Fis Medi yma yn Nanhyfer rydym yn eich gwahodd i ymuno â ni ar gyfer Cynhaeaf Cwiar, penwythnos o greadigrwydd, defod a chymuned i nodi treigl y flwyddyn. Gyda’n gilydd byddwn yn clodfori’r cynhaeaf, newid y tymhorau, a’r ffyrdd niferus y byddwn yn ymgorffori ymgynefino a pherthyn.

Dydd Sadwrn Medi 20fed. Byddwn yn cychwyn gyda’n Gweithdy Creu Masgiau. Dyma ofod i ymgynefino lle mae creu masgiau yn arf i archwilio hunaniaeth, mynegiant a’r  gwahanol hunaniaethau sydd tu mewn i ni. Mae hunaniaeth cwiar yn llifol, wedi’i haenu, ac yn eang; trwy’r broses greadigol hon byddwn yn creu masgiau sy’n rhoi ffurf i agweddau ar ein hunaniaeth – y dewr, y cudd, y chwareus, a’r sanctaidd. Efallai y byddwch yn dewis creu masg ar gyfer eich gwarchodwr mewnol, eich hunan yn y gorffennol neu’r dyfodol, neu ar gyfer fersiwn ohonoch chi nad yw’r byd wedi ei weld eto. Er y  byddwn yn cyffwrdd â chwedlau a llên gwerin, mae’r ffocws yn bersonol ac yn bresennol, gan ddefnyddio’r masg fel drych, trothwy, a sianel ar gyfer trawsnewidiad.

Mae’r bore yn cynnig sesiwn llawn o greu masgiau o 10yb tan 1yp (cyfyngedig i 12 o bobl oed 12+) gyda dewis o sesiwn galw heibio hawdd o 11yb tan 1yp, yn agored i bawb heb derfynau.

Yn y prynhawn o 2yp tan 4yp, byddwn yn ymgynnull ar gyfer Gweithdy Canu. Dyma gyfle i godi’n lleisiau mewn cymuned gan wau sain a chân i’r ŵyl. Does dim angen profiad, dewch â’ch llais a’ch anadl a pharodrwydd i gyd-ganu.

Dydd Sul Medi 21ain. Byddwn yn symud i ddefod gyda gorymdaith i nodi Alban Elfed – cyhydnos yr Hydref. Mae hwn yn amser i ddiolch am ddigonedd yr haf a pharatoi ein hunain ar gyfer dychwelyd i dywyllwch ac oerni’r gaeaf. Mae’r dathliad yn cwmpasu’r syniad bod rhod y flwyddyn heb bwynt sefydlog; fel y llanw, mae amser yn llifol ac yn troi’n gyson, ac rydym yn troi gydag e.

Byddwn yn ymgynnull yn Neuadd Nanhyfer o 11yb ar gyfer te, bisgedi a pharatoi cyn i’r orymdaith gychwyn am 12.30yp. Fe’ch gwahoddir i wisgo lliwiau sy’n adlewyrchu rhod y flwyddyn yn troi: goleuni euraid yr haf , coch ac oren dail yr hydref, neu dduwch nos yn y gaeaf.

Yn dilyn yr orymdaith am  1yp, byddwn yn dod ynghyd ar gyfer y Wledd Cynhaeaf Cwiar. Mae’r pryd hwn o fwyd cynhaeaf, gyda thro cwiar gwerinol, yn croesawu troi’r tymhorau drwy fwyd a chân. Gweinir cawl figan swmpus o gynnyrch lleol gyda bara a chaws i gyfeiliant cerddoriaeth gan y Reel Rebels. Anogir gwesteion i ddod â phwdinau i rannu ac offrymau i allor y Cynhaeaf. Bydd opsiynau di-glwten ar gael.

Mae Cynhaeaf Cwiar yn ofod i ddathlu cwiarwydd, cymuned a chylchredau symudol natur. Yn ystod y penwythnos, gobeithiwn greu teimlad o gynhesrwydd, myfyrdod, a llawenydd wrth i ni symud gyda’n gilydd trwy greadigrwydd, defod, a gwledd.

Lleoliad:
Neuadd Bentref Nanhyfer,
Nanhyfer,
Sir Benfro,
SA42 0NB.

Scroll to Top