Llogi Ystafell - Span Arts
22271
post-template,post-template-single-project,post-template-single-project-php,single,single-post,postid-22271,single-format-standard,bridge-core-2.3.8,ajax_fade,page_not_loaded,,qode-title-hidden,qode_grid_1200,footer_responsive_adv,qode-child-theme-ver-1.0.0,qode-theme-ver-22.3.1,qode-theme-bridge,qode_advanced_footer_responsive_1000,wpb-js-composer js-comp-ver-7.2,vc_responsive

Llogi Ystafell

Stiwdio SPAN:

Yn ogystal â bod yn ganolbwynt i’n gwirfoddoli a’n canolfan weinyddol, mae gan adeilad SPAN nifer o opsiynau ar gyfer llogi gan ddefnyddwyr allanol.

Mae’r Stiwdio’n addas ar gyfer gweithgareddau bach, gweithdai, cyflwyniadau a chyfarfodydd.

Mae parcio ar gael yn y maes parcio cyhoeddus (codir tâl). Mae lle i 30 ond dim ond i 6 os bydd angen cadw pellter cymdeithasol. Mae’r gost yn cynnwys:

  • Mynediad i Wi-Fi
  • Golau a gwres
  • Toiled gyda basn ymolchi dwylo, addas i‘r anabl
  • Seddau a byrddau
  • Yswiriant yr adeilad- ond mae llogwyr yn gyfrifol am eu gweithgareddau a chynnwys eu hunain

Costau:         Hyd at 3 awr £40 (£35 i sefydliadau trydydd sector)

                        4-8 awr £60 (£55 i sefydliadau trydydd sector)

                        Llogi taflunydd £5

                        Gosod yr ystafell i fyny: £5

 

Cegin SPAN

Os oes angen defnyddio’n cegin, sydd â chyfarpar llawn, ochr yn ochr â llogi’r stiwdio, bydd cost ychwanegol. Dewch â’ch bwyd a’ch diodydd eich hun os gwelwch yn dda. Nid yw’r gegin ar gael i’w llogi oni bai eich bod yn llogi’r stiwdio hefyd.

Cost: £20

Swyddfa SPAN

Mae gofod swyddfa (6m x 4m) ar gael lan stâr yn adeilad SPAN. Mae’n addas ar gyfer 3 i 4 gweithiwr ac mae yno sinc. Nid yw’n addas i gadair olwyn. Ni chynhwysir dodrefn a chyfrifiaduron yn y gost. Cost yn cynnwys:

  • Mynediad i Wi-Fi
  • Golau a gwres
  • Mynediad at doiled a chegin
  • Glanhau’r swyddfa

Cost:  £200 y mis

Desg Boeth SPAN

Os oes angen gofod desg dros dro arnoch chi mae SPAN yn hapus i gynnig lle i chi weithio. Bydd rhaid i chi ddarparu’ch offer eich hun. Llogi’n cynnwys:

  • Mynediad i Wi-Fi
  • Golau a gwres
  • Mynediad at doiled a chegin

Cost: £15 y dydd

Am ragor o wybodaeth neu i archebu cysylltwch â:

Swyddfa SPAN: 01834 869323

os gwelwch yn dda finance@span-arts.org.uk