Côr Pawb

Mae Celfyddydau SPAN wrth eu bodd o gyhoeddi y bydd Côr Pawb yn cynnal digwyddiad corawl undydd llawn llawenydd gan wahodd pawb i godi eu lleisiau a chydganu i ddathlu cymuned, creadigrwydd, a chysylltiad.

Mae’n digwydd yn HaverHub, lleoliad cymunedol bywiog yng nghanol Hwlffordd, amcan y  cyfarfod cerddorol unigryw hwn yw bod yn gynhwysol, yn ddyrchafol ac yn agored i bawb. P’un ai ‘ch bod chi’n ganwr profiadol neu’n hollol newydd i gerddoriaeth gorawl, hanfod Côr Pawb yw troi fyny, ymuno, a chael hwyl.

Dan arweiniad dau arweinydd côr ysbrydoledig, bydd y diwrnod yn cynnig cyfle i’r cyfranogwyr ddysgu caneuon newydd, gwrthgyferbyniol, mewn amgylchedd hamddenol a chyfeillgar. Mae’r gweithdy’n cyrraedd yr anterth gyda rhannu anffurfiol am 4yp, lle mae teulu a ffrindiau’n cael eu gwahodd yn gynnes i ddod i fynychu a mwynhau perfformiad bach o’r hyn y mae’r grŵp wedi’i greu gyda’i gilydd yn ystod y dydd.

 

Mae hwn yn ddigwyddiad rhad ac am ddim, ond mae lleoedd yn gyfyngedig ac mae’n rhaid archebu ymlaen llaw trwy wefan Celfyddydau SPAN. Anogir y cyfranogwyr i ddod â chinio parod a chwpan y gellir ei hailddefnyddio ar gyfer diodydd. Mae’r drysau’n agor am 10:15yb ar gyfer cofrestru, a bydd canu yn dechrau’n brydlon am 10:30yb.

Mae Côr Pawb yn fwy na sesiwn corawl – mae’n ddathliad o agosatrwydd, creadigrwydd, a’r llawenydd syml o godi’ch llais gyda phobl eraill. Ymunwch â ni am ddiwrnod twymgalon o gytgord, chwerthin, ac ysbryd cymunedol yn Hwlffordd.

Lleoliad:
HaverHub,
Yr Hen Swyddfa Bost,
12 Stryd y Cei,
Hwlffordd
SA61 1BG

Scroll to Top