Yn 2015, ffurfiodd Celfyddydau SPAN Côr Pawb, côr cymunedol dorfol o 70-100 cantorion rhwng chwech a naw deg chwech mlwydd oed, o bob rhan o’r sir a thu hwnt.

 

Rydym wrth ein boddau i gyhoeddi y bydd Côr Pawb yn dychwelyd gyda pherfformiad gwefreiddiol I ddod â Gŵyl Llais A Cappella Arberth i ben ar ddydd Sul y 5ed o Fawrth 2023 yn Neuadd y Frenhines.

Bydd y côr torfol yn cyfarfod am gyfres o ymarferion yn Neuadd Gymunedol Clunderwen o dan arweiniad yr arweinwyr corau profiadol Molara Awen (One Voice a Cân Sing), Maya Waldman (Sweet Harmony a Lleisiau Preseli) a Tomos Hopkins (Côr Dysgwyr Sir Benfro).

Dyddiadau ymarfer: 19eg o Dachwedd, 7fed o Ionawr, 29fed o Ionawr, 19eg o Chwefror. Bydd sesiynau yn digwydd o 11 i 4 o’r gloch. Mae ymarferion yn rhad ac am ddim i’w mynychu, ond croesawn unrhyw rhoddion.

Wedi’i sylfaenu ar egwyddorion cryfder a gwydnwch cymunedol, mae Côr Pawb yn croesawu pob llais, waeth beth fo’u gallu i ganu, i ddod ynghyd ar gyfer dathliad o gân i godi’r calon.

Does dim rhaid bod yn aelod o gôr neu wedi canu o’r blaen i ymuno. Mae croeso i bawb – cantorion profiadol a newydd fel ei gilydd!

Rydyn ni’n gwahodd unrhyw un sydd â diddordeb mewn cymryd rhan i’r ymarfer gyntaf ar y 19eg o Dachwedd yn Neuadd Gymunedol Clunderwen, Clunderwen, SA66 7NH. Os na allwch fod yn bresennol ar y dyddiad hwn ond dal eisiau cymryd rhan, cysylltwch â info@span-arts.org.uk, neu ffoniwch 01834 869323.

Rhaid i blant dan 18 oed dod gyda rieni neu warchodwr. Mae’r sesiynau am ddim, ond croesawn unrhyw roddion! Dewch â’ch cinio eich hun os gwelwch yn dda. Bydd tê a choffi ar gael. Dewch â’ch mwg eich hun os yn bosibl i’n helpu i osgoi defnyddio rhai tafladwy.

Raise Your Voice Pembrokeshire / Codwch Eich Llais Sir Benfro

Scroll to Top