Prosiectau, Digwyddiadau, a Gwirfoddoli - Span Arts
17374
page-template,page-template-full_width,page-template-full_width-php,page,page-id-17374,bridge-core-2.3.8,ajax_fade,page_not_loaded,,qode_grid_1200,footer_responsive_adv,qode-child-theme-ver-1.0.0,qode-theme-ver-22.3.1,qode-theme-bridge,qode_advanced_footer_responsive_1000,wpb-js-composer js-comp-ver-7.2,vc_responsive

Prosiectau, Digwyddiadau, a Gwirfoddoli

Prosiectau cyfredol

  • Rydym Yn Symud
    2023 - 2024
    Mae We Move yn brosiect dan arweiniad ieuenctid ar gyfer plant a phobl ifanc Duon ledled Gorllewin Cymru i ddod ynghyd, cysylltu, ac effeithio'n gadarnhaol ar y byd drwy gamau cymdeithasol.

     

  • SPAN Cyrraedd
    Cefnogi holl waith SPAN yw ein rhaglen wirfoddoli creadigol newydd, SPAN Cyrraedd.
    Medi 2022 - Presennol
    Prosiect gwirfoddoli newydd sy'n cael ei gefnogi gan gronfa wirfoddoli WCVA ac wedi'i strwythuro i gefnogi ymgysylltiad y rhai sydd difreintiedig ar hyn o bryd yn y celfyddydau yn y rhanbarth.

     

  • Unlimited: Gwobrau Partneriaeth ar gyfer Artistiaid Anabl
    Mae SPAN yn cydweithio ag Unlimited UK ar gyfer eu Gwobrau Partner Rhyngwladol ar gyfer Artistiaid Anabl.
    Gorffennaf 2022 - 2023
    Rydym wrth ein boddau ein bod yn cydweithio â Unlimited UK ar gyfer eu Gwobrau Partner Rhyngwladol ar gyfer Artistiaid Anabl.

     

  • Straeon Cariad at Natur
    Comisiwn celfyddydau amgylcheddol
    Mehefin 2023 - Chwefror 2024
    Gwnaethon wahodd artistiaid ac ymarferwyr creadigol i anfon eu syniadau atom ar gyfer gwaith newydd fel rhan o'n comisiynau Straeon Cariad at Natur.
    Mae angen i bob syniad ymateb mewn rhyw ffordd i'r ysbardun Yr Amgylchedd.

     

  • ArtsBoost
    Cwrs animeiddio dan arweiniad artistiaid sydd â'r nod o gefnogi pobl rhwng 13 a 17 oed sy'n aros am driniaeth gan y GIG am iechyd meddwl.
    SPAN Arts yw sefydliad partner gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (UHB) i wella iechyd meddwl a lleihau teimladau o drallod mewn plant a phobl ifanc a gŵyr y Gwasanaeth Iechyd Meddwl i Blant ac Iau (SCAMHS) a'r UHB. Cefnogir ArtsBoost gan Gyngor Celfyddydau Cymru a'r Sefydliad Baring. Yn ail flwyddyn SPAN wedi bod yn cydweithio â'r artist a'r animeiddiwr Gemma Green-Hope a'r artist a'r darlunydd Hannah Rounding. Mae sesiynau Me, Myself and I wedi'u cynllunio i fod yn brofiadau lles mewn gofod sy'n ddiogel ac a gynhelir gan broffesiynolion. Defnyddir sgiliau animeiddio a digidol i greu eu byd eu hunain a dweud eu hanesion eu hunain. Mae'r celfyddydau wedi'u profi i helpu gyda iechyd a lles. SPAN Arts yn Sir Benfro, Theatr Small World yn Ceredigion, a People Speak Up yng Ngharmarthenshire yw'r partneriaid creadigol a gomisiynwyd i dd

     

  • Galw allan am Gyfansoddwr/Cerddor.
    SPAN yn chwilio am Gyfansoddwr/Cerddor, gyda phrofiad o ddatblygu cerddoriaeth gyda phobl ifanc i greu trac/cân cerddoriaeth fodern.

     

  • Côr Pawb
    Côr Cymunedol Torfol
    Sefydlwyd yn 2015
    Bum mlynedd yn ôl cafodd Côr Pawb ei greu gan Gelfyddydau Span.

     

  • Becoming Nature by Lou Luddington
    Call Out - we a seeking a small number of nature lovers from a broad spectrum of the Pembrokeshire community to participate in our next Love Stories to Nature arts commission.

     

  • Creative Connections Galw am Artisiad
    Mae SPAN yn chwilio am artist, gyda phrofiad o ddatblygu sgiliau creadigol gyda gofalwyr o gwmpas yr ardal leol.

     

  • Cadw Oed Gyda Natur – Yr Ap Deitio Newydd
    Wyt ti'n caru natur?
    Ydych chi'n gael digon o serchiadau pobl?

     

  • Cân Sing: Canu dros yr Enaid
    Cân Sing yw grwp syn dathlu manteision a codi eich gylydd i ganu. Ni'n Dathlu hon at ei gilydd ddwywaith y mis.

     

  • Narberth A Cappella Voice Festival (NAVF)
    Paidiwch a cholli Narberth A Cappella Voice Festival ar y 3 – 5 o Fawrth 2023.

     

  • Criw Celf
    Mae Criw Celf Cynradd yn brosiect a ariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru ar gyfer plant sydd wedi dangos dawn neu ddiddordeb arbennig yn y celfyddydau. Gwnaeth pobl ifanc o Sir Benfro, rhwng 9-11 oed, wneud cais i ddod yn rhan o'r prosiect creadigol cyffrous hwn gyda SPAN.
    Nawr yn ei drydedd flwyddyn, mae'r rhaglen wedi cynnwys sesiynau wyneb yn wyneb, yn yr awyr agored, gyda chyfranogwyr ac artistiaid lleol. Cafodd cyfranogwyr y cyfle i fwynhau pum dosbarth meistr dan arweiniad artistiaid proffesiynol, gan archwilio amrywiaeth o dechnegau a sgiliau celf. Mae'n gyfle anhygoel i'r plant fod yn rhan o brosiect creadigol cyffrous lle gwnaethant ffrindiau newydd gyda diddordebau tebyg a dysgu sgiliau newydd.Dros gyfres o sesiynau, cerddodd y plant allan i natur, canolbwyntiasant ar eu hamgylchedd, cymerasant yr hyn a ddarganfuasant a'i droi'n gerdd. Ymarferon nhw dechnegau lluniadu a gwneud marciau newydd, yn ogystal â chreu deunyddiau cyffrous â gwahanol ddeunyddiau. Gan d

     

  • Theatr Soffa
    Cwmni theatr cymunedol SPAN sy’n cael ei ffrydio’n fyw ar-lein.
    Mehefin 2020 - Presennol
    Cwmni theatr cymunedol newydd yw Theatr Soffa yn cyflwyno perfformiadau cymunedol wedi’u ffrydio’n fyw trwy gyfrwng Zoom yn y Gymraeg ac yn Saesneg

     

  • Pererin Wyf
    Is Oilithreach Mé
    I am a pilgrim
    Seinio’r ffordd yn ôl trwy stori a chân
    Prosiect celfyddydau cyfranogol yw Pererin Wyf / Is oilithreach mé sy’n ceisio cysylltu gyda Chymry a Gwyddelod alltud gan gyfeirio’n benodol at Sir Benfro a Llwch Garmon (Wexford) a phererindod drawsffiniol newydd sydd â’r bwriad o gysylltu’r ddau le. Daw teitl ac ysbrydoliaeth y prosiect o emyn o’r 18fed ganrif gan yr emynwr toreithiog o Gymru, William Williams, Pantycelyn. Bydd y gân sy’n adnabyddus iawn yng Nghymru ac i’r Cymry alltud hefyd yn gyfarwydd i lawer iawn o bobl eraill ledled y byd gan ei bod yn cael ei chanu’n bennaf ar dôn Amazing Grace. Daeth y prosiect i ben ym mis Mai 2023 gyda digwyddiad ar-lein lle rhannwyd ffilm ddogfen am y prosiect a chân newydd oedd wedi ysgrifennu mewn ymateb i'r prosiect.  Dilynodd y gweithgareddau yma gyda chyngerdd yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi a chafodd eu ffrydio'n fyw ar-lein hefyd. Map Caneuon y ‘Diaspora’

     

  • Mae Stondin Planhigion SPAN yn dychwelyd am y 28ain tro Pasg yma!
    Mae Stondin Planhigion SPAN yn dychwelyd ar ffurf gostyngol am flwyddyn arall o hwyl gymunedol wych.

     

  • Prosiectau Ieuenctid: Ffasiwn wedi’i Hailgylchu
    Rydym yn gweithio gydag artist i hwyluso'r prosiect cyffrous hwn.
    Rhagfyr 2022 - Mawrth 2023
    Rydym yn gweithio gydag artist sydd â dawn am ffasiwn a phob peth cynaliadwy i hwyluso'r prosiect cyffrous hwn mewn canolfan Ieuenctid leol yng nghanol Sir Benfro.

     

  • Prosiectau Ieuenctid: Celf Amgylcheddol
    Rydym yn chwilio am artist i hwyluso'r prosiect newydd yma.
    Rhagfyr 2022 - Mawrth 2023
    Rydym yn edrych am artist sy'n siarad Cymraeg i hwyluso'r prosiect cyffrous hwn mewn ysgol Gymraeg leol.

     

  • Y Prosiect Caredigrwydd – Dangoswch e a Rhannwch e!
    Cymuned greadigol SPAN ar-lein
    Ebrill 2020 – Presennol
    Cymuned greadigol ar-lein ar gyfer Sir Benfro, wedi’i chreu i arddangos eich syniadau creadigol ac i helpu pobl i deimlo’n well.

     

Prosiectau diweddar

  • Gwyliwch y ffilm fer yma am y broses o greu Can y Ffordd Euraidd
    Gwaith clywedol estynedig yw baled radio, yn plethu iaith lafar, sain amgylchynol, caneuon traddodiadol a cherddoriaeth a geiriau newydd.

     

  • Sesiwn Holi Garddwyr BBC Radio 4 gyda Celfyddydau Span
    Mae Celfyddydau Span yn cyflwyno sesiwn holi ‘Gardeners' Question Time BBC Radio 4’, sy'n dod i Arberth am y tro cyntaf erioed ar Ddydd Mawrth y 28ain o Fehefin 2022.

     

  • Cân y Ffordd Euraidd
    Song of the Golden Road
    June - December 2021
    A community produced radio ballad giving voice to the sounds, speech and songs of an ancient trackway: a route through the Preseli Heartlands. Workshops open to all.

     

  • Celfyddydau o Bell
    Adeiladu rhwydweithiau cymunedol ar adeg COVID-19
    Gorffennaf 2020 – presennol
    Rhaglen gelfyddydol ar-lein, gan gadw pellter cymdeithasol, i leihau ynysiad ac unigrwydd, lleddfu gofidiau, straen a diflastod ac adeiladu rhwydweithiau cymdeithasol yn Sir Benfro ar adeg Covid-19

     

  • Cor Pawb
    Codwch Eich Llais Sir Benfro
    Cais i dorri record canu
    2020
    Yn Chwefror 2020 daeth Celfyddydau Span â phobl o bob oed at ei gilydd i ganu. Gyda Chôr Pawb a Grŵp A Cappella Ieuenctid Arberth yn cymryd lle blaenllaw, codwyd lleisiau mewn cytgord ar draws Sir Benfro fel rhan o Ŵyl Llais A Cappella Arberth 2020.

     

  • Rhannu Bydoedd
    Rhan o ymateb SPAN i COVID ac ymgyrch Cysylltu â Charedigrwydd Sir Benfro
    2019
    Yn nhymor yr Hydref 2020 cyflwynodd SPAN amrywiaeth eang o weithdai ar-lein wedi’u harwain gan artistiaid er mwyn gwella cysylltioldeb cymdeithasol a lleihau unigrwydd ac ynysiad cymdeithasol i bobl o bob oed.

     

  • Creu a Chysylltu
    2018 - 2021
    Mae Creu a chysylltu’n creu mwy o gyfleoedd i wirfoddolwyr gymryd rhan yn y celfyddydau trwy brofiadau gwirfoddoli diddorol ac yn helpu pobl i gyfrannu at adfywio a chyfoethogi bywyd yn eu cymunedau.

     

  • Clwb Digi
    Clwb technoleg greadigol misol i bobl ifanc.
    2018 - 2020
    Clwb technoleg greadigol SPAN i blant 8-16 oed..

     

  • SPAN Digidol
    Mai 2018-2020
    Prosiect dwy flynedd wedi’i ariannu gan Leader a Chyngor Celfyddydau Cymru oedd SPAN Digidol. Cafodd ei gynllunio i agor y celfyddydau allan ledled Sir Benfro trwy ddatblygu dulliau newydd o gyflwyno gwasanaethau diwylliannol i ardaloedd gwledig trwy dechnoleg ddigidol.

     

  • Côr Pellennig
    Rhagfyr 2017 - Mai 2018
    Prosiect canu a ddatblygwyd mewn ymateb i’r cynnydd mewn unigrwydd hirfaith a dwys ym mhrofiad pobl hŷn yn Sir Benfro

     

  • Map Digi Penfro
    Rhagfyr 2017 – Mai 2018
    Map dwfn ar-lein, wedi’i greu gan SPAN, lle gallwch gofnodi gwybodaeth sy’n bwysig i chi am y lleoedd rydych yn byw ynddynt neu’n teithio drwyddynt.

     

  • Y Prosiect Llawen
    Rhaglen o weithgareddau celfyddydol a chymdeithasol yn Sir Benfro wledig.
    2015 -2018
    Prosiect tair blynedd wedi’i ariannu gan Gronfa’r Loteri Fawr i leihau ynysiad ac unigrwydd trwy’r celfyddydau a gweithgareddau creadigol cymdeithasol.

     

  • Rhwydwaith y Celfyddydau ac Iechyd
    Rhwydwaith newydd ar gyfer darpariaeth y celfyddydau ac iechyd yn Sir Benfro
    2021
    Mae SPAN wedi sefydlu rhwydwaith Celfyddydau ac Iechyd newydd yn Sir Benfro i adeiladu ar y dystiolaeth gynyddol gref sy’n dangos fod gan y celfyddydau rôl hollbwysig wrth drawsnewid cymunedau, mynd i’r afael ag unigrwydd ac ynysiad ac i wella iechyd a llesiant.

     

  • Corau Gofalgar
    Canu mewn lleoliadau gofal
    Sefydlwyd yn 2015.
    Rhaglen o weithdai canu mewn lleoliadau gofal yn Sir Benfro yw Corau Gofalgar  gan dargedu pobl hŷn a rhai sy’n byw gyda dementia.

     

  • Parêd Llusernau Hwlffordd
    2015 -2018
    Rhwng 2015-19 bu SPAN yn cyd-gyflwyno’r Parêd Afon Goleuadau blynyddol yn Hwlffordd. Wedi’i sefydlu’n wreiddiol gan Gofod i Greu a’i gyflwyno mewn partneriaeth â SPAN fel rhan o’r ‘Lab’, prosiect celfyddydau ac adfywiad ar gyfer Hwlffordd, tyfodd y parêd llusernau Afon Goleuadau i fod yn ddigwyddiad ysblennydd a phoblogaidd iawn wedi’i gyflwyno gan SPAN mewn partneriaeth ag eraill. Mae Hwlffordd wedi mwynhau pedwar parêd llusernau ysblennydd ers 2015 gan ddod â miloedd o bobl at ei gilydd i rannu digwyddiad cofiadwy a dyrchafol ar gyfer y teulu cyfan Yn fuan iawn daeth y digwyddiad celfyddydol cyfranogol hynod yma’n ddigwyddiad blynyddol poblogaidd yng nghalendr Sir Benfro gan ddod ag artistiaid a’r gymuned at ei gilydd i greu achlysur i’w gofio wedi’i lunio gan thema neu stori newydd bob blwyddyn. Sefydlwyd y Parêd Afon Goleuadau i ysbrydoli ymdeimlad o gymuned a pherthyn yn Hwlffordd trwy ddigwyddiad ar raddfa fawr yn dathlu’r afon, y dref