Ymdrech i dorri record canuYn Chwefror 2020, daeth Celfyddydau Span â phobl o bob oed at ei gilydd i ganu. Gyda Chôr Pawb a Grŵp A Cappella Ieuenctid Arberth yn cymryd rhan flaenllaw, codwyd lleisiau’n unsain ar draws Sir Benfro fel rhan o Ŵyl Llais A Cappella Arberth 2020. Daeth Codwch eich Llais Sir Benfro â llawer o’n grwpiau canu gwych a’n prosiectau at ei gilydd gan wneud ymdrech i dorri record trwy greu côr i bontio’r cenedlaethau gyda chantorion rhwng 0 a 100 oed. Mae’r ffilm hon yn adrodd hanes y digwyddiad ac yn rhoi sylw penodol i berfformiad angerddol Côr Pawb o’r gân newydd ‘Sing’ a gyfansoddwyd gan Molara fel rhan o’r prosiect. Daeth y digwyddiad cymunedol arbennig yma â phobl o bob oed at ei gilydd i ganu’n unsain yn union cyn y pandemig COVID-19 gan godi arian i elusennau ieuenctid a dementia yn lleol .

Cymryd Rhan

Cymerwch ran yn nigwyddiad ymuno yn y gân Siantis Môr Côr Pawb ar Fawrth 28ain

Thanks for a lovely day. It was a total joy to be surrounded by lovely people and beautiful harmonies, really soul-lifting and rather emotional too. It was gorgeous to see the oldies enjoying the day and the singalong. So appreciate the energy you are putting into this.” Becky Hotchin Western Telegraph

Scroll to Top