Côr Pellennig - Span Arts
21609
post-template-default,single,single-post,postid-21609,single-format-video,bridge-core-2.3.8,ajax_fade,page_not_loaded,,qode_grid_1200,footer_responsive_adv,qode-child-theme-ver-1.0.0,qode-theme-ver-22.3.1,qode-theme-bridge,qode_advanced_footer_responsive_1000,wpb-js-composer js-comp-ver-7.2,vc_responsive

Côr Pellennig

Gwahoddir pob hŷn ar draws Sir Benfro i gymryd rhan yng ‘Nghôr Pellennig’ SPAN.

Prosiect canu sy’n defnyddio technoleg i ddod â phobl hŷn mewn gwahanol leoliadau at ei gilydd i ganu er mwyn gwella’u hiechyd a llesiant yw’r Côr Pellennig.

Pryd? Ymunwch â Molara ar gyfer sesiwn blasu ar-lein ddydd Gwener Mehefin 25ain am 2yp gyda chyfres o sesiynau wythnosol rheolaidd i ddilyn.

Ble? Ar  Zoom yn y lle cyntaf. Rydym yn gobeithio, fodd bynnag, y byddwn yn gallu cynnal rhai sesiynau wyneb yn wyneb gan ddibynnau ar ganllawiau COVID.

Mae hwn yn brosiect a ariennir yn llawn. Cysylltwch â Nia Lewis i gofrestru diddordeb: nia@span-arts.org.uk

Prosiect canu a ddatblygwyd mewn ymateb i’r cynnydd mewn unigrwydd hirfaith a difrifol sy’n rhan o brofiad pobl hŷn yn y DU ac yn enwedig yma yn Sir Benfro lle mae gennym boblogaeth uwch na’r cyfartaledd o bobl oedrannus, lefelau uchel o ynysiad gwledig a chysylltedd gwael.

Cafodd 130 o bobl eu cynnwys, 10 ohonynt yn gaeth i’w cartrefi. Roedd cyflyrrau iechyd yn cynnwys dementia, awtistiaeth, COPD, diabetes, MS, ME ac iselder.

O ganlyniad i  ddeugain o sesiynau un-i-un a dau ddigwyddiad dathlu cyrhaeddodd y prosiect ei nodau gyda’r adborth – “yn newid bywydau”, “pwysig” “positif.”

Cafwyd profiadau o gynnydd mesuradwy mewn:

  • Llesiant
  • Ansawdd bywyd
  • Sgiliau digidol
  • Cysylltiadau Cymunedol
  • Teimladau o werth
  • Hyder wrth ganu

Roeddem yn falch iawn pan gafodd y prosiect ei ddefnyddio fel astudiaeth achos ar wefan Rhwydwaith Iechyd a Llesiant Celfyddydau Cymru a hefyd ei enwi mewn papur gwybodaeth y GIG

Image credit: Ruth Jones