Cynhyrchydd Cymunedol Cynorthwyol - Span Arts
26800
post-template,post-template-single-project,post-template-single-project-php,single,single-post,postid-26800,single-format-standard,bridge-core-2.3.8,ajax_fade,page_not_loaded,,qode_grid_1200,footer_responsive_adv,qode-child-theme-ver-1.0.0,qode-theme-ver-22.3.1,qode-theme-bridge,qode_advanced_footer_responsive_1000,wpb-js-composer js-comp-ver-7.5,vc_responsive

Cynhyrchydd Cymunedol Cynorthwyol

Mae SPAN yn chwilio am Gynhyrchydd Cynorthwyol rhan-amser i ymuno â’n tîm creadigol bach.  

Gweithio i gefnogi’r Cynhyrchydd Cymunedol SPAN i gyflawni ein rhaglen o berfformiad ac ymgysylltu creadigol ledled Sir Benfro.

Rydym yn agored i brofiad bywyd a sgiliau trosglwyddadwy. Nid oes angen i chi fod wedi gwneud y swydd hon o’r blaen yn rhywle arall ond bod gennych y gallu, y ddealltwriaeth a’r ymrwymiad i’w wneud yma.

Dyddiad cau i wneud cais: 9am, dydd Llun 29 Ebrill 2024

Yn gyfrifol i:             Y Cynhyrchydd Cymunedol

Yn gyfrifol am:        Cynorthwyo’r Cynhyrchydd Cymunedol i reoli artistiaid llawrydd a staff y prosiect

Lleoliad:                  Swyddfa yn Arberth ond yn gweithio ar draws Sir Benfro

Cyflog:                    £21,840 FTE (£13,104 pro rata yn seiliedig ar 21 awr yr wythnos)

Oriau gwaith:          Rhan amser (21 awr yr wythnos) Bydd angen peth gwaith gyda’r nos ac ar benwythnosau.

Gwyliau Blynyddol: 5.6 wythnos yn cynnwys Gwyliau Banc

Cytundeb:               Cytundeb cyfnod penodol o 12 mis o’r dyddiad dechrau

Dyddiad cau: 9am, 29ain Ebrill

GWNEWCH GAIS YMA: Assistant Community Producer Application Pack