Uchafbwyntiau effaith 24-25!
Rydym yn gweithio gydag Artistiaid, gwirfoddolwyr, partneriaid a’r gymuned i gyd-greu prosiectau a phrofiadau sy’n cyfoethogi bywydau pobl sy’n byw mewn ardaloedd gwledig, yn mynd i’r afael ag anghydraddoldeb cymdeithasol a phrofiadau sy’n trawsnewid ac yn cyfoethogi bywydau pobl ledled Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Cheredigion.
Rydym yn falch o fod yn gweithio i herio anghydraddoldeb, lleihau ynysu gwledig, hybu iechyd a lles, hyrwyddo sgwrs ar yr hinsawdd, darparu llwyfannau ar gyfer lleisiau amrywiol, meithrin pobl greadigol leol, cynnig cynnwys Cymraeg, gwneud y celfyddydau yn hygyrch i bawb ac adeiladu cymunedau gwledig gwydn.
Cefnogwch Gelfyddydau SPAN gyda rhodd heddiw i helpu i Herio Anghydraddoldeb, Hyrwyddo Lleisiau amrywiol a dathlu’r Gymraeg yn Sir Benfro drwy’r celfyddydau.
Rydym yn wirioneddol werthfawrogi pob rhodd a wneir gan ei fod yn ein helpu i gyflawni mwy ar gyfer ein cymuned gyfan. O sioeau syrcas am brisiau o fewn cyrraedd i deuluoedd lleol, i brosiectau Cymraeg a chomisiynau amgylcheddol, rydym yn gweithio’n galed i ddod â’r cyfleoedd hyn i gefn gwlad Gorllewin Cymru. Bydd beth bynnag y gallwch ei roi heddiw yn ein helpu i wneud llawer iawn!