DATGANIAD POLISI CWYNION AR GYFER EIN GWEFAN
Mae SPAN yn ystyried cwynion fel cyfle i ddysgu a gwella ar gyfer y dyfodol yn ogystal â chyfle i unioni pethau i’r achwynydd.
Ein polisi yw:
Darparu gweithdrefn gwynion deg a chyfiawn sy’n glir ac yn hawdd ei defnyddio i unrhyw un sy’n dymuno gwneud cwyn.
Rhoi cyhoeddusrwydd i fodolaeth ein gweithdrefn gwyno fel bod pawb yn gwybod sut i wneud cwyn.
Sicrhau bod pawb o fewn SPAN yn gwybod beth i’w wneud os derbynnir cwyn.
Sicrhau bod pob cwyn yn cael ei hymchwilio’n deg ac mewn modd amserol.
Sicrhau bod cwynion, pryd bynnag y bo modd, yn cael eu datrys a bod perthnasoedd yn cael eu hadfer.
Casglu gwybodaeth sy’n ein helpu i wella’r hyn rydym yn ei wneud.