Pererin Wyf – Y Canu Mawr – The Big Sing - Span Arts
25303
post-template,post-template-single-project,post-template-single-project-php,single,single-post,postid-25303,single-format-standard,bridge-core-2.3.8,ajax_fade,page_not_loaded,,qode-title-hidden,qode_grid_1200,footer_responsive_adv,qode-child-theme-ver-1.0.0,qode-theme-ver-22.3.1,qode-theme-bridge,qode_advanced_footer_responsive_1000,wpb-js-composer js-comp-ver-7.5,vc_responsive

Pererin Wyf – Y Canu Mawr – The Big Sing

Daw’r prosiect Pererin Wyf / Is Oilithreach Mé / I am a Pilgrim i ddiweddglo'r gwanwyn yma gyda dangosiad ffilm ar-lein wedi’i ddilyn gan gyngerdd byw byr yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi. Cafodd y prosiect sydd wedi ceisio cysylltu â'r diaspora Cymreig a Gwyddelig drwy hunaniaeth, iaith, teithio a chân ei ysbrydoli gan emyn Cymraeg o'r 18fed ganrif gan arwain at gân facaronig newydd.

Mae côr Celfyddydau SPAN, Côr Pawb, yn eich gwahodd chi i’r  Canu Mawr / The Big Sing!

29ain o Fai 2023 | 11.15 – 12.00 | Eglwys Gadeiriol Tyddewi

Ymunwch â Chôr Pawb – Côr Celfyddydau Span ar gyfer rhaglen fer o gân bererindod wedi ei pherfformio yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi fel rhan o Ffair Bererinion.  Bydd y digwyddiad yn ddathliad o’r prosiect Pererin Wyf / Is Oilithreach / I am a Pilgrim ac yn cynnwys perfformiad o gân newydd An Dara Craiceann (Yr Ail Groen) a ysgrifennwyd gan Rachel Fhaoláin mewn ymateb i’r prosiect a bydd yn gorffen gyda chanu mawr a Cappella o’r emyn ‘Pererin Wyf’ gan William Williams, Pantycelyn ac fe’ch gwahoddir i ymuno! 

Mae’r emyn wedi ei chanu ar dôn Amazing Grace ers i’r gantores Gymreig Iris Williams recordio ei fersiwn carreg filltir o Pererin Wyf yn 1971.

Mae’r emyn ar gyfer y perfformiad yma wedi trefnu gan arweinydd Côr Pawb Molara Awen.

Os hoffech ymuno gyda Chôr Pawb yn canu mewn pedwar llais gallwch ddysgu eich rhan o’r dolenni isod!

Soprano  |  Alto   |  Tenor   |  Bass

Bydd y cyngerdd yn cael ei ffrydio’n fyw o’r Eglwys Gadeiriol.

Mae An Dara Craiceann (Yr Ail Groen) yn gân facaronig newydd wedi’i hysgrifennu yn yr arddull draddodiadol gan y gantores Rachel Fhaoláin. Cân sy’n cynnwys mwy nag un Iaith yw cân facaronig.  Mae Rachel yn ysgrifennu am y gân: 

The song reflects the understandings of pilgrimage and what it can unlock from beneath the surface, as we journey through life…The air I used is from another beautiful song that we enjoy singing together as a family; a Wexford song of emigration called ‘Bannow Mother’s Lament’.  I also interweaved a section of the old Welsh hymn Pererin Wyf into the new song. All the individual pieces seemed to stitch together seamlessly.”

Digwyddiad Sgrinio Ffilm Pererin Wyf
Mai 24ain 2023
7.30yh, Ar-lein

 

Gallwch gael cipolwg ymlaen llaw o’r gwaith  newydd drwy ymuno ar-lein ar 24 Mai pan rennir cyflwyniad yn cynnwys dangos ffilm newydd sy’n dogfennu’r prosiect Pererin Wyf / Is Oilithreach / I am a Pilgrim a grëwyd mewn cydweithrediad â’r cynhyrchydd radio Paul Evans a’r gwneuthurwr ffilmiau Jacob Whittaker.  Mae’r ffilm yn cynnwys lleisiau’r rhai sydd wedi cymryd rhan ac yn adlewyrchu dealltwriaeth gyfoes o bererindod, cartref a dychweliad. 

Bydd y noson hefyd yn cynnwys dangosiad o ffilm o’r gân newydd a pherfformiad arbennig gan Gôr Cymunedol Gwyddelod Llundain o Ganolfan Gwyddelod Llundain. 

Mae’r digwyddiad am ddim ond archebwch le drwy Wefan Celfyddydau Span os gwelwch yn dda.

ARCHEBWCH YMA

Gwyliwch Côr Pawb yn perfformio’r emyn fel rhan o Ŵyl Llais A Capella Arberth

Am y prosiect

 

Prosiect celfyddydau cyfranogol yw Pererin Wyf / Is oilithreach mé sydd wedi ceisio cysylltu gyda Chymry a Gwyddelod alltud gan gyfeirio’n benodol at Sir Benfro a Llwch Garmon (Wexford) a phererindod drawsffiniol newydd sydd â’r bwriad o gysylltu’r ddau le.

Daw teitl ac ysbrydoliaeth y prosiect o emyn o’r 18fed ganrif gan yr emynwr toreithiog o Gymru, William Williams, Pantycelyn.

Bydd y gân sy’n adnabyddus iawn yng Nghymru ac i’r Cymry alltud hefyd yn gyfarwydd i lawer iawn o bobl eraill ledled y byd gan ei bod yn cael ei chanu’n bennaf ar dôn Amazing Grace.

Cynsail sylfaenol y prosiect oedd gwahodd pobl lle bynnag y bônt yn y byd i ganu’r gân hon neu fersiwn o’r gân hon neu unrhyw gân sydd â’r gallu i’ch galw chi nôl adre ac i binio’r recordiad hwnnw i’n map ar-lein

Check out the project song map here 

 

Dechreuodd y prosiect Pererin Wyf ym mis Medi 2022 gyda chyfres o weithdai ar-lein am ddim gyda siaradwyr o safon fyd-eang yn canolbwyntio ar themâu allweddol y prosiect; cysylltu â’r diaspora Cymreig a Gwyddelig, iaith, cartref, teithio a chân.

Parhaodd y gweithdai yn ystod Gwanwyn 2023 gyda sesiynau rhannu straeon a chaneuon, taith gyfnewid rhwng y siroedd cynnal Sir Benfro a Swydd Llwch Garmon yn arwain at greu cân ‘macaronic’ newydd sy’n amlygu’r iaith Wyddeleg, ac yn adlewyrchu dealltwriaeth gyfoes o bererindod, cartref a dychwelyd, wedi’ ysgrifennu gan gyd-hwyluswr y  prosiect Rachel Uí Fhaoláin.

Mae’r prosiect wedi’i gynllunio gan Rowan O’Neill ac wedi ei gyd-hwyluso gan gasglwyr caneuon a straeon digidol artistiaid Gwyddelig wedi’u lleoli yn Wexford, Rachel Uí Fhaoláin o Ceol Mo Chroí a John Ó Faoláin o’r Sianel Archif Traddodiadol, a’r artist sain a chrewr ffilm o Orllewin Cymru Jacob Whittaker.  Mae trefniant yr emyn gan Molara Awen a’r codio gan Alan Cameron Wills.

Mae’r prosiect Pererin Wyf yn rhan o’r prosiect  Cysylltiadau Hynafol a ariennir gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Raglen Gydweithredu Iwerddon Cymru.