O ganlyniad i bandemig y firws COVID-19 mae adeilad Celfyddydau Span yn Arberth ar gau i’r cyhoedd am gyfnod amhenodol.
Er hynny mae SPAN yn dal i fod yn hynod weithgar a phrysur ar-lein ac mae’n tîm- sy’n fach ond wedi’i lunio’n berffaith- yn parhau i weithio gartref gan ddarparu i chi fynediad parhaus i’r celfyddydau ar-lein.
Rydym yn falch iawn ein bod ni wedi llwyddo i barhau i ddarparu rhaglen lawn ac amrywiol o ddigwyddiadau a gweithgareddau celfyddydol ar-lein yn unig ers Mawrth 2020. Ac rydym yn gwneud pob dim y gallwn i ddychwelyd at ddigwyddiadau a gweithgareddau byw mewn modd cyfreithlon, diogel ac addas, ac sy’n ystyried staff, gwirfoddolwyr, cynulleidfaoedd ac artistiaid fel ei gilydd, pan godir cyfyngiadau.
Rydym yn wir obeithio y byddwn yn eich gweld yn bersonol yn ein o’n digwyddiadau cyn hir, ond yn y cyfamser gobeithiwn y byddwch yn parhau i gymryd rhan ar-lein trwy gyfrwng un o’n prosiectau creadigol.
Ymwelwch â’n gwefan www.span-arts.org.uk neu’n tudalennau cyfryngau cymdeithasol os gwelwch yn dda er mwyn cael y wybodaeth ddiweddaraf neu ffoniwch ein rhif arferol 01834 869323.
Cadwch yn iach, gyda llawer o gariad, SPAN
Mae SPAN wedi llwyddo i gynnal gweithgareddau ar-lein trwy gydol y pandemig COVID.
Ein nod yw creu celfyddydau fel newid cymdeithasol yng Nghymru wledig ac i ddefnyddio’r celfyddydau i wella bywydau trigolion Sir Benfro. Ers sawl blwyddyn nawr rydym wedi bod yn arbrofi gyda dulliau digidol i gyflwyno’n gweithgareddau ac i gyrraedd mwy o bobl ar draws sir wledig iawn.
Dyma rai enghreifftiau:
Theatr Soffa – Mae’n cwmni theatr cymunedol ar-lein newydd yn cyflwyno perfformiadau cymunedol wedi’u ffrydio’n fyw trwy gyfrwng Zoom a hynny yn Gymraeg a Saesneg. Gyda phum perfformiad a dau gyfnod clo yn ein profiad rydym yn ymarfer ar gyfer ein cyflwyniad nesaf. Darganfodwch mwy.
Creu, gwylio a gwneud – Gyda recordiadau o berfformiadau wedi’u ffrydio’n fyw, gweithdai creadigol, a ffilmiau o’n prosiectau. Ewch at ein sianeli fideo a chwiliwch am weithgareddau creadigol y gallwch eu gwneud gartref.
‘Gigs’ ar-lein – perfformiadau wedi’u ffrydio’n fyw ac wedi eu recordio, wedi eu cyflwyno gan SPAN.
Cân Sing – Mae’n Grŵp Canu bob pythefnos wedi parhau yn ystod y pandemig. Ddarganfodwch mwy ac gymrydwch rhan.
Mae’n digwyddiadau a phrosiectau ar-lein yn parhau ar hyn o bryd, ond rydym yn ystyried rhai digwyddiadau awyr agored ar gyfer misoedd y gwanwyn/haf.
Mae SPAN wedi sefydlu tîm COVID yn cynnwys staff, gwirfoddolwyr ac aelodau o’r Bwrdd. Mae’r tîm yn paratoi Asesiadau Risg a pholisïau a gweithdrefnau i gadw pawb yn ddiogel.
Ein blaenoriaeth yw diogelwch ein cyfranogwyr, gwirfoddolwyr, staff ac artistiaid ac rydym yn ymwybodol iawn fod llawer o’n cefnogwyr yn y grwpiau mwy bregus.
Rydym yn hynod ddiolchgar i’n cyllidwyr sydd wedi darparu arian i’n helpu ni i wneud adeilad Span yn COVID-ddiogel ac i gynllunio a phrynu arwyddion COVID a chyfarpar diogelu personol ar gyfer ein staff a gwirfoddolwyr yn barod i ni ddychwelyd i ddigwyddiadau a gweithgareddau byw.
Diolch yn fawr iawn i Gyngor Celfyddydau Cymru, Cyngor Sir Benfro a Chefnogaeth COVID CGGSB (PAVS) am eu cefnogaeth.
Mae adeilad SPAN yn Arberth ar gau ar hyn o bryd, Fel cymaint o bobl rydym yn gweithio gartref ac ar-lein.
Er bod ein swyddfeyddd ar gau mae rhif ffôn y swyddfa’n dal i weithio ac yn cael ei ddargyfeirio i’n ffonau symudol ni gartref. Os hoffech chi siarad gyda ni neu ofyn cwestiwn, peidiwch ag oedi rhag ebostio info@span-arts.org.uk neu ffonio 01834 869 323.
Fel sefydliad celfyddydau sydd heb leoliad perfformio, rydym yn ystyried yr effaith ar ein dulliau gweithredu wrth i ni gyflwyno digwyddiadau mewn amrywiaeth o leoliadau ar draws Sir Benfro.
Mae gan SPAN enw da, a hwnnw’n cynyddu, am ein prosiectau llesiant a chelfyddydau cymunedol o ansawdd uchel, yn ogystal â digwyddiadau unigol sy’n dod â chymunedau at ei gilydd i rannu profiadau creadigol sy’n helpu pobl i deimlo’n well. Rydym yn ymroddedig i barhau i gynnig mynediad i brofiadau dyrchafol y celfyddydau i bawb yn ystod y cyfnod anodd yma.
Mae nifer o ffyrdd y gallwch chi gefnogi SPAN yn ystod y pandemig.