News

News

Yn cyflwyno Cymuned – Cyngherddau o safon ac am ddim yng nghalon ein Cymuned.

Yn cyflwyno Cymuned – Cyngherddau o safon ac am ddim yng nghalon ein Cymuned. Mae Sinfonia Cymru’n gerddorfa unigryw, mae Cymuned wrth galon popeth mae’n nhw’n gwneud, ac mae nhw’n angerddol am sicrhau bod pawb yng Nghymru yn cael y cyfle i brofi cerddoriaeth cerddorfaol byw ac o safon, mewn lleoliadau cartrefol.    Os wyt ti’n meddwl bod cerddoriaeth cerddorfaol ddim yn rhywbeth i ti, neu os wyt ti’n ansicir a fyddi di’n ei fwynhau, rho gynnig arni. Mae’r cyngherddau Cymuned yn awr o hyd, yn cael eu cyflwyno gan grŵp bach o gerddorion o’r gerddorfa, pob un dan 30 oed ac ymhlith y cerddorion ifanc gorau yn y DU heddiw. Mae’n cynnwys amrywiaeth o gerddoriaeth at ddant pawb. Croeso cynnes i bawb o bob oed. Ydy, mae pob tocyn am ddim – ond cofiwch archebu tocyn o flaen llaw i sicrhau eich lle.     DONATE

News

Camwch i Hud Shakespeare yr Haf Hwn gyda Pherfformiad Celfyddydau SPAN o The Comedy of Errors yn yr Awyr Agored

Camwch i Hud Shakespeare yr Haf Hwn gyda Pherfformiad Celfyddydau SPAN o The Comedy of Errors yn yr Awyr Agored Yn dilyn llwyddiant y cynhyrchiad hudolus o’r Tempest llynedd, mae Celfyddydau SPAN wrth eu bodd i groesawu’r Festival Players yn ôl ar gyfer noson arall o Shakespeare yn yr awyr agored a hynny ar dir godidog Lampeter House ger Arberth. Cynhyrchiad eleni:   Dydd Gwener Mehefin 12fed| Lampeter House, Arberth | Drysau’n agor 6pm | Perfformiad yn cychwyn 7pm   Yn un o ddramâu cynharaf Shakespeare, mae’r Comedy of Errors yn dilyn hynt a helynt dau bâr o efeilliaid – dau frawd sy’n efeilliaid a’u dau was, sydd hefyd yn efeilliaid – sy’n cael eu gwahanu gan longddrylliad. Pan, heb yn wybod iddyn nhw, maen nhw’n cyrraedd yr un dref ar yr un dydd, mae corwynt o gymhlethdod yn datblygu.   Gyda chamadnabyddiaeth yn arwain at anhrefn comig, ymddengys bod gwŷr yn cwympo mewn cariad â’r bobl anghywir, mae dyledion heb eu talu, ac mae gweision yn cloi eu meistri allan o’u cartrefi eu hunain. Wrth i’r dryswch gynyddu, mae’r ddrama yn archwilio themâu hunaniaeth, teulu a pherthyn.   Mae’r Festival Players yn dod â’r ffars hwyliog hon yn fyw,

News

Arddangosfa Gelf Barddoniaeth fel Protest yng Nghelfyddydau SPAN.

Arddangosfa Gelf Barddoniaeth fel Protest yng Nghelfyddydau SPAN. Arberth, Sir Benfro – Bydd ‘Mae Gwrthwynebiad yn Ffrwythlon’, arddangosfa o farddoniaeth brotest wedi ei gyflwyno fel celf weledol gan Feirdd Arberth, yn agor yng Nghelfyddydau SPAN yn Arberth ar Fai 6 rhwng 2.30 a 4.30yp. Bydd yr arddangosfa, sy’n dod â barddoniaeth a gwaith celf cysylltiedig at ei gilydd, yn rhedeg tan Fehefin 4. Mynediad am ddim. Mae croeso cynnes i ymwelwyr fynychu digwyddiad Croeso Mercher arbennig ar Fai 27 am 10.30yb, gyda darlleniadau byw gan y beirdd. Mae’r arddangosfa yn amlygu gwaith newydd a gwaith wedi’i ddatblygu gan chwe bardd — Bean Sawyer, Jane Campbell, Jackie Biggs, Jean Riley, Christian Donovan, ac Emma Baines. Ers digwyddiadau cynt yn Amgueddfa Arberth yn yr haf llynedd ac Oriel y Parc, Tyddewi yn gynharach eleni, mae’r artistiaid wedi ehangu’r casgliad gyda darnau newydd. Crëwyd ‘Mae Gwrthwynebiad yn Ffrwythlon’ fel ymateb i anghyfiawnderau gwleidyddol, cymdeithasol ac amgylcheddol yn y byd heddiw. Nod y beirdd yw ysbrydoli myfyrdod ac annog cynulleidfaoedd i gwestiynu a herio’r status quo trwy eu gwaith. Mae’r arddangosfa’n amlygu sut gall  cydweithrediad a chreadigrwydd weithredu fel offer pwerus ar gyfer newid, tra’n cynnal teimlad o obaith. Mae cynulleidfaoedd blaenorol wedi ymateb

News

Codi Ei Llais: Portread Cyfunol o Fod yn Fam

Codi Ei Llais: Portread Cyfunol o Fod yn Fam Mae Ella Starling, artist portreadau a ffigurol o Sir Benfro, yn cyflwyno Codi ei Llais:Potread Cyfunol o Fod yn Fam, corff newydd o waith sy’n archwilio’r trawsnewid i famolaeth mewn cydweithrediad â mamau ar draws Sir Benfro. Gan weithio yn bennaf mewn paent olew a siarcol, mae Starling yn creu portreadau agos, llawn emosiwn sy’n creu lle ar gyfer profiadau nas dywedir yn aml.  Yn seiliedig ar gyfweliadau manwl gyda thair mam leol, ochr yn ochr â Chylchoedd Mamau a’i phrofiad byw ei hun, mae’r prosiect yn cynnig portread gonest o’r newid seicolegol ac emosiynol dwfn sydd yn dod gyda dod yn fam. “Rydw i eisiau creu cynrychiolaethau gonest a phersonol o famolaeth sy’n herio’r naratifau or-syml a chyfyngedig a welwn yn aml mewn diwylliant gweledol” Trwy sgwrs estynedig ac ystyriaeth gydweithredol, mae’r gwaith yn datgelu sut mae nifer o fenywod yn symud trwy enedigaeth a mamolaeth gynnar heb le i brosesu’r hyn a brofwyd ganddynt. Symuda’r ffocws yn gyflym at y plentyn, ac eto yn anaml y bydd trawsnewidiad mewnol a hyd yn oed trawma’r fam yn cael eu cydnabod. Mae un portread yn tynnu ar ddelwedd bwerus a ddisgrifir

News

Artist Call Out – Haverfordwest Lantern Parade

SPAN Arts has been commissioned to deliver a large-scale lantern parade event in Haverfordwest on Friday 30th of October 2026.   The parade aims to bring the community together in celebration of the town, its people, and Pembrokeshire. The parade and its theme will be shaped by the community, and we are looking for a lead artist/s to join us on this journey.   Starting with the open call to artists and community choice of theme, the engagement will continue through a targeted program of lantern-making workshops, and large lantern commissions. All this will culminate in the grand parade itself accompanied by live music and ending with an iconic light-based celebratory performance, putting the town on the map in terms of its commitment to quality and innovation and leaving a legacy of increased civic pride and connection.  SPAN is looking for artists to pitch visual concepts for the event, focusing on the design of large-scale lanterns/puppets that will be the centre point of the event.   This year’s parade is inspired by the theme: Noson Galan Gaeaf.  Long before trick-or-treat and pumpkin carving, Wales had its own ancient tradition on the night of 31st October. Literally meaning ‘Winter’s Eve’, Noson Galan Gaeaf was a night when the veil

News

Mae’r Sêl Fawr Blanhigion yn Dychwelyd i Arberth yn 2026.

Mae’r Sêl Fawr Blanhigion yn Dychwelyd i Arberth yn 2026. Dawn tyfu a dwylo creadigol yn uno wrth i Sêl Fawr Blanhigion hoff Gorllewin Cymru ddychwelyd ar gyfer 2026, gan ddod â’r goreuon o blanhigion, crefftau ac ysbryd cymunedol at ei gilydd. Yn digwydd yn Ysgol Gynradd Arberth, mae’r digwyddiad eleni yn cynnig lleoliad mwy, yn gymysgedd bywiog o dyfwyr planhigion lleol, meithrinfeydd planhigion a gwneuthurwyr eco-ymwybodol. Fel un o’r digwyddiadau cyntaf o’r fath yn y tymor mae’r sêl yn gyrchfan sy’n denu garddwyr o bob lefel. Gall ymwelwyr ddisgwyl amrywiaeth eang o blanhigion, o rhai suddlon i’w gosod ar silff ffenest a had-blanhigion i fathau  mwy anarferol ac arbenigol, yn berffaith i adnewyddu cartrefi a gerddi ar gyfer y gwanwyn. Ochr yn ochr â’r planhigion, bydd ffair grefft yn dangos amrywiaeth o gynhyrchion lleol, amgylcheddol ymwybodol, gan gynnwys sebonau wedi’u gwneud â llaw, tecstilau a chrefftau coed. Yn fwy na marchnad, mae’r Sêl Fawr Blanhigion yn ddiwrnod allan i’r teulu cyfan. Yn ogystal â’r stondinau bydd bwyd wedi’i gynhyrchu’n lleol, cerddoriaeth fyw ac adloniant, gan greu awyrgylch groesawgar a bywiog i bob oed.   Gwahoddir cynhyrchwyr lleol, meithrinfeydd planhigion, crefftwyr a gwneuthurwyr i fod yn rhan o’r digwyddiad. Mae

News

Ysbryd Y Wlad – The Spirit of the Land

Dydd Gŵyl Dewi Hapus! Yn cael ei adnabod yn draddodiadol fel  “Dydd Gŵyl Dewi Sant”, mae Mawrth 1af wedi bod yn ddiwrnod o ddathlu yng Nghymru ers y 12fed ganrif. Heddiw, yn ogystal â chofio Dewi Sant a’i gyflawniadau, mae’n ddiwrnod i anrhydeddu Cymru gyfan a’r hyn sy’n gwneud ein diwylliant mor fywiog. Un o’n hoff bethau yw cawl — wedi’i wneud o gig oen a llysiau i’n cynhesu, wedi’i weini fel arfer gyda bara ffres a darn hael o gaws. Mae’n flas go iawn ar gysur Cymreig, ac er ei fod yn glasur ar Fawrth 1af, rydyn ni’n ei argymell drwy gydol y flwyddyn. Mae’r ddraig goch yn fwy na symbol trawiadol. Mae’n cario chwedl o wrthdaro, dewrder a goroesi. Yn ôl y chwedl, bu dwy ddraig — coch a gwyn — yn ymladd yn ffyrnig. Dim ond pan roddwyd y dreigiau i orffwys dan y mynydd y daeth heddwch, ac yn ddiweddarach pan gododd y ddraig goch i orchfygu’r ddraig wen oresgynnol. Ar gyfer ein dathliad, creodd artist y pyped ddraig fawreddog hon fel darn byw o adrodd straeon. Roedd yn waith celf symudol wedi’i wreiddio mewn myth hynafol, wedi’i chario gan y gymuned, ac wedi’i rannu â

News

Ymddangosiad: Gweithdai Creadigol yn Dathlu Lleisiau Cwiar a Chysylltiad Cymunedol

Ymddangosiad: Gweithdai Creadigol yn Dathlu Lleisiau Cwiar a Chysylltiad Cymunedol Mae cyfres newydd o weithdai creadigol dan yr enw Ymddangosiad yn dod â phobl at ei gilydd yn Sir Benfro trwy gelf, mynegiad a phrofiad a rennir. Wedi’i greu gan  grŵp o unigolion LHDTC+, mae Ymddangosiad yn cynnig lle i ddod allan i’r gymuned ehangach ac i uno pobl cwiar ac eraill trwy greadigedd. Mae’r rhaglen yn gwahodd cyfranogwyr LHDTC+ a chyfeillion (16+) i gymryd rhan mewn sesiynau ymarferol a gynlluniwyd i adeiladu cysylltiad, hyder a chydgefnogaeth. Mae un gweithdy, dan arweiniad yr artist a thiwtor gwydr lliw Bean Sawyer, yn gwahodd cyfranogwyr i greu eu gwydr lliw eu hunain ac i greu llusern tri dimensiwn gan ddefnyddio papur gloyw copr a thechneg sodro. Gall gyfranogwyr ddewis o batrymau a ddarperir, neu gallant ddatblygu eu dyluniadau eu hunain i adlewyrchu eu steil bersonol. Nid oes angen profiad blaenorol a darperir yr holl ddefnyddiau. Mae gweithdy arall, a arweinir gan yr artist, academydd a seicotherapydd celf cwiar Emily Laurens, yn archwilio symbolaeth penynnau – baneri a ddefnyddid yn draddodiadol gan longau a’r lluoedd arfog i gyfathrebu enw ac ystyr. Bydd cyfranogwyr yn “cwiareiddio” y pennyn, gan greu baneri ffabrig sy’n cynrychioli

News

Dathliad Llawen o Ddiwylliant Cymreig yn Dod i Arberth yn Hanner-Tymor.

Dathliad Llawen o Ddiwylliant Cymreig yn Dod i Arberth yn Hanner-Tymor. Gwahoddir teuluoedd ar draws Sir Benfro i ddathlu diwylliant Cymreig, creadigedd a chymuned mewn digwyddiad llawen teulu-gyfeillgar ddydd Mercher Chwefror 18fed. Wedi’i gynllunio i fod yn ddiwrnod allan hamddenol a chroesawgar, mae’r digwyddiad yn cynnig rhaglen gyfoethog o weithdai ymarferol, storia, cerddoriaeth a bwyd, gyda chyfleoedd i alw heibio am un gweithgaredd neu i fwynhau diwrnod cyfan o ddathliadau. Wrth galon y dydd mae Parêd Promenâd Dewi Sant, gorymdaith fywiog drwy Arberth gyda cherddoriaeth draddodiadol gan y Reel Rebels, gyda symbolau chwedlonol Cymreig gan gynnwys draig a’r Fari Lwyd. Mae’r parêd yn dathlu etifeddiaeth ddiwylliannol ddwfn Cymru tra’n gwahodd cynulleidfaoedd o bob oed i gymryd rhan mewn ennyd o lawenydd a gwledd i’r llygaid i’w rhannu gan bawb. Mae’r rhaglen ehangach yn arddangos ehangder creadigedd Cymreig. Gall oedolion gymryd rhan mewn gweithdy gwehyddu lleddfol gyda’r artist Daisy Buckle yng Nghelfyddydau SPAN, a gwahoddir plant i sesiwn stori a chrefft wedi ei arwain gan Hedydd Hughes a Luci Saunders yng Nghaban  Sgowtiaid Arberth. Daw’r dydd i ben gyda Thwmpath hwyl a chymdeithasol i’r teulu, gyda cherddoriaeth fyw, cawl a chace planc yn cynnig gwir flas ar groeso Cymreig. Mae’r dathliad

News

Ymddangosiad: Ma’s yn y Gymuned

Creadigaethau Cwiar – Lansiad y Tymor Newydd Rydym yn falch iawn o gychwyn tymor newydd sbon o Greadigaethau Cwiar gyda’n digwyddiad cyntaf eleni: Ymddangosiad: Ma’s yn y Gymuned, Ddydd Mercher Chwefror 11eg Mae’r digwyddiad yn ymwneud â gweladwyedd, mynegiant, a mynd â chreadigrwydd cwiar y tu hwnt i ddrysau caeedig ac i le cyhoeddus a rennir. Gyda’n gilydd, byddwn yn cynllunio ac yn creu posteri beiddgar, deniadol a gaiff eu dosbarthu ledled y sir yn ddiweddarach ym mis Chwefror.. Bydd y posteri yn cael eu creu mewn estheteg arddull radicalaidd, gan ddefnyddio ffontiau wedi’u torri, collage, a thechnegau argraffu, meddyliwch am eu gwneud â llaw, mynegiannol, di-ymddiheuriad ac ychydig yn wrthryfelgar. Y GWEITHDAI Byddwn yn cynnal dau weithdy creadigol ar y dydd. Mae croeso i chi ymuno a’r naill neu’r llall neu’r ddau. GWEITHDY #1: GEIRIAU A DYLUNIAD 🕑 2pm – 4pm Dan arweiniad y bardd Jane Campbell a’r Ysgrifennwr/Cyfarwyddwr Anna Sherratt Mae’r sesiwn yn canolbwyntio ar iaith, negeseua a dyluniad gweledol – yn archwilio sut gall geiriau lenwi gofod, tarfu ar ddisgwyliadau a chyfleu hunaniaeth a  chymuned.   Gweithdy #2: Collage a chreu 🕔 5pm – 7pm Dan arweiniad yr artistiaid aml-gyfrwng Bean Sawyer a Daisy Buckle Sesiwn ymarferol

News

Unfurl: Writing in the Fungal Realms

Unfurl: Writing in the Fungal Realms This winter, SPAN Arts invites you to Unfurl — a free 2.5-hour creative writing workshop that slips beneath the soil and into the quiet brilliance of fungi, queer ecology, and the lived experiences of BPOC trans femmes. Guided by the queer forces of nature that are fungi and BPOC trans femme writers, the workshop offers a soft, grounded space to explore identity, transformation, and the stories waiting beneath your surface. A Season Made for Slow Magic Winter is a time of retreat, introspection, and the gentle kind of creativity that emerges when the world slows down. Underground, networks of mycelium weave and expand in the dark — adaptive, resilient, and endlessly interconnected. Unfurl draws inspiration from this hidden world. Through fungi, we explore how identities shift, how ideas take root, and how we grow through the unseen work happening beneath it all. Led by cee-cee manrique Your guide for this journey is cee-cee manrique (@ceecee_manrique), a trans femme mushroom farmer (@hyphaemushrooms) and emerging writer whose practice lives at the intersection of ecology, tenderness, and queer creativity. These sessions are intentionally gentle. There’s no obligation to share your writing aloud, but a warm, supportive environment

News

Cyflwynwch eich straeon SPAN!

Cyflwynwch eich straeon SPAN! Submit Feedback Wrth i SPAN agosáu at ei benblwydd yn 35, rydym yn chwilio am gyllid i gynnal prosiect archif creadigol i ddathlu pobl, artistiaid ac effaith SPAN dros y cyfnod hwnnw. Rydym yn bwriadu gwneud cais i Gronfa Treftadaeth y Loteri, a bydd eich adborth yn ein helpu i lunio’r cais  Submit Feedback

News

Celfyddydau SPAN: Uchafbwyntiau Diwedd Blwyddyn 2025

Celfyddydau SPAN: Uchafbwyntiau Diwedd Blwyddyn 2025 Wrth i ni gyrraedd diwedd blwyddyn brysur arall yng Nghelfyddydau SPAN, rydym yn cymryd ennyd i edrych nôl ar bopeth sydd wedi digwydd ar draws ein mannau creadigol. Bu’n flwyddyn wedi’i diffinio gan ddychymyg, cydweithio, ac ysbryd anhygoel cymuned Sir Benfro. Ni allem fod yn fwy diolchgar am y bobl sydd wedi cerdded drwy’n drysau, ymuno â’n prosiectau, a dod â’u hegni, chwilfrydedd, a thalent i bopeth a wnawn. Blwyddyn o Dwf Creadigol O weithdai ac arddangosfeydd i berfformiadau a digwyddiadau cymunedol, mae 2025 wedi gweld SPAN yn cyflwyno un o’r rhaglenni mwyaf amrywiol ac uchelgeisiol erioed. Gyda’n gilydd rydym wedi archwilio syniadau newydd, meithrin lleisiau sy’n ymddangos ac agor ein drysau i artistiaid a chynulleidfaoedd o bob oed. Mae’n sesiynau Croeso Mercher a Chysylltiadau Creadigol wedi dod yn feini prawf wythnosol, mannau lle mae creadigrwydd a llesiant yn cwrdd, gan gynnig dysgu ysgafn, rhannu momentau, a chysylltiad ystyrlon. Boed yn gwnïo gwymon, yn paentio, yn canu iwcalili, neu’n cwrdd ag artistiaid, mae cyfranogwyr wedi dod â brwdfrydedd sy’n tanio ein gwaith yn barhaus. Ffynnodd brosiectau arbennig hefyd, o ddatblygiad theatr a arweinir gan y gymuned ac arddangosfeydd fel Trysor y Môr, gyda’n Comisiwn

News

Anrhegion Hosan SPAN

Anrhegion Hosan SPAN Rhowch anrheg sy’n gwneud da! Ystyriwch roi anrheg wahanol y Nadolig hwn, gyda phresenoldeb sy’n gwneud rhywbeth da! Mae’r anrhegion hardd, argraffu-gartref, yma’n golygu y bydd eich rhodd yn mynd cam ymhellach i gael effaith yn eich cymuned yn ogystal ag ar rywun arbennig. Mae Anrheg Hosan SPAN yn cynnig anrheg hardd gyda gweithiau celf eiconig, a’r effaith rymus o gefnogi’ch cymuned leol CHI. Dewiswch Anrheg Hosan sy’n cefnogi achos sy’n agos at galon y derbynnydd, neu’n taflu goleuni ar faes arall o waith SPAN i hyrwyddo celfyddydau ar gyfer newid cymdeithasol. Byddwch yn derbyn dolen unigryw i lawrlwytho ac argraffu’ch anrheg hosan hardd eich hun, gellir ei roi mewn cerdyn, mewn hosan, neu hyd yn oed fel prif anrheg. Mae’ch anrheg yn cynnwys Gwaith Celf SPAN i’w roi i un person lwcus, ynghyd ag ystadegau effaith o’r gwaith rydym yn ei wneud, a’r dylanwad y gall yr anrheg hon ei chael. Cefnogwch y Celfyddydau ar gyfer Newid Cymdeithasol yn eich cymuned leol yr ŵyl hon! £30- Celfyddydau i Bawb! Defnyddiau celf ar gyfer sesiwn cyd-greu i bobl ifanc dan arweiniad artist. MAE EICH anrheg yn CAEL EFFAITH ANFERTH! Mae eich anrheg yn cynnwys gwaith celf SPAN,

News

Hwyl Ganol Gaeaf / Midwinter Merriments

Dewch i ddathlu canol gaeaf gyda diwrnod llawn o greu a chreadigrwydd Nadoligaidd yn Stiwdio SPAN. Mae’r diwrnod Gweithdai Nadoligaidd arbennig hwn wedi’i gynllunio ar gyfer oedolion a’n gwirfoddolwyr gwych, gan gynnig sesiynau ymarferol wrth greu torchau a chardiau. P’un ai’ch bod yn ymuno am un sesiwn neu aros drwy’r dydd, byddwch yn mwynhau cymysgedd twymgalon  o greadigrwydd, ymgysylltiad, ac ysbryd cymunedol.   Bore: Creu Torchau Nadolig 10:30am – 1:00pm Gyda Hannah Darby Yn dychwelyd o ganlyniad i alw poblogaidd, mae’r gweithdy hwn yn eich tywys wrth greu eich torch Nadoligaidd unigryw eich hun gan ddefnyddio dail a blodau ffres y gaeaf. Gyda chyfarwyddiadau llawn a’r holl ddefnyddiau wedi’u darparu, mae’n berffaith i ddechreuwyr ac i wneuthurwyr profiadol fel ei gilydd. Oedolion (16+): Talwch yr hyn y gallwch – £7 / £10 / £15 / £20   Prynhawn: Creu Cardiau Nadolig Ffotograffig gyda Belinda Bean 2:00pm – 4:30pm Gyda Belinda Bean Ymunwch â’r artist Belinda Bean ar gyfer prynhawn creadigol yn cyfuno ffotograffiaeth a chrefft. Dysgwch sut i gipio delweddau tymhorol o lesni gaeafol ac addurniadau, yn argraffwch a dyluniwch eich cardiau Nadolig personol eich hun. Mae’r sesiwn ymarferol, hamddenol hwn yn ddelfrydol i unrhyw un sydd eisiau cyfuno creadigrwydd

News

Arty Party a Creative Meet-Up at SPAN Arts

Ymunwch â ni ar 7 Ionawr am noson rydd ac groesawgar yn SPAN Arts, wrth i ni gyfuno artistiaid lleol, creaduriaid, a rhyddfreinion am gyfle i gysylltu, rhannu syniadau, a sbarduno cydweithrediadau’r dyfodol. P’un ai eich bod yn wneuthurwr, perfformiwr, dylunydd, awdur, neu yn syml yn rhywun sydd â brwdfrydedd am y celfyddydau creadigol, dyma eich cyfle i ddod o hyd i’r hyn sy’n digwydd y tu ôl i’r llenni yn SPAN – a sut y gallwch fod yn rhan ohono. Dyddiad: 7 Ionawr 2026Amser: 5:00 PM – 8:00 PMLleoliad: SPAN Arts, Narberth Disgwylwch ddiodydd, byrbrydau, a chwmni da wrth i ni ymgartrefu yn y tymor newydd gyda’n gilydd. Byddwch hefyd yn cael cipolwg ar rai o brosiectau SPAN sydd i ddod ac yn darganfod sut i gymryd rhan wrth lunio’r flwyddyn greadigol sydd o’n blaen. Boed eich bod yn chwilio i dyfu eich rhwydwaith, dechrau rhywbeth newydd, neu dim ond eisiau noson ysbrydoledig gyda phobl o’r un meddylfryd – byddai’n wych eich gweld chi yno.

News

Cyngerdd yr Adfent 2025: Dathliad Tymhorol gyda Trystan Llŷr Griffiths a Chôr Llanddarog

Mae Celfyddydau SPAN a Menter Iaith Sir Benfro yn falch o gyflwyno’u Cyngerdd Adfent poblogaidd, yn dychwelyd ar gyfer 2025 gyda noson o gerddoriaeth dymhorol, diwylliant Cymreig, a dathliad cymunedol. Bydd  y cyngerdd eleni yn croesawu’r tenor o glod rhyngwladol, Trystan Llŷr Griffiths, i berfformio unwaith eto yn sir ei enedigaeth. Yn wreiddiol o Glunderwen, mae Trystan yn artist Cymraeg a astudiodd Theatr, Cerddoriaeth a’r Cyfryngau ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant cyn hyfforddi yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd. Wedi cael canmoliaeth uchel am ei rôl gydag Opera Cenedlaethol Cymru yn Il trittico, mae llais rhyfeddol Trystan wedi ennill cydnabyddiaeth eang iddo fel un o dalentau mwyaf cyffrous Cymru. Yn ymuno â’r dathliad bydd Côr gwobrwyedig Llanddarog, côr o dros bum deg o aelodau a sefydlwyd yn 2002 gan Meinir Richards. Dros y ddau ddegawd diwethaf, maent wedi perfformio ledled Cymru, gan gymryd rhan mewn darllediadau teledu cenedlaethol, a chanu ochr yn ochr ag enwau adnabyddus fel Michael Ball ar Draeth Mawr, Tyddewi. Yn nodedig am eu llwyddiant yn yr Eisteddfod Genedlaethol, mae Côr Llanddarog wedi ennill categori’r côr cymysg bum gwaith, gan sicrhau safleoedd uchaf yn gyson, gan gynnwys yr ail safle yn 2024.

News

SPAN yn lansio Sesiynau’r Ystafell Werdd— datblygiad proffesiynol am ddim i bobl greadigol Gorllewin Cymru.

Mae Celfyddydau SPAN yn falch i gyhoeddi Sesiynau’r Ystafell Werdd, rhaglen newydd o gefnogaeth datblygiad proffesiynol am ddim wedi’i gynllunio ar gyfer bobl greadigol yn byw ac yn gweithio yng Ngorllewin Cymru. Dan arweiniad Bethan Morgan, perfformiwr, awdur, gwneuthurwr-theatr, cyfarwyddwr a chynhyrchydd dawnus, mae’r sesiynau’n darparu arweiniad ymarferol ar y sgiliau hanfodol sydd eu hangen i gynllunio, rheoli a chyflwyno prosiectau creadigol. Gyda dros 30 mlynedd o brofiad yn y celfyddydau, bydd Bethan yn rhannu ei harbenigedd ar feysydd fel contractau artistiaid, cynllunio digwyddiadau ac ysgrifennu asesiadau risg. Mae gyrfa eang Bethan yn cwmpasu gwaith theatr a chelfyddydau cymunedol ledled Cymru. Yn fwyaf diweddar mae wedi gwasanaethu fel Rheolwr Sherman 5 yn Theatr y Sherman Caerdydd, lle bu’n gweithio i chwalu rhwystrau sy’n atal cymunedau rhag mynediad at y celfyddydau a mynd i’r afael â nhw. Wedi’u gwreiddio mewn hygyrchedd, profiad a chydweithio, mae Sesiynau’r Ystafell Werdd wedi’u cynllunio i rymuso artistiaid ar unrhyw gyfnod yn eu gyrfaoedd — yn cynnig gofod croesawgar i ddysgu, holi, ac adeiladu hyder yn ochr broffesiynol arfer greadigol. Am ragor o wybodaeth ac i archebu’ch lle ewch i www.span-arts.org.uk Manylion digwyddiad: Dyddiad: Tachwedd 12 Amser: 7:30pm  Pris: Am ddim Lleoliadau: Celfyddydau SPAN, Gwaun y

News

SPAN’s First Queer Film Screening: Amplifying Queer Voices in Rural Wales

SPAN’s First Queer Film Screening: Amplifying Queer Voices in Rural Wales This October, SPAN is proud to present its first Queer Film Screening event, a celebration of local creativity, storytelling, and community. Film is a powerful medium for visibility, and for many queer people living in rural Wales, visibility is not always easy to come by. This event is about creating a space where queer voices are not only heard, but centred, celebrated, and amplified. In Pembrokeshire and across West Wales, LGBTQ+ lives often exist quietly, outside of the cultural spotlight. Without the gathering points of larger urban centres, queer communities in rural areas can feel scattered or unseen. Yet their stories are no less rich, complex, or vital. Through film, these narratives find new ways to reach audiences, fostering connection. By sharing queer perspectives on screen, we also create opportunities for dialogue, between queer communities themselves and with the broader community around them. Sunday 12th October 2025 will be a day to highlight these stories and the people behind them. Afternoon Workshop TROVE, 36 West Street, Fishguard 2:30pm – 5:30pm The day begins with a hands-on workshop led by filmmaker Ashley Morgan, exploring how to create films using nothing

News

Streaon Cariad at Natur: Taith Deryn May gyda’r Môr

Streaon Cariad at Natur: Taith Deryn May gyda’r Môr   Mae comisiwn amgylcheddol Streaon Cariad at Natur yn ymwneud â meithrin sgwrsiau gyda’n hamgylchedd, sgwrsiau sydd wedi eu gwreiddio yn greadigrwydd, gofal a chymuned. Drwy swyddogaethau wedi’u harwain gan artistiaid, mae Streaon Cariad yn magnifio lleisiau amrywiol ledled cymoedd Cymru, gan ddod â phobl at ei gilydd i adlewyrchu ar newid yn yr hinsawdd a’n perthynas â’r byd naturiol. O ffilmiau a sioeau sirkws i ffotograffiaeth, tecstilau, perfformiad côr a chrefftio paent naturiol, mae’r comisiwn wedi annog artistiaid i ymateb i’r gorchymyn o “yr Amgylchedd” mewn ffyrdd annisgwyl a phersonol iawn. I artist Deryn a anwyd yn Benfro, mae’r stori’n dechrau gyda’r môr. Wrth dyfu’n gymdeithas o amgylch y glanfa dychmygus a’r dirweddau agored o Orllewin Cymru, mae hi bob amser wedi teimlo cysylltiad cryf â natur, yn enwedig y cefnfor. Mae’r gariad hwnnw wedi siapio ei arfer greadigol, sy’n canolbwyntio ar archwilio ein cysylltiad â lle trwy gymryd rhan chwaraus gyda deunyddiau a ddarganfyddwyd a organig. Mae ei gwaith yn dathlu anghysondeb, gan greu eitemau sy’n bodoli’n hardd am eiliad cyn dychwelyd yn ofalus i’r ddaear heb niwed. Ym Medi y llynedd, yn ystod preswylfa grŵp ar Ynys Enlli,

Scroll to Top