Mae ein cynllun dylunio yn rhoi anghenion y gwirfoddolwyr wrth wraidd y gwaith.
Yn ganolog i’r hyn a wnawn, mae ymrwymiad i weithio gyda’r bobl dros y bobl. Rydym yn ymgysylltu â’n hartistiaid, aelodau’r gymuned a gwirfoddolwyr i ddiffinio’r gwaith a gyflawnir gennym. Rydym yn cydweithio â’n gwirfoddolwyr i helpu i ddylunio ein rhaglen o ddigwyddiadau a phrosiectau; mae eich llais yn ein helpu i lunio SPAN Cyrraedd.
Mae SPAN Cyrraedd yn darparu cyfleoedd gwirfoddoli hyblyg a chreadigol i unigolion ymgysylltu’n gadarnhaol â’u cymuned – gan wella hyder personol, cefnogi gweithgaredd corfforol, ac adeiladu cysylltiadau personol i wella eu hiechyd meddwl a chorfforol.
Gyda’ch cefnogaeth fel gwirfoddolwr, gallwn greu rhaglen fywiog a hygyrch o weithgareddau creadigol ledled Sir Benfro, gan ddarparu cyfleoedd i bobl ddysgu sgiliau newydd, ymgysylltu’n gorfforol ac mynegi eu hunain yn greadigol.
Mae WCVA yn cefnogi SPAN Cyrraedd drwy gronfa wirfoddoli.
Rydym yn dwlu ar ein gwirfoddolwyr ac mae nifer o resymau dros ymuno â nhw… darllenwch fwy!
Pobl arbennig i ddod yn ffrindiau â nhw! Mae’n gwirfoddolwyr yn hoffi cwrdd â phobl newydd a chwerthin gyda’i gilydd ac yn angerddol am ddod â chelfyddydau o’r safon orau i Sir Benfro.
Profiad gwaith gwych. P’un ai’ch bod chi eisiau gyrfa yn y celfyddydau neu beidio byddwch yn dysgu sgiliau trosglwyddadwy. Nid yn unig y byddwch yn cyfoethogi’ch CV, byddwch hefyd yn ennill sgiliau go iawn a phrofiad a fydd yn hybu’ch hunan hyder.
Mae’n cynllun tocynnau am ddim i wirfoddolwyr yn caniatáu i chi, eich ffrindiau, a’ch teulu fwynhau rhai o’r goreuon o’r celfyddydau a digwyddiadau- am ddim!
Dod â’r celfyddydau i’ch milltir sgwâr. Fel gwirfoddolwr i SPAN gallwch fod yn hyderus eich bod yn cyfrannu at gynnal y celfyddydau yn Sir Benfro a galluogi pawb i gael eu hysbrydoli a’u diddanu, ac nid nifer fach yn unig. Mae gwybod eich bod yn helpu i wneud hyn yn sicr o fod yn un o’r pethau gorau!
Camwch i fyd cyffrous Celfyddydau Span a chymryd rhan mewn dod â’r goreuon yn y celfyddydau byw i Sir Benfro!
Mae gwirfoddolwyr wrth galon pob dim rydym yn ei wneud ac rydym yn hynod ddiolchgar iddynt. Mae paratoi a chyflwyno’n rhaglen yn ganlyniad i waith tîm arbennig o bobl frwdfrydig sy’n rhoi o’u hamser ac egni i gefnogi’r celfyddydau a’r gymuned.
Mae gennym amrywiaeth o rolau gwirfoddoli sy’n agor i ystod o ddiddordebau, sgiliau a galluoedd. Byddwn yn cynnig hyfforddiant a chefnogaeth ar gyfer pob un ohonynt er mwyn i chi deimlo’n hyderus ac yn hapus i wirfoddoli.
Gwirfoddoli ar-lein: Mae ‘na ddigon o gyfleoedd yn parhau i fod ar gael i gyfrannu a gwirfoddoli ar-lein. Gallwch gymryd rhan yn ein prosiectau, helpu i drefnu neu i roi gweithgareddau newydd ar brawf, darparu cefnogaeth werthfawr i artistiaid a cherddorion, perfformio’ch hunan neu rannu’ch sgiliau gydag eraill!
Gwirfoddoli ar ein prosiectau cymunedol: Mae nifer fawr o ffyrdd i gymryd rhan mewn dewis o weithdai creadigol, megis bod yn gyfaill canu neu helpu pobl hŷn neu fregus i fynd ar-lein neu gymryd rhan.
Gwirfoddoli mewn digwyddiad: Yn ystod cyfnodau arferol rydym yn cyflwyno amrywiaeth o ddigwyddiadau BYW- o theatr i gerddoriaeth fyw, carnifalau i sêl blanhigion- mae ‘na rhywbeth i’w wneud bob amser!
Gwirfoddoli yn swyddfa Celfyddydau Span: o ddosbarthu posteri i farchnata i gofnodi data, mae angen cymorth yma hefyd. Dyma gyfle perffaith i gael profiad gwaith gwerthfawr yn y celfyddydau neu i dreulio diwrnod tawel mewn swydfa gymdeithasol.
Ymddiriedolwyr a phwyllgor codi arian: Awydd cyfrannu at graidd SPAN?
Os hoffech fod yn rhan o dîm cyffrous a helpu i ddod â’r goreuon ym myd y Celfyddydau i Sir Benfro beth am wirfoddoli i Gelfyddydau Span?
Cysylltwch â Chelfyddydau Span i drafod beth hoffech chi ei wneud. Ffoniwch 01834 869322 neu e-bostiwch info@span-arts.org.uk
Unwaith i chi gofrestru fel gwirfoddolwr, byddwch yn derbyn cylchlythyr misol ar ebost gyda manylion o’r holl gyfleoedd sydd ar gael i wirfoddoli gyda ni.
Rydym yn cynnal cyfarfodydd chwarterol i wirfoddolwyr a boreau coffi ar-lein bob pythefnos ac yn rhannu sgiliau hefyd.
Cysylltwch i ddarganfod mwy os gwelwch yn dda!
Byddai’n braf clywed wrthych!