Rhannu Bydoedd - Span Arts
21593
post-template,post-template-single-project,post-template-single-project-php,single,single-post,postid-21593,single-format-video,bridge-core-2.3.8,ajax_fade,page_not_loaded,,qode-title-hidden,qode_grid_1200,footer_responsive_adv,qode-child-theme-ver-1.0.0,qode-theme-ver-22.3.1,qode-theme-bridge,qode_advanced_footer_responsive_1000,wpb-js-composer js-comp-ver-7.2,vc_responsive

Rhannu Bydoedd

Rhan o  ymateb SPAN i’r argyfwng COVID ac ymgyrch Cysylltu â Charedigrwydd Sir Benfro.

Fel rhan o gyfraniad Span i’r ymateb i’r argyfwng COVID, ac ymgyrch Cysylltu â Charedigrwydd Sir Benfro, cyflwynodd Span amrywiaeth o weithgareddau wedi’u harwain gan artistiaid yn ystod yr Hydref yn 2020 er mwyn gwella cysylltioldeb cymdeithasol a llesiant ac i leihau unigrwydd ac ynysiad cymdeithasol ar gyfer pobl o bob oed.

Yn gynnar yn y cyfnod clo addaswyd y prosiect mewn ymateb i’r argyfwng, gyda’r nod o gysylltu pobl hŷn ac ynysig a phlant trwy gyfrwng sesiynau technoleg greadigol ar-lein, gan gydnabod fod ‘na fwy o bobl ynysig a hŷn a oedd yn gaeth i’w cartrefi, yn unig ac yn bryderus yn ystod y cyfnod anodd yma.

Roedd y prosiect yn  bwriadu cyflwyno pobl hŷn i dechnolegau newydd mewn awyrgylch chwareus ac arbrofol.

Cyflawnwyd cyfres o bum profiad gweithdy ar-lein wedi eu harwain gan artistiaid ym meysydd dawns, canu gwerin Cymraeg, barddoniaeth, pypedwaith a ffotograffiaeth feddylgar.

Roedd mwy na 109 o bresenoldebau gyda 47 o bobl yn mwynhau profiadau creadigol ar-lein yn rheolaidd dan arweiniad yr artistiaid a cherddorion a gomisiynwyd, sef Kerry Steed, Jeremy Huw Williams, Richard Chappell, Emily Laurens a Ray Hobbs.

Ar hyn o bryd mae ffilm yn cael ei chynhyrchu yn cyflwyno’r stori o’r hyn a ddysgon ni.

Roedd adborth yn dangos fod y profiadau hyn wedi darparu cyfleoedd gwerthfawr, rheolaidd a dyrchafol i unigolion yn ystod misoedd yr Hydref.

“I feel better”

“I appreciate being able to come to your group and I enjoy the way you facilitate. It helps me recharge my batteries and boosts my wellbeing.”

Cadwch ar y donfedd!

Byddwn yn rhyddhau rhaglen ddogfen am y prosiect am yr wythnosau nesaf.