Ym mis Hydref 2019 teithiodd Clwb Digi Span Digidol i Ysgol Gynradd Aber Llydan i weithio gyda disgyblion blynyddoedd 5 a 6 ar animeiddiad byr i’w ddangos yn ystod Parêd Llusernau Hwlffordd, ‘Dros y Lleuad’.

Thema’r digwyddiad oedd y gofod, wybren y nos a hanner canmlwyddiant glanio ar y lleuad. Dangoswyd yr animeiddiad ar sgrin sinema wedi’i phweru gan bedalau  a ddarparwyd gan Electric Pedals sy’n cyfuno syniadau am gynaliadwyedd, ymwybyddiaeth ynni ac iechyd ac ymarfer gyda digwyddiadau cymunedol. Diolch i Sarah Hope a Gemma Green-Hope am eu cymorth gyda’r animeiddio.

Scroll to Top