Recordio’ch cân

Pererin Wyf project logo

Sut i recordio’ch ac uwchlwytho eich cân

Mae prosiect Pererin Wyf o Span Arts yn gwahodd pobl ar draws y byd i recordio eu caneuon am deithio, perererindod a chartref, a’u hychwanegu at fap y prosiect.

Rhowch eich cân ar y map:

Recordio eich cân

Uwchlwytho’r recordiad

Rhowch e ar y map

1. Recordio eich cân

Dyma gwpl o awgrymiadau

Beth sydd tu ôl i chi? Yn gyntaf mae’n werth meddwl am eich lleoliad a beth y gallwch weld yng nghefndir eich llun. 

Tawel: Meddyliwch hefyd ynglŷn â’r sŵn sydd o’ch cwmpas.  Ydych chi mewn lle swnllyd neu leoliad tawel?

Os mae’n wyntog iawn  bydd eich meicroffon yn dal y sŵn yma.  I helpu gyda hyn gallwch ddefnyddio meic sy’n plygio mewn gyda sgrin rhag y gwynt.

Batri: Gwnewch yn siwr bod digon o fatri ‘da chi.  Dydych chi ddim eisiau iddo redeg allan yng nghanol recordio eich cân.

Fformat tirwedd: Hoffwn i chi recordio eich cân ar ffurf tirlun hynny yw gyda’r ffôn ar ei ochr.

 

Modd ayrwen: Byddai’n syniad da i roi eich ffôn ym modd ‘awyren’ er mwyn gwneud yn siwr nad ydych yn derbyn unrhyw hysbysebion i darfu arnoch chi yn ystod recordio.

 

Gofynnwch i ffrind helpu: Wrth gwrs efallai yr hoffech chi gael rhywun arall i’ch helpu i recordio’ch cân. Efallai y bydd hyn yn haws i chi.

Felly rydych yn barod i recordio

Agorwch eich camera a dewis Fideo ac yna pwyswch Record. (Peidiwch â phoeni os na fyddwch chi’n dechrau canu ar unwaith. Gallwch chi glipio dechrau a diwedd y fideo yn offer YouTube Studio ar ôl ei uwchlwytho.)

Cyflwynwch eich hun a dywedwch ble rydych chi, pan fyddwch chi’n dechrau recordio.

Fe allech chi hefyd ddweud rhywbeth am yr hyn y mae’r gân yn ei olygu i chi. Ond peidiwch â chymryd gormod o amser i gyrraedd y gân!

Ar ôl i chi orffen, peidiwch ag anghofio pwyso Stop.

2. Uwchlwytho eich cân i YouTube

Os nad oes gennych gyfrif YouTube gallwch anfon eich cân i rowan@span-arts.org.uk a gallwn ei hychwanegu at y map i chi.

Defnyddiwch yr app YouTube ar eich ffôn symudol. (Os nad oes gennych chi eisoes, mae’n rhad ac am ddim i’w osod a’i ddefnyddio.)

Cliciwch ar y botwm + ac yna Upload a Video. (Nid Short)

Rhowch eich enw ac enw’r gân yr oeddech yn canu ar gyfer y teitl.. 

Rhaid dewis gwelededd Public neu Unlisted er mwyn ychwanegu at y map. 

Cliciwch Next ar y dde uchaf.

Cliciwch See Video neu Library. Byddwch yn gweld faint o amser mae’n mynd i gymryd i uwchlwytho.

Unwaith mae’r recordiad wedi uwchlwytho ac rydych yn gallu chwarae yn ôl, mae’n barod i’w rannu ar y map.

3. Nesaf: Ychwanegwch eich cân at y map >>

Scroll to Top