-
Eco Brintio
Gyda Kate Kekwick
Dysgwch sut i brintio â sgrin gan ddefnyddio defnyddiau naturiol yn unig gyda’r darlunydd Kate Kekwick. Byddwch yn cynhyrchu print deuliw gan ddefnyddio stensiliau papur a phastau printio naturiol.
-
Angenfilod Broc Môr
Gyda’r cynllunydd a gwneuthurwraig pypedau Di Ford
Gweithgaredd hwyl a hawdd i’r teulu cyfan ei fwynhau
-
Creu’ch fideo cyfarwyddol eich hun
Gyda’r artist ac animeiddwraig Gemma Green-Hope
Ar gyfer chi gyw animeiddwyr i gyd!
-
Peintiwch feidr
gyda Guy Manning
Guy Manning yn arwain arddangosiad o beintio’r feidr sydd i’w gweld o’i ddrws ffrynt. Myfyrdod hynaws ar gyferbyniad, arlliw a thôn. Cynhaliwyd y gweithdy ar Fai 16eg 2020.
-
Creu bocs anrheg
Gyda’r gwirfoddolwraig Ann Maidment
Fel rhan o’n Prosiect Caredigrwydd, Dangoswch e. Rhannwch e.
-
Tiwtorial pyped aderyn marionét
Gyda’r cynllunydd a gwneuthurwraig pypedau Di Ford
Gan ddefnyddio defnyddiau o’r cartref byddwch yn dysgu sut i greu’r cymeriad bach hapus yma a dod yn grëwr pypedau!
-
Cynllunio a chreu clytiau gweuedig
Gyda’r artist tecstilau Nia Lewis
Dewch i greu clytiau gweuedig unigryw ar gyfer eich prosiectau cwiro neu i uwchgylchu dillad neu decstilau’r cartref.
❱
❰
-
Theatr Soffa
Cwmni theatr cymunedol SPAN sy’n cael ei ffrydio’n fyw ar-lein.
Mehefin 2020 - Presennol
Cwmni theatr cymunedol newydd yw Theatr Soffa yn cyflwyno perfformiadau cymunedol wedi’u ffrydio’n fyw trwy gyfrwng Zoom yn y Gymraeg ac yn Saesneg
-
Pererin Wyf
Is Oilithreach Mé
I am a pilgrim
Seinio’r ffordd yn ôl trwy stori a chân
Prosiect celfyddydau cyfranogol yw Pererin Wyf / Is oilithreach mé sy’n ceisio cysylltu gyda Chymry a Gwyddelod alltud gan gyfeirio’n benodol at Sir Benfro a Llwch Garmon (Wexford) a phererindod drawsffiniol newydd sydd â’r bwriad o gysylltu’r ddau le. Daw teitl ac ysbrydoliaeth y prosiect o emyn o’r 18fed ganrif gan yr emynwr toreithiog o Gymru, William Williams, Pantycelyn. Bydd y gân sy’n adnabyddus iawn yng Nghymru ac i’r Cymry alltud hefyd yn gyfarwydd i lawer iawn o bobl eraill ledled y byd gan ei bod yn cael ei chanu’n bennaf ar dôn Amazing Grace.
Daeth y prosiect i ben ym mis Mai 2023 gyda digwyddiad ar-lein lle rhannwyd ffilm ddogfen am y prosiect a chân newydd oedd wedi ysgrifennu mewn ymateb i'r prosiect. Dilynodd y gweithgareddau yma gyda chyngerdd yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi a chafodd eu ffrydio'n fyw ar-lein hefyd.
Map Caneuon y ‘Diaspora’
-
Gwyliwch y ffilm fer yma am y broses o greu Can y Ffordd Euraidd
Gwaith clywedol estynedig yw baled radio, yn plethu iaith lafar, sain amgylchynol, caneuon traddodiadol a cherddoriaeth a geiriau newydd.
-
Gwrandewch Nawr: Baled Radio Cân y Ffordd Euraidd
A radio ballad, an extended sound piece weaving together oral speech, ambient sound, traditional songs and newly created music and lyrics was created from the rich and deep material recorded.
-
Y Baghdaddies
Ar Fehefin 13eg fe ynunon ni â’r Baghdaddies ar gyfer gig dethol wedi’i recordio o flaen llaw. Yn ogystal â’r traciau a recordiwyd yn unswydd i Span, ymunodd y band â ni ar y ‘Chat’ i godi’r galon ac i sgwrsio â’r gynulleidfa.
-
Memortal/Cofio
Prosiect ymchwil a datblygu cydweithredol wedi’i arwain gan SPAN oedd Memortal/Cofio, yn rhan o Span Digidol – cyfres o brosiectau peilot i roi ar brawf sut y gellid defnyddio technoleg ddigidol yn greadigol i gynyddu cysylltedd a lleihau unigrwydd ac ynysiad.
-
Perfformiad byw gartref gyda Lowri Evans
Fel rhan o’n cyfres ar-lein o gerddoriaeth fyw gartref, Natalie Holmes yn cefnogi Lowri Evans a Lee Mason mewn noson o gerddoriaeth acwstig hyfryd.
-
Black Voices
Ffrydiwyd yn fyw ar Hydref 30ain 2020
Wedi’i ffurfio ym 1987 gan eu Cyfarwyddwr Cerddorol Carol Pemberton MBE, mae Black Voices wedi ennill clod fel pumawd a cappella merched gorau Ewrop.
-
Yn fyw gartref gyda Bardd gyda chefnogaeth gan Eädyth
Bîtbocs, lwpio byw arloesol, calimba trydan, ffidil gwerin, organ jazz, gîtar y felan a’r gair llafar. Y bît bocsiwr dwyieithog Mr Phormula gyda’r bardd ac awdur geiriau Martin Davies yn arloesi mewn ymdoddiad newydd o gerddoriaeth sy’n archwilio prosesau traddodiadol a modern.
-
Noson Gartrefol Nadoligaidd SPAN
Gwyliwch ein noson Nadoligaidd pan fwron ni olwg yn ôl a dathlu holl weithgareddau Span yn 2020.
-
We are not alone
Ym mis Hydref 2019 teithiodd Clwb Digi Span Digidol i Ysgol Gynradd Aber Llydan i weithio gyda disgyblion blynyddoedd 5 a 6 ar animeiddiad byr i’w ddangos yn ystod Parêd Llusernau Hwlffordd, ‘Dros y Lleuad’.
-
Côr Pawb – Lean on Me
Côr rhithiol gyda rhai o aelodau o Gôr Pawb a ddaeth at ei gilydd yn ystod Hydref 2020.
-
Straeon Affricanaidd
Cynhaliodd Molara, y gantores ac ymarferydd y celfyddydau, y chwedleuwr Phil Okwedy a’r bardd Eric Ngalle Charles, gyfres o weithdai dros alwadau fideo yn archwilio cysylltiadau Cymru â chyfandir Affrica.
❱
❰
-
Straeon Cariad at Natur
Comisiwn celfyddydau amgylcheddol
Mehefin 2023 - Chwefror 2024
Gwnaethon wahodd artistiaid ac ymarferwyr creadigol i anfon eu syniadau atom ar gyfer gwaith newydd fel rhan o'n comisiynau Straeon Cariad at Natur.
Mae angen i bob syniad ymateb mewn rhyw ffordd i'r ysbardun Yr Amgylchedd.
-
Theatr Soffa
Cwmni theatr cymunedol SPAN sy’n cael ei ffrydio’n fyw ar-lein.
Mehefin 2020 - Presennol
Cwmni theatr cymunedol newydd yw Theatr Soffa yn cyflwyno perfformiadau cymunedol wedi’u ffrydio’n fyw trwy gyfrwng Zoom yn y Gymraeg ac yn Saesneg
-
Map Digi Penfro
Mae'r Map yn cofnodi natur, gwyddoniaeth, celf, hanes a barddoniaeth. Mae pwyntiau wedi eu gosod gan bobl hen ac ifanc ac yn y canol, gyda'u hatgofion, eu gwybodaeth a'u syniadau. Gallwch chi ychwanegu rhai hefyd.
❱
❰