Mae Celfyddydau Span yn awyddus i recriwtio aelodau newydd i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr i fod o gymorth i arwain a chefnogi’n tîm arweinyddiaeth drwy adferiad ac ail-agor, ac i helpu i lunio cynnig celfyddydau cymunedol ymarferol ôl-COVID i Sir Benfro.

Rydym yn agored i syniadau a dulliau gweithredu newydd wrth i ni chwilio am ddulliau newydd o weithio er mwyn cyrraedd ein nod ‘ Celf fel Newid Cymdeithasol yng Nghymru Wledig’.

Mae SPAN yn elusen celfyddydau cymunedol bywiog a blaengar sydd â’r nod o gyflwyno prosiectau celfyddydol a digwyddiadau o ansawdd uchel i bobl gorllewin Cymru. Wedi’i leoli yn Arberth, ers y cyfnod clo mae Span wedi parhau i weithredu ar-lein, gyda staff yn gweithio o gartref, yn defnyddio technoleg ddigidol i’n galluogi i barhau i gyflwyno profiadau celfyddydol- o theatr ar-lein fel Theatr Soffa i gigs cerddoriaeth ar-lein a’r Prosiect Caredigrwydd – mae SPAN yn ymroddedig i helpu pobl i deimlo’n gysylltiedig ag eraill, i gael hwyl a mynd i’r afael ag unigrwydd ac ynysiad cymdeithasol.

 

Rydym yn chwilio nawr am aelodau newydd sy’n brofiadol, angerddol a chyda cysylltiadau da, gyda’r egni a’r uchelgais i helpu i lywio Span ymlaen i’r dyfodol.

Rydym yn chwilio am grŵp amrywiol o aelodau i’r Bwrdd gyda’r arbenigedd a’r profiad ym myd cyllid, datblygiad cymunedol, y celfyddydau, cydraddoldeb, amrywiaeth, adnoddau dynodol a’r Iaith Gymraeg.

Medd Catherine Davies, Cadeirydd Span: “Yn dilyn ymadawiad rhai aelodau hirsefydlog o’r Bwrdd, rydym yn awyddus i gryfhau tîm aelodau Bwrdd Ymddiriedolwyr Span ymhellach. Rydym yn falch ein bod wedi llwyddo i ddefnyddio’n hyblygrwydd creadigol yn ystod y cyfnod heriol a fu dros y flwyddyn a hanner ddiwethaf- i symud ymlaen yn ddigidol, ac i barhau i ddarparu profiadau celfyddydol o’r radd flaenaf i’n cymuned yma yng ngorllewin Cymru. Wrth i ni symud yn ôl i gyfuniad o ragor o weithio’n wyneb yn wyneb yn gyfochr â’n cynnig digidol, edrychwn ymlaen at groesawu aelodau newydd i’r Bwrdd, sydd â meddyliau creadigol a chraffter busnes fel ei gilydd, i ymuno â’n tîm er mwyn helpu i ddarparu Celf fel Newid Cymdeithasol yng Nghymru Wledig”.

Am wybodaeth bellach, ac i gael pecyn cais ar gyfer aelodaeth o’r Bwrdd, ewch i wefan SPAN: www.span-arts.org.uk  os gwelwch yn dda, neu os hoffech chi siarad gyda rhywun yn fwy anffurfiol i ddarganfod mwy cysylltwch â’r Cadeirydd Cathy Davies ar cathrynfronfarm@gmail.com

Neu ymunwch â ni i ddarganfod mwy am SPAN yn ein cyfarfod cyffredinol blynyddol ar-lein ar ddydd Mercher Gorffennaf 21ain am 6yh. Archebwch ar-lein:  www.span-arts.org.uk

 

Scroll to Top