Mae Map Digi Penfro erbyn hyn i’w weld ar-lein a gellir dod o hyd iddo yma: http://j.mp/mapdigipenfro

Cynhaliwyd noson lwyddianus i ddangos ffilm ac i lansio’r prosiect mapio digidol cymunedol Map Digi Penfro yn Theatr Gwaun nos Wener Medi 13eg gyda thua 60 o bobl yn bresennol. Mae’r prosiect yn rhan o brosiect Span Digidol sy’n cael ei ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Rhaglen Leader Arwain Sir Benfro.  Mae’r prosiect yn ceisio cyfuno’r celfyddydau a thechnoleg er mwyn mynd i’r afael â materion megis ynysu gwledig, unigrwydd a llesiant cymunedol.

Bwriad Map Digi Penfro yw mapio lleoedd Sir Benfro o safbwyntiau niferus ac amrywiol trwy fap rhyngweithiol ar-lein sy’n parhau i fod yn agor i gyfraniadau. Datblygwyd y map gan Bencampwr Digidol Span Digidol, Alan Cameron Willis. Mae Alan wedi ymddeol o’i waith fel rhaglennydd cyfrifiaduron ac yn byw yn Nhrewyddel erbyn hyn. Yn dilyn ei waith ar Fap Hanes Trewyddel, gwahoddwyd Alan gan Span i ddatblygu offeryn mapio ar gyfer Sir Benfro gyfan. Cafodd y map ei brofi dros benwythnos llawn ar ddechrau Mis Gorffennaf yn ardal Garn Fawr, bryngaer o’r Oes Haearn,  ar benrhyn Pencaer. Daeth amrywiaeth o arbenigwyr, yn cynnwys y daearegwr Math Williams, yr archeolegwr Ken Murphy, y Prifardd Mererid Hopwood a’r botanegydd Shani Lawrence, ynghyd â disgyblion o Ysgol Gynradd Wdig a llawer o drigolion lleol, at ei gilydd i fapio’r lleoliad unigryw yma gan lenwi’r map gyda delweddau o flodau a chreaduriaid, ffurfiannau daearegol a ffynhonau hynafol yn ogystal â straeon am le – hyd yn oed barddoniaeth.

The Span Deep Map
Map Digi Penfro

Mae’r wefan ganlyniadol yn creu porthol unigryw i Bencaer sydd mor gyfoethog ac amrywiol â’r lle ei hun ac felly’n cipio’r profiad o fod mewn lle, ac yn ddewis amgen deinamig i fap dau ddimensiwn.  Yn Theatr Gwaun dangoswyd ffilm fer yn dogfennu penwythnos Garn Fawr i’r mynychwyr, hyn o waith Ruth Jones, cyn Dechnolegydd Creadigol y Prosiect Digidol.  Dywedodd Dafydd Williams un o gyfranwyr i’r prosiect, “Mae’r map yn cryfhau’r syniad o berthyn.  Yn enwedig i bobl ifanc er mwyn iddynt datblygu syniad bod ‘na ardal – cynefin, cartref a phobl lle mae nhw’n teimlo’n diogel.”

Yna cafwyd arddangosiad a chyfle i roi cynnig ar ddefnyddio’r map.  Cafodd y rhai oedd yn bresennol eu diddanu gan un o Wirfoddolwyr Span, Ian Dennis, yn llefaru darn o’i waith ei hun. Ysgrifenwyd hyn fel ymateb barddonol i benwythnos Garn Fawr pan fu’n gyrru bws-mini am dridiau yn cludo cyfranogwyr rhwng yr ‘ystafell fapio’ yn Neuadd Tremarchog a Garn Fawr,

“And so to the discussion as to what is art?

Is it just painting, performance, music?

Or can it not be the emotions evoked by a better understanding and more intense interface

With our environment?”.

Gellir darllen ymateb Ian i’r gwaith dwys yma yn llawn ar y map.

Mae’n dal yn bosib cyfrannu at y map ac yr ydym yn eich croesawu ac yn eich annog i wneud hynny. Cafodd y map hefyd ei ariannu’n rhannol gan Gyngor Sir Penfro, gyda chymorth pellach dros y penwythnos gan Margaret Morgan o Fenter Iaith Sir Benfro a John Ewart o brosiect Datris PLANED.

Bydd Span Digidol yn cynnal diwrnod mapio ymarferol pellach yng Nghanolfan Celfyddydau Span yn Arberth ar Ragfyr 7fed pryd byddwn yn ceisio rhoi Arberth ar y map.  Os hoffech chi gymryd rhan yn y digwyddiad yma cysylltwch â rowan@span-arts.org.uk os gwelwch yn dda.

Scroll to Top