Mae Celfyddydau SPAN yn comisiynu gwaith newydd ar gyfer ein prosiect ‘Straeon Cariad at Natur’ ac yn gwahodd artistiaid ac ymarferwyr creadigol i gyflwyno eu syniadau. Bydd y gwaith comisiwn yn cael ei greu yn benodol ar gyfer, ac mewn cydweithrediad â, Chelfyddydau SPAN.
Mae angen i bob syniad ymateb mewn rhyw ffordd i ysgogiad Yr Amgylchedd.
Beth ydyn ni’n ei olygu gan Yr Amgylchedd?
- Rydym yn defnyddio’r gair hwn yn ei gyd-destun ehangaf posibl:
- Gellir ei ysbrydoli gan, neu mewn ymateb i, ein hamgylchedd ffisegol naturiol ac adeiledig, boed yn drefol neu’n wledig, mynyddoedd neu arfordir, caeau neu goedwigoedd.
- Gallai fod yn facro neu’n ficro, o’r cyd-destun byd-eang i ficrobioleg.
- Gallai fod yr argyfwng hinsawdd yr ydym i gyd yn ei wynebu, o her fyd-eang i weithredoedd personol bob dydd.
- Gallai fod ein perthynas ni â’r amgylchedd, ei bwysigrwydd, ei effaith neu ei werth ar raddfa bersonol, gymunedol neu gymdeithasol.
- Gallai fod yn unrhyw un o’r pethau hyn neu’n ddim un ohonyn nhw, gofynnwn i chi ddiffinio’r hyn y mae’n ei olygu mewn perthynas â’ch syniad.
Artwork by Emma Baker
Am beth rydym ni’n chwilio?
Syniadau sydd:
- Yn dod o’r galon
- Yn ysbrydoledig, yn arloesol ac yn greadigol
- Yn uchelgeisiol, pryfoclyd ac enillgar
- Wedi eu canolbwyntio ar Sir Benfro/Gorllewin Cymru ond yn berthnasol yn genedlaethol a/neu’n fyd-eang
- Yn cwmpasu ystyr eang Yr Amgylchedd, o’n lleoedd a’n tirweddau naturiol ac adeiledig i wirioneddau’r argyfwng hinsawdd
- Yn deall er bod straeon cariad yn aml yn gadarnhaol ac yn ddyrchafol, nid oes diweddglo hapus i bob un ohonynt. Gall yr amgylchedd fod yn rhywbeth sy’n cynnig cyfoethogi, ysbrydoliaeth ac adnewyddu, ond yn yr un modd mae’n rhywbeth sydd dan ymosodiad ac yn cael ei gam-drin. Croesawn syniadau sy’n ymateb i naill ai ochr olau a neu ochr dywyll y stori.
- Yn cynnig cymysgedd o leoliadau ar draws y sir.
- Rydym yn agored i unrhyw ffurfiau celf, o gelf a chrefft weledol, ysgrifennu creadigol a barddoniaeth, theatr, drama, dawns, sain, cerflunwaith, a gwaith 3D, gwaith seiliedig ar amser a gwaith digidol ac ymarfer sy’n seiliedig ar gyfranogiad yn unig.
- Rydym yn croesawu syniadau sy’n digwydd wyneb yn wyneb, y tu mewn neu’r tu allan, yn hybrid neu’n ddigidol fel rhan o’r comisiwn hwn.
- Rydym yn disgwyl gweld rhyw elfen o ymgysylltu â’r gymuned / y cyhoedd o fewn y comisiwn, boed hynny’n ganolog i’r broses greadigol neu’n rhan o rannu/sioe/arddangosfa/perfformiad. Mae gennym gymaint o ddiddordeb yn y broses ag sydd gennym mewn unrhyw gynnyrch terfynol.
- Wrth i chi ystyried eich syniad, gofynnwn i chi feddwl am ôl-effaith eich gwaith, a pha wahaniaeth y bydd yn ei wneud. Gallai hyn fod yr effaith ar y bobl sy’n ymwneud ag ef yn uniongyrchol, gan gynnwys chi fel artist, neu gallai fod sut mae’n dylanwadu ar sut mae pobl yn meddwl, yn gweithredu, yn ymgysylltu neu’n teimlo am yr amgylchedd.
- Gobeithiwn barhau ac esblygu’r comisiynau Straeon Cariad y flwyddyn nesaf a byddem yn agored i syniadau sydd â’r potensial i dyfu a datblygu drwy’r broses honno. Fodd bynnag, nid yw hyn yn ofyniad angenrheidiol.
.
Y Broses Gomisiynu.
Y Broses
Rydym yn eich gwahodd i gyflwyno syniadau o Fehefin 1af 2023 ymlaen a byddwn yn gwneud penderfyniad mewn cyfarfodydd panel a arweinir gan y gymuned ar ddechrau misoedd Gorffennaf, Medi a Thachwedd. Ar hyn o bryd £9,000 yw cyllideb comisiwn Straeon Cariad at Natur er ein bod yn codi arian gyda’r nod o gynyddu hyn. Rydym yn gobeithio dyfarnu hyd at £3,000 ym mhob cyfarfod panel.
Gallwch naill ai ymateb yn uniongyrchol i’r briff (lawrlwythwch isod), neu gallwch ddod i un o hyd at 3 sesiwn agored y byddwn yn eu cynnal ar-lein ac yn wyneb yn wyneb i ofyn cwestiynau neu siarad am eich syniad cyn ei gyflwyno. Nid oes rhaid i chi ddod i un neu fwy o’r sesiynau hyn er mwyn gwneud cais.
Sut i gyflwyno syniad:
Rydym yn eich gwahodd i gyflwyno eich syniadau ar gyfer y comisiwn hwn ym mha bynnag fformat sy’n gweithio orau i gyfleu’ch neges, boed yn ysgrifenedig, ar ffurf fideo neu sain.
Nid oes gennym gyfrif geiriau na hyd fideo delfrydol, dim ond eich bod yn gwneud yn sicr eich bod yn cwmpasu’r holl bwyntiau uchod. Peidiwch â theimlo bod angen i chi ysgrifennu nofel epig neu recordio ffilm hyd nodwedd, ceisiwch cadwch eich cyflwyniad yn fyr ac yn bwrpasol.
Darllenwch y brîff llawn yma:
BRÎFF LLAWN STRAEON CARIAD AT NATUR
Ar ôl gwneud hynny, anfonwch yr wybodaeth i info@span-arts.org.uk
Sesiynau agored
Cynhelir y sesiynau hyn ddydd Iau Ionawr 16eg am 5pm. Sesiynau grŵp wedi’u hanelu at artistiaid ac ymarferwyr creadigol ac yn cael eu cynnal gan aelodau tîm SPAN fydd y rhain. Efallai y byddwn yn gwahodd aelodau o’r gymuned neu rhai o wirfoddolwyr SPAN i gymryd rhan i gynnig eu mewnwelediad. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â director@span-arts.org.uk
FAQ
Ai celf weledol yn unig yw hyn neu a all fod yn unrhyw fath o gelf?
Byddwn yn ystyried unrhyw fath o gelf : o theatr a chelf yn seiliedig ar berfformiad, i waith gweledol, ysgrifenedig, digidol neu’n seiliedig ar sain. Pa bynnag ffurf gelfyddydol sydd orau yn eich barn chi i gyfleu’ch syniad.
Fyddwch chi’n cefnogi celf gyhoeddus neu gerflun?
Nid yw SPAN yn berchen ar dir ac nid oes gennym yr hawl i osod gwaith ar dir cyhoeddus. Os ydych yn cyflwyno syniad o’r math hwn, byddai angen i chi drafod yr hawliau i osod y gwaith a chytuno ar gynllun cynnal a chadw cyn y gellid comisiynu’r gwaith.
Oes rhaid i mi wneud cais am £3,000 neu a allaf gyflwyno syniad llai?
Mae croeso mawr i syniadau o wahanol raddfeydd, os oes gennych chi syniad llai rydych chi’n chwilio am gefnogaeth iddo, byddem yn hapus i’w ystyried.
Mae angen mwy na £3,000 ar gyfer fy syniad, gaf i gyflwyno syniad mwy?
Ar hyn o bryd dim ond cyllid hyd at £3,000 sydd gennym i ddyfarnu ym mhob cyfarfod panel, os na fyddwn yn dyfarnu’r holl arian mewn un cyfarfod, bydd yn cael ei drosglwyddo ymlaen i’r nesaf gan ganiatáu ystyried syniadau mwy neu ragor o syniadau.
Oes rhaid i’r gwaith ddigwydd yng Ngorllewin Cymru?
Fel elusen wedi’i seilio yn Sir Benfro, byddwn yn ffafrio gweithgaredd sy’n ymgysylltu â’n cymuned leol, ond byddwn yn ystyried syniadau creadigol sy’n digwydd y tu allan i’r ardal cyn belled â bod ganddynt ryw fath o gysylltiad neu gyseiniant lleol.
Comisiynau cyfredol a rhai llynedd.
Date Nature gan Emily Laurens. Mwy o wybodiath yma here
A Gathering Tide gan Bronwen Gwillum & Gilly Booth – ffilm yn dod yn fuan
Our Branch the Stopped Singing gan Billy Maxwell Taylor
Songlines gan Charlotte Cortazzi ac Sue Kullai
The Pull gan Sam Walton
Seed to Flight gan Sarah Sharpe ac Louise Carey