Straeon Cariad at Natur
Mae Celfyddydau SPAN yn comisiynu gwaith newydd ar gyfer ein prosiect ‘Straeon Cariad at Natur’ ac yn gwahodd artistiaid ac ymarferwyr creadigol i gyflwyno eu syniadau. Bydd y gwaith comisiwn yn cael ei greu yn benodol ar gyfer, ac mewn cydweithrediad â, Chelfyddydau SPAN. Artwork by Emma Baker Mae angen i bob syniad ymateb mewn rhyw ffordd i ysgogiad Yr Amgylchedd. Beth ydyn ni’n ei olygu gan Yr Amgylchedd? Rydym yn defnyddio’r gair hwn yn ei gyd-destun ehangaf posibl: Gellir ei ysbrydoli gan, neu mewn ymateb i, ein hamgylchedd ffisegol naturiol ac adeiledig, boed yn drefol neu’n wledig, mynyddoedd neu arfordir, caeau neu goedwigoedd. Gallai fod yn facro neu’n ficro, o’r cyd-destun byd-eang i ficrobioleg. Gallai fod yr argyfwng hinsawdd yr ydym i gyd yn ei wynebu, o her fyd-eang i weithredoedd personol bob dydd. Gallai fod ein perthynas ni â’r amgylchedd, ei bwysigrwydd, ei effaith neu ei werth ar raddfa bersonol, gymunedol neu gymdeithasol. Gallai fod yn unrhyw un o’r pethau hyn neu’n ddim un ohonyn nhw, gofynnwn i chi ddiffinio’r hyn y mae’n ei olygu mewn perthynas â’ch syniad. Am beth rydym ni’n chwilio? Syniadau sydd: Yn dod o’r galon Yn ysbrydoledig, yn arloesol ac yn greadigol Yn […]