Mae Celfyddydau SPAN yn falch i gyhoeddi Sesiynau’r Ystafell Werdd, rhaglen newydd o gefnogaeth datblygiad proffesiynol am ddim wedi’i gynllunio ar gyfer bobl greadigol yn byw ac yn gweithio yng Ngorllewin Cymru.
Dan arweiniad Bethan Morgan, perfformiwr, awdur, gwneuthurwr-theatr, cyfarwyddwr a chynhyrchydd dawnus, mae’r sesiynau’n darparu arweiniad ymarferol ar y sgiliau hanfodol sydd eu hangen i gynllunio, rheoli a chyflwyno prosiectau creadigol. Gyda dros 30 mlynedd o brofiad yn y celfyddydau, bydd Bethan yn rhannu ei harbenigedd ar feysydd fel contractau artistiaid, cynllunio digwyddiadau ac ysgrifennu asesiadau risg.
Mae gyrfa eang Bethan yn cwmpasu gwaith theatr a chelfyddydau cymunedol ledled Cymru. Yn fwyaf diweddar mae wedi gwasanaethu fel Rheolwr Sherman 5 yn Theatr y Sherman Caerdydd, lle bu’n gweithio i chwalu rhwystrau sy’n atal cymunedau rhag mynediad at y celfyddydau a mynd i’r afael â nhw.
Wedi’u gwreiddio mewn hygyrchedd, profiad a chydweithio, mae Sesiynau’r Ystafell Werdd wedi’u cynllunio i rymuso artistiaid ar unrhyw gyfnod yn eu gyrfaoedd — yn cynnig gofod croesawgar i ddysgu, holi, ac adeiladu hyder yn ochr broffesiynol arfer greadigol.
Am ragor o wybodaeth ac i archebu’ch lle ewch i www.span-arts.org.uk
Manylion digwyddiad:
Dyddiad: Tachwedd 12
Amser: 7:30pm
Pris: Am ddim
Lleoliadau: Celfyddydau SPAN, Gwaun y Dref, Arberth, SA67 7AG a
Caban y Sgowtiaid, Gwaun y Dref, Arberth, SA67 7AG
Gwybodaeth: span-arts.org.uk
Cysylltwch ag info@spanarts.org i drafod eich anghenion hygyrchedd.


