activity

current project, watch

Pererin Wyf
Is Oilithreach Mé
I am a pilgrim

Seinio’r ffordd yn ôl trwy stori a chân Prosiect celfyddydau cyfranogol yw Pererin Wyf / Is oilithreach mé sy’n ceisio cysylltu gyda Chymry a Gwyddelod alltud gan gyfeirio’n benodol at Sir Benfro a Llwch Garmon (Wexford) a phererindod drawsffiniol newydd sydd â’r bwriad o gysylltu’r ddau le. Daw teitl ac ysbrydoliaeth y prosiect o emyn o’r 18fed ganrif gan yr emynwr toreithiog o Gymru, William Williams, Pantycelyn. Bydd y gân sy’n adnabyddus iawn yng Nghymru ac i’r Cymry alltud hefyd yn gyfarwydd i lawer iawn o bobl eraill ledled y byd gan ei bod yn cael ei chanu’n bennaf ar dôn Amazing Grace. Daeth y prosiect i ben ym mis Mai 2023 gyda digwyddiad ar-lein lle rhannwyd ffilm ddogfen am y prosiect a chân newydd oedd wedi ysgrifennu mewn ymateb i'r prosiect.  Dilynodd y gweithgareddau yma gyda chyngerdd yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi a chafodd eu ffrydio'n fyw ar-lein hefyd. Map Caneuon y ‘Diaspora’ Cynsail sylfaenol y prosiect oedd gwahodd pobl lle bynnag y bônt yn y byd i ganu’r gân hon neu fersiwn o’r gân hon neu unrhyw gân sydd â’r gallu i’ch galw chi nôl adre ac i binio’r recordiad hwnnw i’n map ar-lein. Croeso i chi binio cân [...]
current project, join in, project

Straeon Cariad at Natur

Rydym yn gwahodd artistiaid ac ymarferwyr creadigol i anfon eu syniadau atom ar gyfer gwaith newydd fel rhan o'n comisiynau Straeon Cariad at Natur. Mae angen i bob syniad ymateb mewn rhyw ffordd i'r ysbardun Yr Amgylchedd. Beth ydyn ni'n ei olygu gan yr Amgylchedd? Defnyddiwn y gair hwn yn ei gyd-destun ehangaf posibl: Gallai gael ei ysbrydoli gan, neu mewn ymateb i, ein hamgylchedd ffisegol naturiol boed yn drefol neu’n wledig, mynyddoedd neu arfordir, caeau neu goedwigoedd. Gallai fod yn facro neu ficro, o'r cyd-destun byd-eang i ficrobioleg Mae angen i bob syniad ymateb mewn rhyw ffordd i'r ysbardun Yr Amgylchedd. Gallai fod yn argyfwng hinsawdd rydym i gyd yn ei wynebu, o her fyd-eang i weithredoedd personol bob dydd Gallai fod ein perthynas ni â'r amgylchedd, ei bwysigrwydd, ei effaith neu ei werth ar raddfa bersonol, gymunedol neu gymdeithasol. Gallai fod yn unrhyw un o'r pethau hyn neu’n ddim un ohonynt, gofynnwn i chi ddiffinio beth mae'n ei olygu mewn perthynas â'ch syniad. Gwaith celf gan Emma Baker Beth rydym yn chwilio amdano Syniadau sy'n: Dod o'r galon. Yn ysbrydoledig, yn arloesol, ac yn greadigol. Yn uchelgeisiol, yn bryfoclyd, ac yn atyniadol. Ydy Sir Benfro/Gorllewin Cymru yn canolbwyntio
completed project, watch

‘Saernïo Cân y Ffordd Euraidd’: Ffilm Fer Ynglŷn â Chreu’r Faled Radio

Ar y 26ain o Dachwedd cynhaliwyd digwyddiad yn Neuadd Llwynhirion ym Mrynberian, Gogledd Sir Benfro, i ddathlu diweddglo prosiect PLANED Ein Cymdogaeth Werin Preseli.  Mae Span wedi cymryd rhan annatod mewn gwireddu elfennau creadigol y prosiect dros y tair blynedd diwethaf.  Yn ystod y digwyddiad dathlu cafodd ffilm fer ynglŷn â’r prosiect ei dangos.  Mae’r ffilm yn dogfennu gweithdai cerddoriaeth y prosiect yn benodol yn ogystal â’r cefndir i ysbrydoliaeth y prosiect a’i amodau.   Yn 2018 gweithiodd Span gyda’r arlunwyr Penny Jones a Nia Lewis ar y prosiect Pwytho Straeon oedd yn plethu tecstilau, technoleg ddigidol a threftadaeth er mwyn creu cwilt clytwaith oedd yn llefaru straeon ynglŷn ag ardal Preseli wrth gael ei gyffwrdd. Dilynwyd hyn yng ngwanwyn 2019 gyda Slam Barddoniaeth Y Preseli,  yn gweithio gyda’r bardd Karen Owen ar gyfres o weithdai ysgrifennu mewn ysgolion a chartrefi pobl gydag uchafbwynt o’r slam barddoniaeth ei hun yn Neuadd Goffa Trefdraeth.  Ar ddiwedd y prosiect, yr haf yma gweithion ni mewn partneriaeth a Rowan O’Neill a PLANED i gynhyrchu’r faled radio Cân y Ffordd Euraidd a chafodd ei lansio mewn parti gwrando yn Nhafarn Sinc ar y 6ed o Dachwedd 2021. Gwaith clywedol estynedig yw baled radio, yn
News, watch

Gwrandewch Nawr: Baled Radio Cân y Ffordd Euraidd

Ar Nos Sadwrn 6ed Tachwedd cynhaliwyd digwyddiad parti gwrando arbennig yn Nhafarn Sinc ar gyfer penllanw’r prosiect loteri treftadaeth Cân y Ffordd Euraidd – The Song of the Golden Road.  Mae’r prosiect sydd wedi bod yn rhedeg ers Mai 2021 wedi creu baled radio mewn ymateb i Ein Cymdogaeth Werin Preseli o Grymych i Gwm Gwaun. Yn tynnu ysbrydoliaeth o waith Charles Parker, Ewan MacColl a Peggy Seeger a’u baledi radio i ddiwydiant a ffyrdd o fyw eraill a  ddarlledwyd ar y BBC ar ddiwedd y 50au a dechrau'r 60au, mae’r prosiect wedi cynnal sgyrsiau, teithiau cerdded, cyfweliadau a gweithdai cerddoriaeth gan recordio deunydd ym mhob digwyddiad.  Cynhaliwyd y digwyddiadau mewn gwahanol leoliadau o amgylch y Preselau a’r Ffordd Euraidd, enw a roddir i’r llwybr troed hynafol sy’n tramwyo crib mynyddoedd y Preselau. Cafodd faled radio, gwaith clywedol estynedig sy’n plethu iaith lafar, sain amgylchynol, caneuon traddodiadol a cherddoriaeth a geiriau newydd, ei chreu o’r deunydd craidd dwfn a chyfoethog a recordiwyd.  Mae’r faled derfynol sy’n awr o hyd yn plethu bywydau ac ieithoedd byw ardal y Preselau at ei gilydd yn fedrus. Yn Nhafarn Sinc ymunodd y cerddor Stacey Blythe, arweinydd y gweithdai cerddoriaeth ar gyfer y faled, â
watch

Côr Pawb – Lean on Me

Côr rhithiol gyda rhai o aelodau o Gôr Pawb a ddaeth at ei gilydd yn ystod Hydref 2020. Gobeithio y bydd y côr yma, sydd â dros gant o aelodau rhwng 0 a 100 oed, yn gallu dod at ei gilydd i ganu unwaith eto cyn hir fel y gwnaethon nhw yn y gorffennol mewn digwyddiadau a ddaeth â lleisiau o bob oed at ei gilydd.
watch

Memortal/Cofio

Prosiect ymchwil a datblygu cydweithredol wedi’i arwain gan SPAN oedd Memortal/Cofio, yn rhan o Span Digidol – cyfres o brosiectau peilot i  roi ar brawf sut y gellid defnyddio technoleg ddigidol yn greadigol i gynyddu cysylltedd a lleihau unigrwydd ac ynysiad. Roedd y prosiect yn golygu gweithio gyda phobl oedd yn marw, rhai oedd yn awyddus i baratoi ar gyfer marwolaeth, pobl hŷn sydd wedi eu hynysu, rhai oedd mewn perygl o farw ar eu pennau eu hunain a pherthnasau pobl sydd wedi marw. Nod y prosiect oedd cynllunio offeryn digidol/ap i helpu pobl i greu eu cofnod coffa eu hunain yn dathlu eu bywydau neu fywyd anwylyn. Gan weithio gyda’r artist animeiddio Gemma Green-Hope a’r datblygydd apiau Owen Davies a thrwy ymgynghoriad â chymunedau, cyfranogwyr a rhanddeiliaid, nod y prosiect oedd cynhyrchu cynnwys a syniadau ar gyfer strwythur ap sy’n hygyrch ac yn hawdd ei ddefnyddio. Roedd Louis Embra, Suzanne Radley-Smith, Neil Jordan, Rozanne Hawksley, Charleen Agostini a Hunter Graham yn gyfranogwyr unigol. Yn ogystal, gweithion ni gyda Gofal Solfach  a Chaffi Tosturiol Cymunedol Brynberian, gyda chefnogaeth ariannol gan Grant Cymunedau Gofalgar CGGSB a thrwy Span Digidol, wedi’i ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru a’r rhaglen LEADER a weinyddwyd gan
watch

We are not alone

Ym mis Hydref 2019 teithiodd Clwb Digi Span Digidol i Ysgol Gynradd Aber Llydan i weithio gyda disgyblion blynyddoedd 5 a 6 ar animeiddiad byr i’w ddangos yn ystod Parêd Llusernau Hwlffordd, ‘Dros y Lleuad’. Thema’r digwyddiad oedd y gofod, wybren y nos a hanner canmlwyddiant glanio ar y lleuad. Dangoswyd yr animeiddiad ar sgrin sinema wedi’i phweru gan bedalau  a ddarparwyd gan Electric Pedals sy’n cyfuno syniadau am gynaliadwyedd, ymwybyddiaeth ynni ac iechyd ac ymarfer gyda digwyddiadau cymunedol. Diolch i Sarah Hope a Gemma Green-Hope am eu cymorth gyda’r animeiddio.
watch

Noson Gartrefol Nadoligaidd SPAN

Gwyliwch ein noson Nadoligaidd pan fwron ni olwg yn ôl a dathlu holl weithgareddau Span yn 2020. Gydag Anna Sherratt a rhai o’n gwirfoddolwyr gwych yn cyflwyno, roedd cymysgedd o gerddoriaeth, ffilmiau, theatr ar-lein, cwisiau, a raffl ar-lein. Gwisgodd y gwylwyr eu dillad mwyaf pefriog i ddod â’r flwyddyn i’w therfyn mewn steil!  
make

Eco Brintio

Dysgwch sut i brintio â sgrin gan ddefnyddio defnyddiau naturiol yn unig gyda’r darlunydd Kate Kekwick. Byddwch yn cynhyrchu print deuliw gan ddefnyddio stensiliau papur a phastau printio naturiol. Dyma restr o ddefnyddiau gweithdai printio. Gellir cyfnewid nifer o’r eitemau am bethau yn y cartref sydd ar gael yn gyffredin gobeithio- fel arall mae e-bay ar gael!
make

Angenfilod Broc Môr

Os ydych yn mynd am y traeth beth am gasglu broc môr a’i ddefnyddio i greu angenfilod gyda’r cynllunydd a gwneuthurwraig Di Ford? Dyma weithgaredd hwyl a hawdd iawn y gall y teulu cyfan ei fwynhau a’r cyfan sydd ei angen yw: Broc môr Paent a brwshis paent Pen ffelt du Eich dychymyg! Gwyliwch y tiwtorial cyfarwyddiadau ar y fideo isod a rhannwch eich creadigaethau gyda ni trwy: Instagram – @spanartsnarberth Facebook – @spanarts E-bost      – info@span-arts.org.uk Mae gennym nifer o angenfilod bach gwych yn barod, edrychwn ymlaen at weld eich rhai chi!!
make

Peintiwch feidr

Guy Manning yn arwain arddangosiad o beintio’r feidr sydd i’w gweld o’i ddrws ffrynt. Myfyrdod hynaws ar gyferbyniad, arlliw a thôn. Cynhaliwyd y gweithdy ar Fai 16eg 2020. "This is the lane I walk on every day with our dog, sometimes twice daily. In this step-by-step demonstration, alongside oil paints on canvas, I show you how you can plan the painting using things like everyday cardboard and house emulsion etc, so you can all have a go even if you haven't access to a box of art paints."     Camodd Guy i’r byd digidol am y tro cyntaf gyda’i gyfres o gardiau post o Sir Benfro pan osododd her iddo fe’i hunan i baentio delwedd o Sir Benfro yn ddyddiol a’i rhannu’n ddigidol am flwyddyn. Ers hynny mae Guy wedi agor yr ‘Art Room’ yn Ninbych-y-pysgod. Croesawn rhoddion Gyda chefnogaeth  Cyngor Celfyddydau Cymru a Leader, Arwain Sir Benfro. Cafodd y sesiwn ei ffrydio’n fyw ar Fai 16eg 2020.
current project, join in, watch

Theatr Soffa

Gallwch nawr wylio perfformiad gwych o: Chwedlau o'r Normal Newydd: Dod o Hyd i Mi Mewn Môr o Newid. Isod mae dau ddangosiad, y ddau gydag isdeitlau Cymraeg a'r ail gyda dehonglydd BSL. Os hoffech weld y ffilm gydag isdeitlau Saesneg, cliciwch ar y botwm ‘CC’ wrth ymyl y botwm cyfrol yn y gornel dde ar y gwaelod. Sylwch fod y ddrama hon yn addas am oedran 14+ oed ac cynnwys y rhybuddion sbardun canlynol: trafodaeth am farwolaeth, trafodaeth am fesurau COFID-19 a brechiadau, trafod cyfrifoldebau gofalu a chyflyrau iechyd hirdymor, trafodaeth am iechyd meddwl, trafodaeth am ganser, rhegi.  “Mae’r rhaglen a luniwyd gan Span wedi fy helpu drwy roi rheswm i mi gadw fy mywyd mor normal â phosibl, rheswm i godi o’r gwely, gwisgo a chael eillio!” “Roeddwn i’n teimlo fy mod wedi cau i ffwrdd ond mae’r prosiect wedi rhoi bywyd cwbl newydd i mi”   Roedd y prosiect mor llwyddiannus fel bod y cast a'r criw yn awyddus i ddechrau gweithio ar dri drama arall yn yr Hydref 2020. Roedd y cyntaf yn ail-greuad hynod o frwdfarol o Dracula. Roedd yr ail yn ddarn ysgrifennu gwreiddiol a wnaed gyda'r gymuned dan arweiniad Ceri Ashe a elwid
watch

Black Voices

Wedi’i ffurfio ym 1987 gan eu Cyfarwyddwr Cerddorol Carol Pemberton MBE, mae Black Voices wedi ennill clod fel pumawd a cappella merched gorau Ewrop. Ers dros 25 mlynedd mae’r ensemble wedi cyfareddu cynulleidfaoedd ar draws y byd gyda’u canu a pherfformiadau yn nhraddoddiad llafar du – ffurf o gerddoriaeth gynnar wedi’i seilio ar lên gwerin a chwedleua hynafol Affrica  a’r gwasgariad sydd wedi effeithio ar ddatblygiad cerddoriaeth glasurol a genres mwy diweddar  megis canu’r felan a jazz. Gan dynnu ysbrydoliaeth o’r traddodiad cyfoethog hwnnw mae Black Voices wedi datblygu repertoire a threfniannau unigryw o ganeuon ysbrydol, caneuon gwerin traddodiadol o Affrica, y Caribî a Lloegr, jazz, gospel, pop a reggae yn ogystal â chyfuniad o arddulliau cyfoes a chlasurol sydd wedi ennill iddynt gydnabyddiaeth fyd-eang fel cwmni perfformio a dysgu. Mae Black Voices yn ei hystyried yn fraint eu bod wedi cael eu dewis i berfformio o flaen aelodau’r teulu Brenhinol Prydeinig yn y DU a thramor. Ym 1988 perfformiodd yr ensemble mewn cyngerdd awyr-agored ar gyfer y Pab Ioan Pawl II yn Loreto, Yr Eidal, ac yn 1996 o flaen y cyn Arlywydd Nelson Mandela yng Nghyngerdd y Ddwy Genedl yn Neuadd Albert. Yn teithio’r byd gyda’u sain nodweddiadol,
activity, watch

Ein Cysylltiadau ag Affrica

Cynhaliodd Molara, y gantores ac ymarferydd y celfyddydau, y chwedleuwr Phil Okwedy a’r bardd Eric Ngalle Charles, gyfres o weithdai dros alwadau fideo yn archwilio cysylltiadau Cymru â chyfandir Affrica. Trwy chwedleua, barddoniaeth a mwy, rhanodd y cyfranogwyr eu cysylltiadau gyda’r lleoedd, pobl, dillad, bwyd, cerddoriaeth ac ieithoeddd sydd gyda’i gilydd yn ffurfio’r cyfandir ail fwyaf yn y byd.  
join in

Map Digi Penfro

Mae’r Map yn cofnodi natur, gwyddoniaeth, celf, hanes a barddoniaeth. Mae pwyntiau wedi eu gosod gan bobl hen ac ifanc ac yn y canol, gyda’u hatgofion, eu gwybodaeth a’u syniadau. Gallwch chi ychwanegu rhai hefyd.

make

Creu bocs anrheg

Fel rhan o’n Prosiect Caredigrwydd, Dangoswch e. Rhannwch e. Ein gwirfoddolwraig Ann Maidment yn arddangos sut i greu’ch bocs anrheg eich hun drwy animeiddio stop symud.
make

Tiwtorial pyped aderyn marionét

Y cynllunydd a gwneuthurwraig pypedau Di Ford yn dangos i chi sut mae gwneud eich pyped aderyn marionét eich hun! Gan ddefnyddio defnyddiau o’r cartref byddwch yn dysgu sut i greu’r cymeriad bach hapus yma a dod yn grëwr pypedau!    
make

Cynllunio a chreu clytiau gweuedig

Dewch i greu clytiau gweuedig unigryw ar gyfer eich prosiectau cwiro neu i uwchgylchu dillad neu decstilau’r cartref. Gallwch drawsnewid eich basged gwiro gyda’r dechneg hawdd yma. Mae’r posibiliadau’n ddiddiwedd a gellir eu cyflawni gan ddefnyddio defnyddiau ac offer a geir o gwmpas y cartref. Dysgwch sut i amrywio’r gwneuthuriad i greu ansoddau a chyfuniadau lliwiau diddorol gyda phob clwt yn perthyn yn unigryw i chi. Gobeithio y gwnewch chi fwynhau!  
Scroll to Top