‘Saernïo Cân y Ffordd Euraidd’: Ffilm Fer Ynglŷn â Chreu’r Faled Radio
Ar y 26ain o Dachwedd cynhaliwyd digwyddiad yn Neuadd Llwynhirion ym Mrynberian, Gogledd Sir Benfro, i ddathlu diweddglo prosiect PLANED Ein Cymdogaeth Werin Preseli. Mae Span wedi cymryd rhan annatod mewn gwireddu elfennau creadigol y prosiect dros y tair blynedd diwethaf. Yn ystod y digwyddiad dathlu cafodd ffilm fer ynglŷn â’r prosiect ei dangos. Mae’r ffilm yn dogfennu gweithdai cerddoriaeth y prosiect yn benodol yn ogystal â’r cefndir i ysbrydoliaeth y prosiect a’i amodau. Yn 2018 gweithiodd Span gyda’r arlunwyr Penny Jones a Nia Lewis ar y prosiect Pwytho Straeon oedd yn plethu tecstilau, technoleg ddigidol a threftadaeth er mwyn creu cwilt clytwaith oedd yn llefaru straeon ynglŷn ag ardal Preseli wrth gael ei gyffwrdd. Dilynwyd hyn yng ngwanwyn 2019 gyda Slam Barddoniaeth Y Preseli, yn gweithio gyda’r bardd Karen Owen ar gyfres o weithdai ysgrifennu mewn ysgolion a chartrefi pobl gydag uchafbwynt o’r slam barddoniaeth ei hun yn Neuadd Goffa Trefdraeth. Ar ddiwedd y prosiect, yr haf yma gweithion ni mewn partneriaeth a Rowan O’Neill a PLANED i gynhyrchu’r faled radio Cân y Ffordd Euraidd a chafodd ei lansio mewn parti gwrando yn Nhafarn Sinc ar y 6ed o Dachwedd 2021. Gwaith clywedol estynedig yw baled radio, yn [...]