Dod yn ymddiriedolwr - Span Arts
25749
post-template-default,single,single-post,postid-25749,single-format-standard,bridge-core-2.3.8,ajax_fade,page_not_loaded,,qode_grid_1200,footer_responsive_adv,qode-child-theme-ver-1.0.0,qode-theme-ver-22.3.1,qode-theme-bridge,qode_advanced_footer_responsive_1000,wpb-js-composer js-comp-ver-7.2,vc_responsive

Dod yn ymddiriedolwr

Rydym yn awyddus i recriwtio aelodau Bwrdd newydd i’n Bwrdd Ymddiriedolwyr i helpu i arwain a chefnogi ein tîm arwain drwy adferiad ac ailagor a helpu i lunio arlwy gelfyddydol ôl-covid hyfyw ar gyfer Sir Benfro.

Rydym yn agored i syniadau a dulliau gweithredu newydd gan ein bod am ddod o hyd i ffyrdd newydd o weithio i gyflawni ein cenhadaeth i wneud ‘Celf fel newid cymdeithasol yng nghefn gwlad Cymru’.

Rydym nawr yn chwilio am aelodau bwrdd newydd profiadol, angerddol sydd â chysylltiadau da, gyda’r egni a’r uchelgais i helpu i lywio Span Arts i’r dyfodol.

Rydym yn chwilio am grŵp amrywiol o aelodau bwrdd, gydag arbenigedd a phrofiad ym meysydd cyllid, datblygu cymunedol, y celfyddydau, cydraddoldeb, amrywiaeth, adnoddau dynol a’r iaith Gymraeg.

Lawrlwythwch y pecyn cais ar gyfer aelodaeth Bwrdd isod:

SPAN Trustee Application Form 2020

Neu os hoffech siarad â rhywun yn anffurfiol i ddarganfod mwy cysylltwch â’r Cadeirydd Cathy Davies ar cathyfronfarm@gmail.com