Prosiectau Ieuenctid: Celf Amgylcheddol - Span Arts
24796
post-template,post-template-single-project,post-template-single-project-php,single,single-post,postid-24796,single-format-standard,bridge-core-2.3.8,ajax_fade,page_not_loaded,,qode-title-hidden,qode_grid_1200,footer_responsive_adv,qode-child-theme-ver-1.0.0,qode-theme-ver-22.3.1,qode-theme-bridge,qode_advanced_footer_responsive_1000,wpb-js-composer js-comp-ver-7.6,vc_responsive

Prosiectau Ieuenctid: Celf Amgylcheddol

Rydym yn chwilio am artist i hwyluso'r prosiect newydd yma.

Rydym yn edrych am artist sy’n siarad Cymraeg i hwyluso’r prosiect cyffrous hwn mewn ysgol Gymraeg leol.

Bydd y prosiect yn cynnwys dosbarth cymysg o blant blwyddyn 8 Ysgol Y Preseli, Crymych,  gyda’r nod o adfywio gardd gymunedol yr ysgol, yn dilyn cyfres o weithdai cyd-greu dan arweiniad aelodau o dîm Celfyddydau SPAN.  Nod y prosiect yw defnyddio deunyddiau wedi’u hailgylchu i ailwampio’r ardd gymunedol drwy gyfres o weithdai, a gwella iechyd corfforol ac emosiynol disgyblion ar yr un pryd.

Roedd y thema o ailgylchu yn elfen bwysig i ddisgyblion yn ystod y gweithdai cyd-greu, ynghyd â gwella iechyd emosiynol a chorfforol, cydweithio, a chael llais fel person ifanc yn tyfu i fyny yng Ngorllewin Cymru. Hoffem weld elfennau o’r themâu hyn yn cael eu hymgorffori yn y prosiect.

Dyma gyfle eithriadol i ddisgyblion weithio gydag artist proffesiynol i archwilio amrywiaeth o dechnegau a sgiliau celf, mewn ffordd bositif, greadigol a chyfannol wrth weithio gyda’u hamgylchedd a lleisio’r hyn sy’n bwysig iddyn nhw.

Os oes gennych ddiddordeb, rydym yn eich gwahodd i gyflwyno eich ymateb creadigol i info@span-arts.org.uk ym mha bynnag fformat sy’n gweithio orau i chi, gallai gael ei ysgrifennu, fideo neu sain. Pa bynnag fformat rydych chi’n ei ddewis rydyn ni’n gofyn i  chi ddweud wrthon ni ychydig am eich hun ac eich ymarfer creadigol, y fath o waith rydych chi’n ei wneud, unrhyw brosiectau neu brofiad yn y gorffennol rydych chi’n meddwl byddai’n ddefnyddiol i ni ei wybod, yn ogystal â eich syniad a sut y gallai gael effaith mwy hirdymor ar yr ysgol.

Dyddiad cau ymgeisio yw 12yh dydd Llun 23ain o Ionawr 2023. Bydd y prosiect yn cael ei gyflawni rhwng Ionawr a Mawrth 2023, gyda dyddiadau union i’w cytuno arnynt gyda’r artist a’r ganolfan ieuenctid ar recriwtio.

Mae’r prosiect yn agored i’r rhai sy’n drigolion yn y DU a dros 18 oed. Gweler yr atodiadau am fwy o fanylion.

Gweler isod am y briffs llawn ar gyfer artistiaid:

Briff Comisiwn i Artistiaid (Cymraeg)

Briff Comisiwn i Artistiaid (Saesneg)