Ym mis Mai, i gyd-fynd â Diwrnod Rhyngwladol Dylan Thomas, mae Celfyddydau Span mewn cydweithrediad a Menter Iaith Sir Benfro a Cered- Menter iaith Ceredigion yn cychwyn ar fenter ddigidol newydd gyffrous. Gan alw ar dalentau niferus cymunedau Gogledd Sir Benfro a De Sir Ceredigion maent wedi dechrau gweithio tuag at berfformiad ar-lein o Dan y Wenallt sef “Dan y Wenallt Dan Glo” trwy feddalwedd fideo-gynadledda ar-lein.
Mae’r fenter wedi datblygu trwy brosiect Digidol Span sydd wedi bod yn treialu ffyrdd y gellir defnyddio technoleg ddigidol yn greadigol i helpu gyda materion fel lles cymdeithasol ac arwahanrwydd gwledig. Ni allai’r prosiect fod yn fwy amserol o ystyried y cyfyngiadau parhaus ar ein bywydau oherwydd pandemig Covid-19 wrth i ni barhau i gael ein cynghori i #ArhosaGartref Er efallai na fyddwn yn gallu mynd o gwmpas ein busnes beunyddiol arferol, gallwn ddal i freuddwydio. Ac wrth feddwl am ba ddrama i drio perfformio o dan yr amgylchiadau yma roedd Dan y Wenallt yn ymddangos fel dewis da i roi cynnig arno gyda chyswllt amlwg gyda Sir Benfro a Cheredigion.
Mae Dan y Wenallt, addasiad T James Jones o waith adnabyddus Dylan Thomas, wedi’i leoli yn nhref glan môr ffuglennol Llareggub – mae cymeriadau fel Capten Cat yr hen forwr dall, Polly Garter a’r Parch Eli Jenkins yn myfyrio ar eu bywydau a’u materion bydol. Mae’n ddrama argraffiadol sy’n adrodd diwrnod ym mywyd y pentref o’r oriau mân – o godiad haul i fachlud haul.
Richard Burton yn edrych allan dros dre isaf Abergwaun lle leolwyd ffilm fersiwn o Under Milk Wood yn 1972.
Wedi’i ysgrifennu yn wreiddiol fel sgript i leisiau mae’r ddrama yn addas ar gyfer cynadledda fideo digidol oherwydd y gofod agos atoch y mae’r cyfrwng yn ei gynnig tra bod ei gast o lawer o gymeriadau yn golygu na fydd unrhyw lais sydd am gymryd rhan yn colli cyfle. Yn wir, ni allwn feddwl am well ddrama i gynhyrchu o dan yr amodau yma o fod dan glo – yn ôl y chwedl, cafodd Dylan Thomas ei gloi mewn ystafell er mwyn sicrhau ei fod yn gorffen y drafft cyntaf dim ond oriau cyn i’r ddrama gael ei llwyfannu am y tro cyntaf!
Mwy o wybodaeth am y cynhyrchiad i ddilyn trwy wefan Celfyddydau Span: http://www.span-arts.org.uk/whats-on/ neu tudalen weplyfr Cica Corona https://www.facebook.com/cicacorona/
Os hoffech gymryd rhan cysylltwch â rowan@span-arts.org.uk
Mae’r prosiect yma yn cael ei ariannu trwy Arwain Sir Benfro wedi ei weinyddu gan Planed a Chyngor Celfyddydau Cymru.