Cân y Ffordd Euraidd / The Song of the Golden Road - Span Arts
22751
post-template,post-template-single-project,post-template-single-project-php,single,single-post,postid-22751,single-format-standard,bridge-core-2.3.8,ajax_fade,page_not_loaded,,qode-title-hidden,qode_grid_1200,footer_responsive_adv,qode-child-theme-ver-1.0.0,qode-theme-ver-22.3.1,qode-theme-bridge,disabled_footer_bottom,qode_advanced_footer_responsive_1000,wpb-js-composer js-comp-ver-6.6.0,vc_responsive

Cân y Ffordd Euraidd / The Song of the Golden Road

Y daith hyd yn hyn…

Yr haf yma rydym wedi bod yn cyflawni Cân y Ffordd Euraidd mewn partneriaeth gyda Rowan O’Neill a PLANED fel rhan o’r prosiect Ein Cymdogaeth Werin Preseli.

Bydd Cân y Ffordd Euraidd yn creu baled radio mewn ymateb i Ein Cymdogaeth Werin o Grymych i Gwm Gwaun.

Y Ffordd Euraidd yw’r enw a roddir i lwybr troed hynafol sy’n tramwyo crib saith milltir mynyddoedd y Preselau o Foel Drygarn i Fwlch Gwynt.
Mae’r prosiect wedi cymryd ffurf cyfres o weithdai a theithiau cerdded o’r cymunedau sydd yn byw wrth droed y Preselau gan gloi gyda thaith gerdded gymunedol ar hyd y Ffordd.

Euraidd ei hun ar Ddydd Mawrth 31ain Awst yng nghwmni Ewan Rees o VIP Wales.

Cyfranogwyr prosiect Cân y Ffordd Euraidd ar gopa Foel Cwm Cerwyn mynydd ucha’r Preselau gyda Swyddog Datblygu Cymuned Ein Cymdogaeth Werin Preseli, Sophie Jenkins 

Mae’r gweithdai wedi bod yn gyfle i ddod i adnabod y lle o wahanol bersbectifau, gan gynnwys cyflwyniadau gan arbenigwyr a wahoddir, gyda theithiau cysylltiedig yn rhoi cyfleoedd i gyfnewid straeon, a recordio seiniau. Mae’r gweithdai, sy’n seiliedig ar leoliadau, wedi dilyn gwahanol themâu: ym Mrynberian y cyfnod megalithig oedd y ffocws pan ymunodd yr Archeolegydd Cymunedol Tomos Jones a’r ymchwilydd megalithig Robin Heath â ni ar daith dywys o amgylch safle Waun Mawn.

Yr ymchwilydd megalithig Robin Heath a’r  Archaeolegydd Cymunedol Tomos Jones ar safle Waun Mawn

Amaethyddiaeth oedd yn cymryd ein sylw yng Nghrymychgyda mewnbwn gan Mary Chadwick, swyddog cadwraeth Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro, ac Arwel Evans, Pensarn, Swyddog Cyswllt Ffermio’r Parc Cenedlaethol.  Wrth gerdded i fyny Foel Drygarn, rhannodd Sophie Jenkins, Swyddog Prosiect PLANED, ei hatgofion teuluol o ffermio defaid ar y bryniau, a’r broses o drawstrefa (transhumance) lle mae defaid Preseli yn cael eu symud i faes tanio Castell Martin i bori dros y gaeaf. 

Tractor ar y ffordd i baradwys

Yn Hermon ymunodd yr Athro Martin Johnes – hanesydd teledu a chyn-ddisgybl Ysgol Hermon – â ni a rhannodd ei ymchwil sy’n cymryd Ysgol Hermon fel astudiaeth achos i ystyried effaith polisi addysg y Wladwriaeth Fictoraidd ar y defnydd o’r Gymraeg yng nghymunedau Cymreig yn gynnar yn yr ugeinfed ganrif.  Rhoddodd y Cynghorydd Cris Tomos sgwrs ysbrydoledig ynglŷn â’r ymgyrch i achub yr ysgol yn gynnar yn y mileniwm, gan gynnwys y protestiadau niferus ac apeliadau i’r llys a sefydlu’r Ganolfan ar ôl i’r ysgol gael ei chau.  Daeth y prynhawn i ben gyda thaith ingol o gwmpas Bwlch Y Dŵr – y llwybr yr arferai plant yr ysgol gerdded gyda’i gilydd fel rhan o’u hastudiaethau dosbarth. 

Y daith i Fwlch Y Dŵr 

Ar un o ddiwrnodau poethay flwyddyn ymwelodd y prosiect â Mynachlog Ddu lle’r oedd crefydd a heddwch yn thema.  Ein bugail am y diwrnod oedd yr hanesydd lleol ac awdur Hefin Wyn. Cyflwynodd ein pwnc yn lleoliad addas Capel Bethel gan gloi ei sgwrs gyda rhywfaint o ganu emynau’n ddifyfyr.  Dysgon ni am Frwydr Preseli a’r gweinidogion a helpodd i i atal y fyddin rhag troi’r bryniaun faes hyfforddi milwrol.  Ymwelon ni â’r Garreg Goffa Waldo Williams lle cawsom wledd o lefaru barddoniaeth a rhai geiriau o ddoethineb ar ysbrydoliaeth farddonol, iaith a chyfieithu gan Wyn Owens a Rhian Medi.  Ar ôl cinio yn Dangarn cerddon ni ymlaen i Garnabwth, y tŷ unnos a oedd yn gartref i arweinydd Merched Beca, sef Twm Carnabwth, ac yna i ysgubor  Glynsaithmaen lle cyfarfu mudiad Beca gyntaf.   

Wrth ymyl Carreg Goffa Waldo Williams

Yn Rhosybwlch dysgoni am orffennol diwydiannol ardal Preselau gan yr archeolegydd diwydiannol Dr Peter Claughton a’n arweiniodd ni ar ymweliad i safle’r chwarel o dan gopa Foel Cwmcerwyn.  Roedd hon yn daith heriol dros dir garw a serth ond roedd yn werth yr ymdrech er mwyn profi’r golygfeydd godidog o’r chwarel yn dychwelyd i natur a’r dirwedd o gwmpas, gan gynnwys gweld gwalch bach, aderyn ysglyfaethus lleiaf y DU.  

Camu mewn i’r hen chwarel islaw i gopa Foel Cwmcerwyn

Cynhaliwyd gweithdy cymunedol olaf y gyfres yng Nghwm Gwaun.  Yma ymunodd yr athrawes a’r hanesydd lleol Hedydd Hughes â ni. Mae Hedydd yn dysgu yn Ysgol Llanychllwydog ac mae ganddi wybodaeth eang am dreftadaeth leol, diwylliant a thafodiaith gan gynnwys traddodiadau fel Hen Galan a’r dull o ganu’r salmau a adnabydddir fel ‘Canu Pwnc’.  Dysgodd Hedydd cwpl o ganeuon i ni gan gynnwys ‘Milgi Milgi’ a daeth hi ag arddangosfa hynod ddiddorol o arteffactau, llyfrau ac eitemau o ddiddordeb lleol.  Roeddem hefyd yn falch o gael Richard Vaughan, Parcmon y Parc Cenedlaethol a brodor o Gwm Gwaun, gyda ni a rannodd ei atgofion o gael ei fagu a thyfu lan yn y cwm.   

 

Hedydd Hughes yn arwain y gân

Yn ystod y prynhawn yng Nghwm Gwaun roedd ‘na gyfle i rannu cerddoriaeth ardal Preseli pan ofynwyd i gyfranogwyr i’r gweithdy ddod a cherddoriaeth a chaneuon roeddent yn teimlo oedd yn berthnasol i’r ardal.  Rhannodd Jacob Whittaker, sy’n recordio sain ar y prosiect, ambell record o’i gasgliad finyl trawiadol gyda recordiau fel Cantorion Ingli a Lleisiau Preseli, recordiad o Gôr Ysgol Preseli o’r 1970au.  Clywsom hefyd recordiad o Ganu Pwnc o Rydwilym a sengl Ail Symudiad ‘Garej Paradwys’ o gasgliad recordiadau Shelley Morris.  Roedd yn arbennig o ingol i wrando ar y recordiad ar y diwrnod hwnnw.  Daeth Judith Rees, un o gyfranogwyprosiect â’i chân eu hun a oedd wedi’i recordio gyda’i ffrindiau y noson gynt am eu cyffro wrth ddisgwyl ymweld â Chwm Gwaun! 

Recordiau Preseli

Cynhyrchu’r Faled Radio

Yng Nghwm Gwaun daeth Paul Evans atom am y tro cyntaf.  Mae Paul wedi’i benodi’n olygydd a chynhyrchydd y faled radio. Mae Paul yn beiriannydd sain ac yn gynhyrchydd gwobrwyedig o raglenni nodwedd i’r radio. Mae e wedi gweithio gyda BBC Radio Cymru a BBC Radio Wales gyda hanes arbennig o wneud rhaglenni dogfen am gerddoriaeth.  Mae ganddo hefyd gysylltiad cryf gyda’r ardal – roedd ei hen hen dad-cu yn arweinydd y Côr yng Nghapel Pisga Llandysilio ac yn gyfansoddwr cerddoriaeth gorawl hefyd.  Rydym yn falch iawn i weithio gydag ef ar y prosiect.

Paul Evans, Golygydd a cynhyrchydd y Faled Radio

Beth sydd nesaf?

Rydym nawr yn symud ymlaen i elfen creu cerddoriaeth y prosiect ac yn gwahodd unrhyw un sy’n canu offeryn i gymryd rhan yn ein gweithdy cerddoriaeth penwythnos Saernïo Cân y Ffordd Euraidd / Crafting the Song of the Golden Road a fydd yn digwydd ar benwythnos y 25/26 Medi. Bydd y sesiynau dwyieithog hyn yn cael eu harwain gan y cerddor cymunedol profiadol Stacey Blythe o’r grŵp Ffynnon. Bwriedir i’r sesiynau yma fod yn hwyl ac yn agored i unrhyw un sy’n canu offeryn ond nad yw, efallai, yn cael cyfle i greu cerddoriaeth gyda phobl eraill yn aml.

Stacey Blythe

Ysbryd y Preselau yn croesawu cerddwyr Cân y Ffordd Euraidd i’r mynyddoedd

I ddarganfod mwy am y prosiect gweler ein map digidol.

Lluniau gan Sophie Jenkins

Mae’r prosiect Cân y Ffordd Euraidd yn ymateb i ddau faes prosiect PLANED ‘Ein Cymdogaeth Werin’ a ariennir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol fel rhan o’r Cynllun Lle Gwych, sef Llwybrau at Wreiddiau ac Ein Hamgueddfeydd. Nod Llwybrau at Wreiddiau yw dod â phobl ynghyd i archwilio a chanfod treftadaeth gyffyrddadwy ac anghyffyrddadwy, gweithgareddau treftadaeth a diwylliannol heddiw ac yn y gorffennol, a digwyddiadau, yn ogystal â sgiliau treftadaeth sydd mewn bodolaeth a bylchau mewn sgiliau. Bydd deunydd a ymchwilir yn ffurfio sylfaen i ddehongli treftadaeth gyda gwahanol gymunedau yn creu cynnyrch penodol er mwyn dathlu eu hanes lleol; nod Ein Hamgueddfeydd yw archwilio cysyniad amgueddfeydd yn ôl y profiad traddodiadol ohonynt er mwyn darganfod ffyrdd newydd a chyfannol o gyflwyno treftadaeth leol, hyn yn arbennig o gofio natur wledig yr ardal