Galw allan am:Sieff/Cogydd/Tîm Arlwyo ar gyfer Gwledd Ganu GŴyl A Cappella SPAN, Arberth, 2025.
Galw allan am:Sieff/Cogydd/Tîm Arlwyo ar gyfer Gwledd Ganu GŴyl A Cappella SPAN, Arberth, 2025. Digwyddiad: Y Wledd Ganu yng Ngŵyl A Cappella Arberth 2025 Dyddiad: Dydd Gwener, Mawrth 7fed 2025 Lleoliad: Caban y Sgowtiaid, Arberth, Sir Benfro Dyddiad Cau i Ymgeisio: Tachwedd 29ain 2024 Manylion y rôl: Mae Celfyddydau SPAN yn chwilio am sieff, cogydd neu dîm arlwyo talentog i greu a chyflwyno cyfres o blatiau blasu ar gyfer ein Gwledd Ganu, digwyddiad agoriadol Gŵyl A Cappella Arberth 2025. Bydd y digwyddiad dwy awr unigryw hwn yn cynnwys cyfuniad o wledda a gweithdai canu gydag angen amrywiaeth o blatiau blasu ar gyfer 50 o westeion. Dylai’r fwydlen gynnwys o leiaf pedwar cwrs gydag opsiynau ar gyfer platiau i’w rhannu a dognau unigol gan ystyried gofynion dietegol arbennig. Cyfrifoldebau: Cynllunio a pharatoi cyfres o blatiau blasu ar gyfer 50 o westeion Sicrhau bod anghenion dietegol yn cael eu bodloni Cyd-lynu’r gwaith o baratoi a gweini bwyd, yn ddelfrydol yn paratoi oddi ar y safle ac yn cwblhau ar y safle Defnyddio’r cyfleusterau cegin yng Nghaban y Sgowtiaid Arberth, sy’n cynnwys digon o le ar y pen gwaith ond offer coginio cyfyngedig. Darperir llestri a chyllyll a ffyrc sylfaenol Ynglŷn â Gŵyl […]