Mae Celfyddydau SPAN a Menter Iaith Sir Benfro yn falch o gyflwyno’u Cyngerdd Adfent poblogaidd, yn dychwelyd ar gyfer 2025 gyda noson o gerddoriaeth dymhorol, diwylliant Cymreig, a dathliad cymunedol.
Bydd y cyngerdd eleni yn croesawu’r tenor o glod rhyngwladol, Trystan Llŷr Griffiths, i berfformio unwaith eto yn sir ei enedigaeth. Yn wreiddiol o Glunderwen, mae Trystan yn artist Cymraeg a astudiodd Theatr, Cerddoriaeth a’r Cyfryngau ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant cyn hyfforddi yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd. Wedi cael canmoliaeth uchel am ei rôl gydag Opera Cenedlaethol Cymru yn Il trittico, mae llais rhyfeddol Trystan wedi ennill cydnabyddiaeth eang iddo fel un o dalentau mwyaf cyffrous Cymru.
Yn ymuno â’r dathliad bydd Côr gwobrwyedig Llanddarog, côr o dros bum deg o aelodau a sefydlwyd yn 2002 gan Meinir Richards. Dros y ddau ddegawd diwethaf, maent wedi perfformio ledled Cymru, gan gymryd rhan mewn darllediadau teledu cenedlaethol, a chanu ochr yn ochr ag enwau adnabyddus fel Michael Ball ar Draeth Mawr, Tyddewi. Yn nodedig am eu llwyddiant yn yr Eisteddfod Genedlaethol, mae Côr Llanddarog wedi ennill categori’r côr cymysg bum gwaith, gan sicrhau safleoedd uchaf yn gyson, gan gynnwys yr ail safle yn 2024.

Bydd y cyngerdd yn cael ei gynnal yn amgylchedd agos a chyfeillgar Capel Pisga, gan gynnig noson hudolus i’r gynulleidfa gyda charolau, cerddoriaeth Nadoligaidd, a pherfformiadau yn Gymraeg. Cynhelir y noson yn Gymraeg ond mae croeso cynnes i bawb i ymuno â’r dathliad llawen hwn o’r tymor a’r gymuned. Am fwy o wybodaeth ffoniwch 01834 869323, ewch i span-arts.org.uk neu cysylltwch ag info@span-arts.
Manylion Digwyddiad
Drysau’n Agor: 4:30pm
Amser cychwyn: 5pm
Lleoliad: Capel Pisga, Llandysilio, Sir Benfro, SA66 7TF
Pris: Llawn £12, Consesiwn £10 .
Archebu: Angen archebu ymlaen llaw. Ewch i span-arts.org.uk i archebu




