Rydym wrth ein boddau bod Celfyddydau SPAN wedi’u cyhoeddi fel partneriaid yng Ngwobrau Partner Rhyngwladol Unlimited ar gyfer Artistiaid Anabl

Mae Unlimited yn gorff comisiynu celf sy’n cefnogi, ariannu a hyrwyddo gwaith newydd gan artistiaid anabl ar gyfer cynulleidfaoedd yn y DU ac yn rhyngwladol. Ers 2013, mae Unlimited wedi cefnogi dros 460 o artistiaid gyda chyllid o dros £4.9 miliwn, a chyrraedd cynulleidfaoedd o dros 5 miliwn, sy’n golygu ei fod ar y brig yn fyd-eang fel cefnogwr artistiaid anabl.

Ym mis Ebrill 2022 daeth Unlimited yn sefydliad annibynnol a chanddo genhadaeth i gomisiynu gwaith rhagorol gan artistiaid anabl hyd nes y bydd y sector diwylliant cyfan yn gwneud hynny. Yn ei flwyddyn gyntaf fel sefydliad annibynnol, mae Unlimited yn gwneud pethau’n wahanol i chwalu’r rhwystrau mae artistiaid anabl yn eu hwynebu, ac i gefnogi newid systemig a chynaliadwy.

Mae Celfyddydau SPAN yn un o 17 o sefydliadau yn y DU sy’n partneru gydag Unlimited i gynnig 20 o wobrau i artistiaid anabl. Bydd y gwobrau hyn yn cynnig cyfanswm o £584,000 i gomisiynu artistiaid ar lefel genedlaethol a rhyngwladol.

Bydd y gwobrau yn rhoi cyfle i artistiaid anabl ddatblygu a chyflwyno gwaith ledled y DU a/neu yn rhyngwladol, mewn lleoliadau gwledig a dinesig, gyda sefydliad partneriaeth, yn ddigidol neu wyneb yn wyneb, ar gyfer profiadau torfol neu unigol.

Cathy Davies, Cadeirydd, Celfyddydau Span: “yn edrych ymlaen yn gyffrous iawn at greu partneriaeth gydag Unlimited ar y cyd-gomisiwn hwn. Fel elusen gelf gymunedol, rydym yn teimlo’n angerddol dros Gelf fel Newid Cymdeithasol. Rydym yn gweithio mewn rhan wledig o Gymru lle nad oes fawr ddim isadeiledd celf traddodiadol, a’n nod yw creu gwaith sy’n atseinio’n lleol ac sydd â photensial a pherthnasedd ar gyfer ei deithio y tu hwnt i sir Benfro. Drwy’r bartneriaeth hon gydag Unlimited, credwn y gallwn arddangos yr holl dalentau amrywiol sydd o fewn gorllewin Cymru, a dod â syniadau a phersbectif newydd i’r modd rydym yn cyd-gomisiynu gwaith gyda ac yn ein cymuned.”

Mae’r cyfanswm y gronfa gomisiwn o £583,000 yn cynnwys cyllid hael gan Gyngor Celfyddydau Lloegr, Cyngor Celfyddydau Cymru, Yr Alban Greadigol a’n 17 o bartneriaid. Caiff yr arian hwn ei rannu rhwng 30 o wobrau ar draws 17 o bartneriaid. Mae hyn yn cynnwys cyfraniad uniongyrchol o £280,000 gan y Cyngor Prydeinig, a fydd yn mynd tuag at wobrau rhyngwladol i artistiaid. Mae’r gwobrau’n amrywio mewn gwerth o £15,000 – £60,000 gyda’r cyfle i artistiaid ymgeisio am wobrau sy’n addas ar eu cyfer hwy a’u ffurf gelfyddydol, ac o ran ym mha gam datblygiad y mae eu gwaith ar hyn o bryd.

Mae Unlimited yn comisiynu gwaith rhagorol gan artistiaid anabl, a hwnnw’n wrthryfelgar, radical, anturus, ysbrydoledig a chwareus. Maent yn credu yng ngallu gwaith artistiaid anabl i danio newid radical a chadarnhaol. Mae comisiynau’r gorffennol wedi amrywio o ran ffurf gelfyddydol a graddfa, o albwm cyntaf a llyfrau coginio i osodiadau celf, llyfr amlgyfrwng rhyngweithiol, celf wedi’i osod mewn pyllau nofio, dawns, symffonïau’r goedwig, theatr, a llawer iawn mwy.

Gellir dod o hyd i’r holl wybodaeth am y gwobrau yma.

Mae ceisiadau bellach ar gau. Cadwch lygad allan am fwy o ddiweddariadau!

Scroll to Top