyd yn cynnig mynediad i’r celfyddydau ar-lein trwy raglen fywiog ac amrywiol o weithgareddau y gellir eu cyrchu yma
Fel rhan o’n rhaglen ar-lein rydym yn ymroddedig i sicrhau y gallwn eich helpu i fynd ar-lein felly cysylltwch â thîm SPAN os ydych yn cael problemau.
Mae SPAN yn aelod o’r Grŵp Cysylltiadau Digidol yn Sir Benfro a gafodd ei sefydlu fel rhan o’r rhaglen Gorllewin Cymru Iachach i sicrhau bod gwasanaethau digidol mor hygyrch â phosibl i ddefnyddwyr newydd.
Os hoffech fynd ar-lein er mwyn cymryd rhan, ond yn ansicr sut i gychwyn, gall Hwb Cymunedol Cyngor Sir Penfro eich helpu. Ffoniwch yr Hwb Cymunedol ar 01437 776301 os gwelwch yn dda neu ebostiwch communitycovid19@pembrokeshire.gov.uk am wybodaeth bellach.
Fel arall gallwch ddod o hyd i’n Cyngor Zoom ar gyfer Gweithdai Ar-Lein.
Gallwch ddarllen mwy am ein mesurau diogelu ar gyfer cynhadledda ar-lein a’n côd ymddygiad.
Mae SPAN yn ymroddedig i’r hawl sylfaenol sydd gan bawb sy’n dymuno hynny i gael mynediad at ein gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg a byddwn yn ymdrechu i gadw at yr egwyddor wrth gyflawni’n gwasanaethau.