Y Prosiect Caredigrwydd – Dangoswch e a Rhannwch e!

Cymuned greadigol SPAN ar-lein

Mae Celfyddydau Span yn gwahodd plant a phobl ifanc sy’n methu ymweld ag aelodau hŷn y teulu a ffrindiau yn ystod y pandemig i wneud fideo ar gyfer gweithgaredd Dangoswch e a Rhannwch e y Prosiect Caredigrwydd.

Meddai Roald Dahl un tro “ Dw i’n credu mai caredigrwydd, fwy na thebyg, yw’r nodwedd bwysicaf oll i fi mewn bodau dynol. Gosodaf e cyn yr yn o’r pethau fel gwroldeb neu ddewrder neu haelioni neu unrhyw beth arall”.

Mae’r elusen celfyddydau yn gofyn i chi ddod yn rhan o hyn drwy greu eich fideo cyfarwyddol eich hun sy’n dangos i ni’ sut mae creu rhywbeth sy’n lledaenu ychydig o garedigrwydd.

Cymuned greadigol arlein newydd i Sir Benfro yw’r Prosiect Caredigrwydd, wedi’i hadeiladu i arddangos eich syniadau creadigol er mwyn gwneud i bobl deimlo’n well.

Gall gweithred ddigidol o garedigrwydd fod ar sawl ffurf, yr unig beth sy’n rhaid i chi wneud yw meddwl am rywbeth rydych chi’n gallu ei greu sy’n dod â hapusrwydd. Gallai fod yn aderyn origami, anghenfil papier mache neu long ofod wedi’i gwneud o focsys wyau. Mae’r rhestr yn ddi-ddiwedd ac mae yn eich dwylo chi! Unwaith i chi benderfynnu ar beth i greu, rydym yn gofyn i chi greu fideo cyfarwyddol  am sut mae ei wneud e ar eich ffôn neu lechen , bydd eich fideo yn anrheg i helpu i rywun arall deimlo’n well.

Yn y rhannu y mae’r weithredd o garedigrwydd.

Ewch i wefan Span  www.span-arts.org.uk  i weld y brîff yn llawn ac i wylio pedair ffilm fer ddwyieithog sy’n rhoi’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i ffilmio’ch fideo eich hun.

Cysyniad newydd i bontio’r cenedlaethau yw Clwb Digi Gofalgar. Ei nod yw cysylltu plant a phobl ifanc gyda phobl hŷn sydd wedi’u hynysu trwy ddefnyddio gweithgareddau technoleg greadigol ar-lein i leihau unigrwydd, gwella llesiant, datblygu sgiliau newydd a lleddfu ynysiad.

Mae’r prosiect yn rhedeg tan Ionawr, wedi’i ariannu gan Gronfa Fuddsoddi Mae Gorllewin Cymru’n Garedig.

 

Scroll to Top