Theatr Soffa
Cwmni theatr cymunedol SPAN sy’n cael ei ffrydio’n fyw ar-lein.
Galwad i’r ddrigwyr cymdeithasol a phobl sy’n hoffi clec! Mae’r castio ar gyfer “Lady Windermere’s Fan” yn digwydd yn fuan.
Mae grŵp theatr gymunedol “Theatr Soffa” gan Celfyddydau SPAN yn dod â fersiwn cyfrwng Saesneg o ddrama ddrygionus Oscar Wilde i sgrin yn agos atoch chi ym mis Mawrth 2022! Dyma weithgaredd perffaith i unrhyw un sy’n hoffi perfformio, a’r rhai sydd am wella eu hyder neu roi cynnig ar sgil newydd. Bydd ymarferion yn cael eu cynnal ar nosweithiau Fercher o 7-8yh gan ddechrau ar 19 Ionawr, o gysur eich cartref eich hun. Os oes angen unrhyw help arnoch i ymuno â’r galwadau i gymryd rhan rhowch wybod i ni a byddwn yn darparu cymorth.
Mae “Theatr Soffa” yn brosiect celfyddydau cymunedol arloesol sy’n canolbwyntio ar leihau unigrwydd mewn cymunedau gwledig yn ogystal â gwella iechyd meddwl a lles pobl sy’n byw ar draws Sir Benfro. Cafwyd ymateb cadarnhaol, eang i gynyrchiadau o “Under Milk Wood”, “Dan y Wenallt”, “Dracula”, “Bynji Jymping a Straeon Eraill”, a “Nadolig Plentyn yng Nghymru”. Yn union fel gyda pherfformiad arferol, mae’r sioe yn cael ei pherfformio’n fyw ond gan ddefnyddio technoleg llif byw cyffrous i alluogi actorion a chynulleidfa i gymryd rhan o adref, gydag effeithiau sain a fideo ychwanegol wedi’u plethu i mewn. Mae’n ffordd wych o ddysgu sgiliau newydd, wrth i aelodau o’r cast helpu ei gilydd gyda chefnlenni, gwneud propiau a gwisgoedd, ac mae llawer o hwyl i gael wrth archwilio onglau camera gwahanol a darganfod beth sy’n bosib gwneud o adref. Ac wrth gwrs, dim ond ychydig droedfeddi i ffwrdd y mae’r gwydraid o win neu baned ar ôl yr ymarfer!
I gofrestru eich diddordeb, llenwch y ffurflen gofrestru hon gan clicio’r ddolen yma.
*Mae hi’n angenrheidiol bod cyn-gyfranogwyr yn llenwi’r ffurflen hon hefyd*
Mae Theatr Soffa’n gwmni theatr cymunedol ar-lein newydd sy’n cyflwyno perfformiadau wedi’u ffrydio’n fyw trwy gyfrwng Zoom yn Saesneg a’r Gymraeg, y Gymraeg mewn cydweithrediad â Mentrau Iaith Sir Benfro a Cheredigion.
Cafodd ei lunio gan Span yn y lle cyntaf fel ffordd greadigol o gysylltu unigolion mewn ardaloedd gwledig sydd wedi’u hynysu neu’n gaeth i’w cartrefi, gan ddefnyddio’r celfyddydau a thechnoleg mewn dull arloesol.
Hyd yn hyn rydym wedi cynhyrchu a chyflwyno pum cynhyrchiad cymunedol wedi’u ffrydio’n fyw yn y Saesneg a’r Gymraeg yn ystod y cyfnod clo.
Yn gynharach yn y cyfnod clo daeth dau gast cymunedol o dros ddeugain o bobl, un Saesneg ac un Cymraeg, ynghyd i ymarfer ac i berfformio dwy ddrama, sef Under Milk Wood gan Dylan Thomas a Dan y Wenallt, trosiad y ddrama i’r Gymraeg gan T.James Jones.
Gan fod y prosiect mor llwyddianus roedd y cast a’r criw yn awyddus iawn i gychwyn ar dair drama newydd yn ystod hydref 2020. Y cyntaf oedd dehongliad uchelgeisiol o Draciwla. Yr ail oedd darn o ysgrifennu gwreiddiol wedi’i greu gyda’r gymuned dan arweiniad Ceri Ashe dan yr enw Lockdown Tales: Making Bread and Babies, gyda fersiwn ddwyieithog Chwedlau’r Cyfnod Clo: Bara a Babanod yn drydydd.
Bach iawn oedden ni’n dychmygu y byddai ymarferion ar gyfer cynhyrchiadau’r Hydref yn digwydd yn ystod y cyfnod atal byr yng Nghymru ac y byddent yn cael eu perfformio wrth i’r wlad ddod allan o’r ail gyfnod clo. Mae’r prosiect cymunedol arbrofol a dewr yma wedi bod yn brosiect perffaith i’r tîm i gyd gan fod llawer o’r rhai sy’n cymryd rhan yn byw ar eu pennau eu hunain, yn hŷn, neu/ac yn gwarchod ac yn methu mentro allan.
Roedd mynd mawr ar bob cynhyrchiad gydag adborth ardderchog yn dangos y gofyn am fwy.
Fe wnaeth Theatr Soffa parhau i ddiddanu cynnilleidfaoedd trwy’r nosweithiau hir, gaeafol gyda’u perfformiadau dwy-ieithog o stori fer telynegol Dylan Thomas, sef ‘Nadolig Plentyn yng Nghymru’ – cyfiaethiad gan Bryan Martin-Davies. Ffrydiwyd y perfformiadau yn fyw ar-lein ym mis Rhagfyr.
Sut i gymryd rhan
Mae’r gweithgaredd am ddim ond rhaid archebu lle. Cysylltwch â ni i gofrestru diddordeb: info@span-arts.org.uk
“The program put together by Span has helped me by giving me a reason to keep my life as normal as possible, a reason to get out of bed get dressed and have a shave!”
“I felt shut away but the project has given me a whole new lease of life”
