project

current project

Robin Ince: The Universe and The Neurodiverse – Noson o Straeon, Barddoniaeth a Cherddoriaeth

Robin Ince: The Universe and The Neurodiverse – Noson o Straeon, Barddoniaeth a Cherddoriaeth Beth os yw bod ‘chydig bach yn od’ yn normal? Beth os yw rhannu ein brwydrau mewnol yn arwydd o gryfder yn hytrach na gwendid? Mae’r digrifwr, y darlledwr a’r awdur gwobrwyedig Robin Ince wedi treulio dros 30 mlynedd yn diddanu cynulleidfaoedd ar lwyfan a radio, gan gynnwys The Infinite Monkey Cage ar Radio 4 y BBC. Ond y tu ôl i’r chwerthin, ymgodymodd Robin gyda hunan-amheuaeth, pryder, a heriau ADHD—heriau y mae wedi eu trawsnewid yn danwydd creadigol ar gyfer ei sioe newydd. Ymunwch â ni ar gyfer The Universe and The Neurodiverse, noson o straeon twymgalon, barddoniaeth a hiwmor, lle mae Robin yn archwilio iechyd meddwl, creadigrwydd, a’r hyn y mae’n ei olygu i gofleidio ein hunigrywiaeth. Yn ychwanegu at yr hud mae cerddoriaeth fyw gan y gantores-gyfansoddwraig Rachel Taylor-Beales, y mae ei chyfuniad dwys o Americana, gwerin amgen, y  felan, a jazz yn cyd-fynd yn hyfryd â themâu’r noson.   📅 Dyddiad: Dydd Sadwrn Ionawr 25ain 2025 ⏰ Amser: 7:30pm (Tua. 2 awr, yn cynnwys holi ac ateb) 🎟 Tocynnau: £10 / £8.50 consesiwn   Dyma ddigwyddiad na ddylid ei cholli – mynnwch […]

current project

PARTI ARTI’R FLWYDDYN NEWYDD

Rhowch sbardun i 2025 trwy ymuno â SPAN ym Mharti  Arti y Flwyddyn Newydd ar gyfer pobl greadigol llawrydd yng Ngorllewin Cymru. Mae’r Parti Arti’n dychwelyd i roi hwb Blwyddyn Newydd i’ch gyrfa greadigol. Ymunwch â Chelfyddydau SPAN ar gyfer ein Parti Arti Blwyddyn Newydd ar y 15fed o Ionawr, digwyddiad rhwydweithio a drefnwyd ar gyfer gweithwyr llawrydd cymuned celfyddydau creadigol Gorllewin Cymru. Ymunwch â ni ar gyfer noson hamddenol lle gall pobl greadigol, artistiaid a gweithwyr llawrydd lleol gysylltu â’i gilydd, rhannu syniadau ac archwilio posibiliadau i gydweithio. Mae hefyd yn lle gwych i ddysgu sut y gallwch gymryd rhan ym mhrosiectau cyffrous Celfyddydau SPAN yn y flwyddyn i ddod a chael gwybod mwy am ein digwyddiadau eraill i gefnogi artistiaid eraill megis Sesiynau’r Ystafell Werdd. P’un ai’ch bod yn edrych i ehangu eich rhwydwaith, dod o hyd i brosiectau newydd i gydweithio arnynt, neu ddim ond eisiau gweld beth sydd gan SPAN ar y gweill ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod, dyma’r cyfle perffaith i gymryd rhan. Ymunwch â ni am noson gyffrous ym Mharti Arti Blwyddyn Newydd SPAN, rhwng 5pm ac 8pm ddydd Mercher y 15fed o Ionawr i fwynhau byrbrydau, diodydd a chwmni da. Mae’n

activity, current project

Cyngerdd Adfent gyda tenor Aled Wyn Davies ac Ar Ol Tri

Gyda’r gwesteion arbennig Aled Wyn Davies ac Ar  Ôl Tri, mae SPAN a Menter Iaith Sir Benfro yn eich gwahodd i noson Nadoligaidd o garolau a cherddoriaeth. SPAN and Menter Iaith Sir Benfro present the return of the much  loved Advent Concert for 2024. With spectacular special guests Ar Ôl Tri and Aled Wyn Davies, join us for an evening of joy and merriment to mark the start of the festive period. Join on a crisp winters evening in Pisga Chapel for a beautiful night of music. Our lovely community choir Côr Pawb will be there to serenade you from 4:30 when doors open, before the concert starts at 5pm. The evening will be a Welsh Language event, but all are warmly welcome to attend and enjoy the festive atmosphere, carols, and music in this Welsh celebration of the winter season. Tickets are available to book now via the SPAN arts website with a full price ticket at £12 and concession at £10. We recommend booking in advance for this very popular event. Any remaining tickets will be available at the door on the night. For more information call 01834 869323, visit span-arts.org.uk or conact info@span-arts. Event Details Deadline for

current project

Theatr Soffa: Ymgollwch mewn stori newydd o gysur eich cartref!

Mae Theatr Soffa nôl! Ymgollwch mewn stori newydd o gysur eich cartref!   Ydych chi’n barod i gysylltu, creu a pherfformio – a hynny oll o gysur eich cartref? Mae Theatr Soffa, ein cwmni theatr cymunedol ar-lein, yn gwahodd unigolion ar draws Sir Benfro i ymuno â ni ar daith greadigol ysbrydoledig 12 wythnos. Yn berffaith ar gyfer unrhyw un sy’n teimlo’n ynysig neu sydd am roi cynnig ar rywbeth newydd, mae Theatr Soffa yn cynnig cyfle i gysylltu ag eraill, datblygu sgiliau newydd, a chreu rhywbeth rhyfeddol gyda’i gilydd. Manylion allweddol: 📅 Dyddiadau: Pob dydd Iau, Ionawr 9fed – Mawrth 27ain 2025 ⏰ Amser: 7:00–9:00 PM (ar Zoom) 📍 Ble: Eich Soffa!   Beth mae’n golygu? Dros gyfnod o 12 wythnos, bydd cyfranogwyr yn cydweithio i ddod â drama’n fyw, gan ddysgu actio a sgiliau technegol ar hyd y daith. Dim profiad? Dim problem! Mae’r prosiect yn agored i bawb, a byddwn yn darparu cymorth technegol os bydd angen. Wedi’i chyfarwyddo gan Bethan Morgan a Mabel Mckeown, bydd y daith yn cyrraedd ei hanterth gyda chyflwyniad wedi’i recordio o’r ddrama – cyfle i arddangos eich gwaith caled, creadigrwydd, a chydweithio. Pam ymuno? Byddwch yn rhan o gymuned gyffrous a

current project

Galw am Artistiaid: Trawsffurfio Cynwysyddion Cludo gydag Ysgol Gymunedol Prendergast

Galw am Artistiaid: Trawsffurfio Cynwysyddion Cludo gydag Ysgol Gymunedol Prendergast Mae Celfyddydau SPAN yn chwilio am artist talentog sydd â phrofiad mewn prosiectau paentio ar raddfa fawr i gydweithio gyda disgyblion Ysgol Gymunedol Prendergast, Hwlffordd. Bydd y prosiect cyffrous hwn yn trawsnewid dau gynhwysydd cludo – a ddefnyddir fel Bocs Bwyd a Siop Ddillad  Ail-law – yn weithiau celf bywiog, wedi’u cyd-greu gyda’r disgyblion. Manylion y Prosiect Gweithdy Dylunio: 1 diwrnod yn Ionawr 2025 (sesiwn yn yr ysgol) Diwrnodau Peintio Awyr Agored: 5 diwrnod ar ddechrau Mawrth 2025 (gyda disgyblion) Cynllunio a Pharatoi: 1 diwrnod Ffi: £250/y dydd (£1,750 – cyfanswm)  a chostau teithio Deunyddiau: Darperir cyllideb ar wahân Yr hyn yr ydym yn chwilio amdano Artist profiadol sy’n mwynhau cydweithio â phobl ifanc gan ysbrydoli creadigrwydd, a dod â syniadau ar raddfa fawr yn fyw. Sut i ymgeisio Anfonwch y canlynol i production@span-arts.org.uk erbyn 5pm, Ddydd Iau Rhagfyr 12fed.: Llythyr eglurhaol (dim mwy nag un ochr A4) yn amlinellu’ch profiad perthnasol Eich CV. Delweddau neu ddolenni i enghreifftiau o’ch gwaith. Fel arall, gallwch gyflwyno recordiad sain neu fideo 5 munud gyda’r un wybodaeth. Rhaid i bob ymgeisydd fod â gwiriad DBS cyfredol. Byddwn yn cydnabod pob cais, ac os

current project

Rydym yn chwilio am Hwylusydd Celfyddydau ar gyfer Hanner Tymor Chwefror 2025!

Rydym yn chwilio am Hwylusydd Celfyddydau ar gyfer Hanner Tymor Chwefror 2025! Ydych chi’n hwylusydd celfyddydol angerddol sydd â phrofiad o weithio gyda phobl ifanc? Rydym yn chwilio am rywun i arwain gweithdai ysbrydoledig a chreadigol ar gyfer Gofalwyr Ifanc yn ystod Hanner Tymor Chwefror 2025. Y Gweithdai Y nod yw creu man diogel, cefnogol lle gall pobl ifanc 11–17 oed ymlacio, cysylltu ag eraill, ac archwilio eu creadigrwydd. Bydd y gweithdai ymarferol hyn yn helpu i fagu hyder, annog hunanfynegiant, a meithrin cyfeillgarwch newydd. Rydym yn agored i unrhyw ffurf ar gelfyddyd – o’r celfyddydau gweledol i berfformiad, cerddoriaeth, neu grefftau. Mae gan Gelfyddydau SPAN ystod eang o ddeunyddiau ar gael i ‘w defnyddio gan hwyluswyr. Manylion Allweddol Dyddiadau Gweithdy: Chwefror 24ain – 28ain 2025 Amser: 11am – 4pm Lleoliad: Celfyddydau SPAN Arts, Gwaun y Dref, Arberth Cyfranogwyr: Gofalwyr Ifanc, 11–17oed Manylion Ffioedd a Chyflwyniadau Ffi: £250 y diwrnod gweithdy (yn cynnwys teithio a threuliau) Gall hwyluswyr arwain un neu fwy o weithdai diwrnod llawn yn ystod yr wythnos Dyddiad Cau ar Gyfer Cyflwyniadau: Ionawr 12fed  2025 Os ydych chi’n ffynnu ar greu amgylcheddau diddorol a hwyliog i bobl ifanc ac eisiau cael effaith barhaol, byddem wrth ein bodd

current project, current project

Dydd Gŵyl y Nadolig: Dathliad o Draddodiadau Nadolig Cymreig.

Camwch yn ôl mewn Amser yn Nydd Gŵyl y Nadolig: Dathliad o Draddodiadau Nadolig Cymreig. Ymdrwythwch  yn hud dathliadau traddodiadol Cymreig ein Dydd Gŵyl y Nadolig. Yn cael ei gynnal ar  Ragfyr 21ain  o amgylch Gwaun y Dref yn Arberth, mae’r dathliad llawn hwyl hwn yn eich gwahodd i brofi cynhesrwydd, cerddoriaeth ac arferion Cymru’r oes a fu wrth i ni ddod at ein gilydd i ailgynnau ysbryd y tymor. Gadewch i ysbryd Dydd Gŵyl Nadolig eich swyno wrth i ni ddathlu cyfoeth diwylliant Cymru, llawenydd  tymor yr Wyl, a hyfrydwch y traddodiadau a rennir. Edrychwn ymlaen at eich croesawu i ddigwyddiad lle mae’r gorffennol a’r presennol yn dod at ei gilydd i greu rhywbeth gwirioneddol hudolus. GWEITHDAI: I’r rhai sy’n mwynhau gweithgareddau ymarferol, mae’r diwrnod yn cynnig amrywiaeth o weithdai creadigol. Ymunwch â Hannah Darby i grefftio torchau naturiol gan ddefnyddio deiliach bytholwyrdd persawrus ac aeron gaeaf, neu cewch ymuno ag Evangeline Morris a Samara van Rijswijk wrth iddynt arwain gweithdy i greu addurniadau Nadolig wedi’u hargraffu â llaw. Bydd hefyd addurno dynion sinsir a helfa drysor i anturiaethwyr ifanc, gan ychwanegu mwy fyth o hwyl yr Ŵyl . Bydd sesiynau chwedleua yn cael eu hymblethu i’r diwrnod, gan

current project

Dyddiad cau wedi ymestyn! Galw allan am:Sieff/Cogydd/Tîm Arlwyo ar gyfer Gwledd Ganu GŴyl A Cappella SPAN, Arberth, 2025.

Dyddiad cau wedi ymestyn! Galw allan am:Sieff/Cogydd/Tîm Arlwyo ar gyfer Gwledd Ganu GŴyl A Cappella SPAN, Arberth, 2025. Digwyddiad: Y Wledd Ganu yng Ngŵyl A Cappella Arberth 2025 Dyddiad: Dydd Gwener, Mawrth 7fed 2025 Lleoliad: Caban y Sgowtiaid,  Arberth,  Sir Benfro Dyddiad cau estynedig: 31 Rhagfyr 2024 Rydym wedi ymestyn y dyddiad cau ar gyfer yr alwad hon! Dyma’ch cyfle i wneud cais i fod yn rhan o Ŵyl A Cappella Arberth 2025. Manylion y rôl: Mae Celfyddydau SPAN yn chwilio am sieff, cogydd neu dîm arlwyo talentog i greu a chyflwyno cyfres o blatiau blasu ar gyfer ein Gwledd Ganu, digwyddiad agoriadol Gŵyl A Cappella Arberth 2025. Bydd y digwyddiad dwy awr unigryw hwn yn cynnwys cyfuniad o wledda a gweithdai canu gydag angen amrywiaeth o blatiau blasu ar gyfer 50 o westeion. Dylai’r fwydlen gynnwys o leiaf pedwar cwrs gydag opsiynau ar gyfer platiau i’w rhannu a dognau unigol gan ystyried gofynion dietegol arbennig. Cyfrifoldebau: Cynllunio a pharatoi cyfres o blatiau blasu ar gyfer 50 o westeion Sicrhau bod anghenion dietegol yn cael eu bodloni Cyd-lynu’r gwaith o baratoi a gweini bwyd, yn ddelfrydol yn paratoi oddi ar y safle ac yn cwblhau ar y safle Defnyddio’r cyfleusterau

current project

Galwad am Gorau Cymunedol: Gŵyl A Cappella Arberth 2025

Galwad am Gorau Cymunedol: Gŵyl A Cappella Arberth 2025 Mae Celfyddydau SPAN yn falch i gyhoeddi galwad i Gorau Cymunedol berfformio yng Ngŵyl A Cappella Arberth 2025! Mae’r digwyddiad unigryw hwn, yn dathlu lleisiau a cappella, yn denu torfeydd o bob cwr o’r DU ac yn cynnig cyfle gwych i gantorion arddangos eu talentau. Dyddiad Digwyddiad: Cynhelir y cyngerdd terfynol am 7yh ddydd Sadwrn Mawrth 8fed 2025 Lleoliad: Cynhelir y digwyddiad yn Eglwys Sant Andreas, Arberth Slot Perfformio: Bydd pob côr a ddewisir yn cael slot 20 munud i berfformio Cyflwyno Cais: e-bostiwch samplau perfformiad, ffotograff a fideo i info@span-arts.org.uk erbyn Tachwedd 29 2024. Dyddiad Cau: Sicrhewch fod eich cais yn cael ei anfon erbyn Tachwedd 26ain 2024.   Sut i ymgeisio Anfonwch ddewis o samplau sain o’ch repertoire ochr yn ochr â ffotograff a fideo o’ch côr yn perfformio i fideo i info@span-arts.org.uk erbyn Tachwedd 29 2024.   Ynglŷn â’r Ŵyl Gŵyl A Cappella Arberth, wedi’i threfnu gan Gelfyddydau SPAN, yw’r unig ddathliad o leisiau a cappella yng Nghymru. Gyda dros 25 mlynedd o hanes, bydd gŵyl 2025 yn canolbwyntio ar leisiau cymunedol yn y Wledd Ganu  boblogaidd a  gweithdai lleisiol dan arweiniad ymarferwyr o fry rhyngwladol. Ynglŷn â Chelfyddydau

current project

‘The Art of Marketing’, sesiwn Ystafell Werdd nesaf SPAN, yw’r diweddaraf mewn cyfres o sesiynau am ddim i gefnogi datblygiad proffesiynol i Artistiaid.

Ar ôl yr ymateb cadarnhaol i ddigwyddiadau Parti Arti SPAN ar gyfer gweithwyr llawrydd creadigol, roeddem wrth ein bodd i lansio Sesiynau’r Ystafell Werdd, cyfres newydd o weithdai’n cynnig mynediad at sesiynau datblygiad proffesiynol i weithwyr creadigol llawrydd o Orllewin Cymru. Gan adeiladu ar lwyddiant The Art of Fundraising, The Art of Marketing fydd y sesiwn nesaf. Sylwer mai Saesneg yw iaith y sesiynau. Mae’r sesiynau Ystafell Werdd yn gyfres o weithdai sy’n canolbwyntio ar artistiaid. Fe’u cynhelir gan dîm SPAN gan edrych ar ystod o sgiliau proffesiynol sy’n cynnig mewnwelediad i amrywiaeth o feysydd, o godi arian i hyrwyddo. Ymunwch â ni ar gyfer yr ail sesiwn yn y gyfres, sef The Art of Marketing, dan arweiniad Samara Van Rijswijk ac Evangeline Morris. Mae’r ddwy yn gweithio ar y tîm Marchnata yn SPAN yn ogystal â bod yn Artistiaid gweithredol. Mae ganddynt wybodaeth helaeth o’r offer a’r triciau y gallwch eu defnyddio i ddatblygu arddull farchnata broffesiynol ac ymarferol fel artist llawrydd a rhoi hwb i’ch gwelededd. Ymunwch â nhw ar gyfer y sesiwn hon i ddysgu am agweddau allweddol hunan-hyrwyddo gan gynnwys datblygu gwefannau, postio allan, a chyfryngau cymdeithasol, yn ogystal â gwybodaeth am offer am ddim i’ch

current project

Celfyddydau SPAN ar y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Elusennau Cymru 2024

Rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod Celfyddydau SPAN wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Elusennau Cymru 2024 yn y categori Defnyddio’r Gymraeg! Mae’r gwobrau clodfawr hyn yn dathlu cyfraniadau rhagorol elusennau, grwpiau cymunedol a gwirfoddolwyr ledled Cymru, ac mae’n anrhydedd i ni gael ein cydnabod am ein hymdrechion i hyrwyddo a defnyddio’r Gymraeg ym mhob agwedd o’n gwaith. Mae Gwobrau Elusennau Cymru, a drefnir gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC/WCVA), yn tynnu sylw at sefydliadau sy’n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol yn eu cymunedau. O fentrau llawr gwlad i ymgyrchoedd ar raddfa fawr, mae’r gwobrau’n cydnabod effaith ryfeddol y rhai sy’n gweithio i wella bywydau pobl yng Nghymru. Mae cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y wobr hon yn adlewyrchu ein hymrwymiad parhaus i gefnogi’r Gymraeg, ac rydym yn ddiolchgar i’n tîm a’n cymuned am helpu i’w chadw’n rhan ganolog o’n digwyddiadau, ein gwaith allanol a’n hymdrechion artistig. Cynhelir y seremoni wobrwyo ar Dachwedd 25ain 2024, ac rydym yn edrych ymlaen at ddathlu gyda’n cyd-gystadleuwyr yn y rownd derfynol. I ddilyn ein taith a chyffro’r digwyddiad, ymunwch â ni ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio #WelshCharityAwards a #GwobrauElusennauCymru.

current project

All you Need to Know about The Haverfordwest Lantern Parade 2024

Launch the Lights! – All you need to know All you need to know about the Haverfordwest lantern Parade 2024 from Lantern Collection to Times, Road closures and more. SPAN Arts invites you to join us for the return of the Lantern parade on the 26th of October . Funded by the UK Government, we are thrilled to be bringing back this beloved event to Haverfordwest for 2024. With the community’s choice of theme, that after a close vote saw local artist Harriet Davies selected with her Boat Lantern to lead this year’s procession, we invite you all to share in the making of individual lanterns and to join us at the final parade. The Haverfordwest Lantern Parade 2024 will involve the whole community and schools from each ward, with an estimated 500 people carrying lanterns and around 2000 people gathering to watch across the route and join the parade. A giant boat lantern and a Samba band will lead the parade, Cor Pawb choir will be singing in Castle Square and it will end with a fire performance in the Skate Park, by the Pembrokeshire Fire Spinners. Launch the Lights! Date: Saturday October 26  Time: Lantern bearers gather from 5pm, Parade sets off

current project

Gorymdaith Llusernau Gwe

Nod yr Orymdaith Llusernau yw dod â phobl Hwlffordd a Sir Benfro at ei gilydd a thanio ysbryd bywiog yr ardal leol. Creadigaeth ar y cyd fydd hwn, wedi’i siapio gan syniadau, egni a dawn artistig y gymuned Cynhelir yr orymdaith ym mis Hydref, amser perffaith i fwynhau awyr iach hydrefol ac awyrgylch y digwyddiad. Yn y cyfnod cyn y digwyddiad, byddwn yn cynnal cyfres o weithdai difyr lle gall cyfranogwyr greu llusernau hardd gyda chymorth artistiaid lleol talentog. Mae’r gweithdai hyn nid yn unig yn gyfle i ddysgu sgiliau newydd ond hefyd yn gyfle i gysylltu â chymdogion a chyd-aelodau’r gymuned. Wrth i ddiwrnod yr orymdaith agosáu, bydd disgwyliad yn cynyddu, a bydd strydoedd Hwlffordd yn disgleirio. Bydd cerddorion lleol yn arwain yr orymdaith, gan lenwi’r awyr gydag alawon. Bydd pobl Hwlffordd yn gorymdeithio ochr yn ochr â ffrindiau a theulu, pob un yn dal llusern ddisglair, wrth i’r gymuned ddod at ei gilydd mewn arddangosfa ddisglair o olau a chreadigrwydd.

News, project

Creative Connections

Mae bod yn ofalwr yn rôl heriol ac anhunanol sy'n aml yn gadael amser i chi, ar gyfer hunanofal a thwf personol. Fodd bynnag, gan gydnabod pwysigrwydd meithrin ysbryd creadigol rhywun ac adeiladu cymuned gefnogol, mae'r rhaglen Cysylltiadau Creadigol yma i gynnig cyfle unigryw i ofalwyr archwilio sgiliau newydd, meithrin cysylltiadau ystyrlon, a chymryd ennyd drostynt eu hunain. Rhaglen Creative Connections Sesiynau Creadigol Wythnosol Am Ddim: Ddechrau o fis Ionawr ac yn parhau tan fis Mawrth 2024, mae'r wyth sesiwn wythnosol hon yn addo profiad adfywio i ofalwyr. P'un a ydych yn gofalu am aelod o'r teulu, ffrind, neu'n gweithio'n gofalwr broffesiynol, mae'r sesiynau hyn wedi'u cynllunio gyda chi mewn golwg. Ar gyfer pob oedran: Mae'r rhaglen hon yn cydnabod bod ofalwyr yn gallu bod yn unrhyw oedran. Bydd dau ddigwyddiad gweithdy ar wahân yn darparu ar gyfer y rhai dros 18 oed a'r demograffig ac o dan 18 oed. Mae hyn yn sicrhau bod pawb, waeth beth fo'u hoedran, elwa o'r profiad Cysylltiadau Creadigol. Adeiladu pontydd trwy greadigrwydd: Prif nod y gweithdai hyn yw meithrin cysylltiadau ymhlith gofalwyr. Yn aml yn cael eu hynysu gan ofynion eu cyfrifoldebau, gall gofalwyr ddod o hyd i gysur a dealltwriaeth yng nghwmni
current project, News, project

Creative Connections Galw am Artisiad

Ydych chi'n hwylusydd gweithdy creadigol profiadol? A oes gennych brofiad o weithio gyda gofalwyr, gofalwyr ifanc, neu'r ddau? Mae SPAN Arts yn chwilio am hwyluswyr gweithdai celfyddydol sy'n gweithio mewn gwahanol gyfryngau, o gerddoriaeth i wneud printiau, symud i ffotograffiaeth, i gynnal sesiynau fel rhan o'n rhaglen Creative Connections sy'n cynnal sesiynau creadigol ar gyfer gofalwyr yn Arberth, Sir Benfro, rhwng mis Chwefror a mis Mawrth 2024. Anfonwch lythyr eglurhaol hyd at 1 ochr A4 (400 gair) yn disgrifio eich profiad o'r math hwn o waith ynghyd â chopi o'ch CV i'w info@span-arts.org.uk erbyn 5pm ddydd Gwener 8 Rhagfyr. Neu gallwch anfon recordiad sain neu fideo sydd yn 5 munud sy'n cwmpasu'r wybodaeth, os yw hynny'n fwy hygyrch. Bydd angen i bob ymgeisydd gael gwiriadau DBS cyfredol. Ni'n cysylltu â phob ymgeisydd o benderfyniadau erbyn dydd Llun 18 Rhagfyr. Cysylltu â ni yn y cyfeiriad e-bost uchod neu ar 01834 869323 gydag unrhyw gwestiynau.
current project, News, project

Galw allan am Gyfansoddwr/Cerddor.

SPAN yn chwilio am Gyfansoddwr/Cerddor, gyda phrofiad o ddatblygu cerddoriaeth gyda phobl ifanc i greu trac/cân cerddoriaeth fodern. Byddwch yn gweithio gyda grŵp o bobl ifanc rhwng 11-18 oed yn Clwb Ieuenctid Letterston, Neuadd Goffa Letterston, ger Fishguard. Bydd y digwyddiad yn digwydd dros bedair nos Fercher yn olynol ym mis Ionawr/Chwefror 2024. Bydd amser cyflog am olygu a sesiwn bumed nos Fercher i rannu'r gan a fideo y mae'r bobl ifanc yn ei chreu i gofnodi'r broses. Ffi: £1,500 (£200 y sesiwn a £500 am amser paratoi/oeddiannu) Bydd angen tystysgrif DBS cyfredol ar gyfer y rôl hon. Costau teithio ar gael. Anfonwch eich CV a mynegiant o ddiddordeb yn ysgrifenedig (hyd at 1 dudalen) neu fel recordiad digidol (hyd at 5 munud), gan ystyried sut y gellid defnyddio eich profiad perthnasol yn y prosiect hwn. Anfonwch eich ceisiadau at info@span-arts.org.uk Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 17 Tachwedd 2023 Byddwn yn cydnabod pob cais. Yn dilyn y dyddiad cau, byddwn yn creu rhestr fer o ymgeiswyr sy'n gymwys i SPAN a bydd y penderfyniad terfynol yn cael ei wneud gan y Bobl Ifanc.
current project, News, project

Dod yn Un â Natur gan Lou Luddington

galw allan nawr ar gau Rydym wrthi'n chwilio am nifer fach o bobl sy'n hoff o fyd natur o sbectrwm eang o gymuned Sir Benfro i gymryd rhan yn Dod yn Un â Natur - comisiwn celf SPAN Arts Love Stories to Nature gan y ffotograffydd a'r awdur lleol Lou Luddington. Mae Dod yn Un â Natur yn archwilio grym ac ystyr ein cysylltiad â'r byd naturiol, gan ddefnyddio ffotograffiaeth, barddoniaeth a rhyddiaith, i broffil naw o gariadon natur lleol Sir Benfro mewn lle annwyl ym myd natur. O syrffwyr, nofwyr a freedivers i naturiaethwyr, artistiaid a garddwyr, rydym yn edrych i gynnwys cyfranogwyr o ystod eang o amgylcheddau a gweithgareddau. Y nod yw dal sut mae bod yn y lleoedd hyn yn agor ein calonnau ac yn darparu ymdeimlad dwfn o les sy'n hanfodol i'n hiechyd - naw Stori Garu at Natur i'w rhannu â'r byd.  Bydd Lou yn tynnu lluniau a chyfweld cyfranogwyr mewn hoff amgylchedd naturiol lleol, lle annwyl sy'n darparu unigedd, heddwch neu lawenydd. Nid oes angen datgelu lleoliad eich hoff le yn y rhannu terfynol. Mae cymryd rhan yn wirfoddol am un hanner diwrnod yn ystod mis Hydref neu fis Tachwedd.  Bydd angen cludiant arnoch
current project

Cân Sing: Canu dros yr Enaid

Cân Sing yw grwp syn dathlu manteision a codi eich gylydd i ganu. Ni'n Dathlu hon at ei gilydd ddwywaith y mis. Mae'r grŵp yn cwrdd am flynyddoedd lawer, gyda chyfeiriadau newydd ar hyd y ffordd. Mae'n berffaith os ydych chi'n edrych i ganu'n rheolaidd mewn amgylchedd di-bwysau, neu os hoffech ddod draw i ganu bob hyn a hyn. Mae temp y dysgu yn hawdd i'w gael i bawb, heb gyfyngiadau amser. Mae'r ymarferydd llafar Molara yn arwain y grŵp trwy ddathliad archwiliadol o ganu, gan ganolbwyntio ar gryfhau'r llais, goresgyn rhai o'r rhwystrau corfforol ac emosiynol i ganu'n agored ac yn rhydd, ac yn enwedig, ganu er mwynhau. Mae'r casgliad yn amrywiol gyda caneuon o Georgia, Ghana, Zimbabwe, a Hawaii gyda rhai shanties a pop wedi'u taflu i mewn am fesur da. Mae'r prosiect wedi darparu cymorth a chysylltiad hanfodol ac wedi helpu i wella lles pobl yn y cyfnod anodd hwn. Mae canwyr wedi darganfod y profiad yn "ysbrydoledig, yn cysylltu, ac yn cynhesu'r galon" gyda "cyfuniad cywir o cynhesu lais, sgwrs, a chân."   Dyddiad: Bob 1 a 3 Dydd Llun y mis, heblaw am Gŵyl y Banc, gyda seibiant dros y mis Awst Amser: 7pm – 9pm
current project

ArtsBoost

Cwrs animeiddio dan arweiniad artistiaid sydd â'r nod o gefnogi pobl rhwng 13 a 17 oed sy'n aros am driniaeth gan y GIG am iechyd meddwl. SPAN Arts yw sefydliad partner gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (UHB) i wella iechyd meddwl a lleihau teimladau o drallod mewn plant a phobl ifanc a gŵyr y Gwasanaeth Iechyd Meddwl i Blant ac Iau (SCAMHS) a'r UHB. Cefnogir ArtsBoost gan Gyngor Celfyddydau Cymru a'r Sefydliad Baring. Yn ail flwyddyn SPAN wedi bod yn cydweithio â'r artist a'r animeiddiwr Gemma Green-Hope a'r artist a'r darlunydd Hannah Rounding. Mae sesiynau Me, Myself and I wedi'u cynllunio i fod yn brofiadau lles mewn gofod sy'n ddiogel ac a gynhelir gan broffesiynolion. Defnyddir sgiliau animeiddio a digidol i greu eu byd eu hunain a dweud eu hanesion eu hunain. Mae'r celfyddydau wedi'u profi i helpu gyda iechyd a lles. SPAN Arts yn Sir Benfro, Theatr Small World yn Ceredigion, a People Speak Up yng Ngharmarthenshire yw'r partneriaid creadigol a gomisiynwyd i ddarparu'r gweithgareddau hyn sy'n seiliedig ar y celfyddydau. I fod yn gymwys i gymryd rhan mewn sesiynau yn y dyfodol, rhaid i chi fod yn gyfarwydd â SCAMHS ac naill ai'n aros am gefnogaeth gan
current project, News, project

Criw Celf

Mae Criw Celf Cynradd yn brosiect a ariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru ar gyfer plant sydd wedi dangos dawn neu ddiddordeb arbennig yn y celfyddydau. Gwnaeth pobl ifanc o Sir Benfro, rhwng 9-11 oed, wneud cais i ddod yn rhan o'r prosiect creadigol cyffrous hwn gyda SPAN. Nawr yn ei drydedd flwyddyn, mae'r rhaglen wedi cynnwys sesiynau wyneb yn wyneb, yn yr awyr agored, gyda chyfranogwyr ac artistiaid lleol. Cafodd cyfranogwyr y cyfle i fwynhau pum dosbarth meistr dan arweiniad artistiaid proffesiynol, gan archwilio amrywiaeth o dechnegau a sgiliau celf. Mae'n gyfle anhygoel i'r plant fod yn rhan o brosiect creadigol cyffrous lle gwnaethant ffrindiau newydd gyda diddordebau tebyg a dysgu sgiliau newydd. Dros gyfres o sesiynau, cerddodd y plant allan i natur, canolbwyntiasant ar eu hamgylchedd, cymerasant yr hyn a ddarganfuasant a'i droi'n gerdd. Ymarferon nhw dechnegau lluniadu a gwneud marciau newydd, yn ogystal â chreu deunyddiau cyffrous â gwahanol ddeunyddiau. Gan ddefnyddio eu cerddi a'u deunyddiau tebygol, creodd eu bydoedd 3D ffantastig eu hunain o fewn blwch. Ar ddiwedd y prosiect, mae teulu a ffrindiau'r artistiaid ifanc dawnus hyn yn ymgynnull ar gyfer arddangosfa breifat iawn arbennig yn adeilad Celfyddydau SPAN, Arberth. Agorwyd yr arddangosfa hefyd i'r gymuned
Scroll to Top