Carys Mol - Span Arts
25415
post-template-default,single,single-post,postid-25415,single-format-standard,bridge-core-2.3.8,ajax_fade,page_not_loaded,,qode_grid_1200,footer_responsive_adv,qode-child-theme-ver-1.0.0,qode-theme-ver-22.3.1,qode-theme-bridge,qode_advanced_footer_responsive_1000,wpb-js-composer js-comp-ver-7.2,vc_responsive

Carys Mol

Mae Carys Mol yn Gynhyrchydd Creadigol ac yn un o’r Hwyluswyr Lles cyntaf sy’n gweithio yn y diwydiant teledu a ffilm yng Nghymru. Mae ei hymarfer cynhyrchu yn rhyngddisgyblaethol, gan weithio ar draws theatr, celfyddydau awyr agored, cerddoriaeth, celfyddydau gweledol a phrosiectau cymunedol yng Nghymru (Theatr Hijinx, Articulture). Mae ganddi brofiad arbennig o gefnogi artistiaid ag anghenion mynediad, gan gyd-ddylunio fframweithiau sy’n helpu pobl i greu yn y ffyrdd sy’n gweithio orau iddyn nhw. Mae Carys yn gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg ac ar hyn o bryd mae’n Gydymaith Cyngor Celfyddydau Cymru (2023-25).