Pinio eich Cân i’r Map

Pinio eich Cân i Fap Pererin Wyf

Cam wrth gam

Yn gyntaf, uwchlwytho eich cân i YouTube. Os nad oes gennych gyfrif YouTube gallwch anfon eich cân i rowan@span-arts.org.uk a gallwn ei hychwanegu at y map i chi.

Ewch i tudalen prosiect Pererin Wyf ar wefan Span Arts, a chliciwch Cliciwch yma i weld map y prosiect’.

Cliciwch Parhau i gau’r sgrin agoriadol.

Ciciwch Cyfrannu yng nghornel chwith uchaf y map.

Cliciwch i dderbyn y Telerau ac Amodau, ar ôl i chi eu darllen.

Mewngofnodwch gan ddefnyddio naill ai eich cyfrif Microsoft neu Google.
Llusgwch y map i osod y saeth darged goch yn y lleoliad rydych chi am binio’ch recordiad.
I chwyddo i mewn neu allan gallwch ddefnyddio’r botymau + a – yng nghornel dde uchaf y map.

Mewn ffenestr neu tab arall, copïwch y URL o’ch fideo YouTube. Defnyddiwch y ddolen Share o dan eich fideo YouTube i wneud hyn.

Yn ôl ar y map, cliciwch ar y botwm Ychwanegu Fideo yn rhan chwith uchaf y map.

 

Gludwch yr URL yn y blwch.

Cliciwch Done.

Yn y blwch golygu, ychwanegwch fwy o wybodaeth am eich recordiad.
Gallwch hefyd ychwanegu lluniau.
Cliciwch X ar y gornel dde uchaf i gau’r blwch.
.

Bydd eich recordiad yn ymddangos ar y map.

I’w weld, cliciwch y lle, neu tapiwch ddwywaith.

Diolch am eich cyfraniad!

Scroll to Top