Mae SPAN Arts yn falch o gyflwyno Ysgrifennu yn y Freninesiaeth Ffyngaidd, gweithdy ysgrifennu creadigol ymgollol unigryw sy’n gwahodd y rhai sy’n cymryd rhan i archwilio hunaniaeth, trawsnewid a chysylltedd trwy lensiau ymblethol ecoleg cwiar a phrofiadau byw traws ffems BPOC (Du a Phobl o Liw). Mae’r gweithdai am ddim hyn o 2.5 awr wedi’u cynllunio ar gyfer oedolion o bob cefndir, boed yn ysgrifenwyr profiadol neu’n ddechreuwyr llwyr, a byddant yn digwydd mewn dwy lleoliad hygyrch yn Sir Benfro fis Medi hwn.

Dan arweiniad cee-cee manrique, ffermwr madarch traws ffem ac awdur sy’n dod i’r amlwg, mae’r sesiynau’n cael eu hysbrydoli gan ffwng—y grymoedd cudd, gwydn a thrawsnewidiol mewn natur, fel metaffor a chanllaw ar gyfer newid personol ac ar y cyd. Mae ffwng, fel rhyw a hunaniaeth, yn lifol, addasol, ac yn aml yn anweledig. Mae’r gweithdy hwn yn archwilio’r hyn a allwn ei ddysgu o’u cryfder tawel a’u rhwydweithiau cydgysylltiedig, gan gynnig ffordd newydd a barddol o feddwl amdanom ni ein hunain a’r trawsnewidiadau rydym yn eu tramwyo mewn bywyd.

Ochr yn ochr â myfyrdodau ar y byd naturiol, bydd  cyfranogwyr hefyd yn ymgysylltu â thestunau grymus o leisiau traws ffems BPOC sydd, yn rhy aml, yn cael eu hepgor ond yn gyfoethog o fewnwelediad, creadigrwydd, a gwrthsefyll. Bydd y darlleniadau byr yn gweithredu fel ysgogiad ar gyfer cyfres o symbyliadau addfwyn i ysgrifennu, gan annog y cyfranogwyr i dyrchu i’w naratifau eu hunain, eu trawsnewidiadau, a’u gwirioneddau.

P’un ai’ch bod yn draws, cis, anneuaidd, yn cwestiynu, neu rywbeth rhwng a thu hwnt, mae hwn yn ofod i chi. Mae’r gweithdai wedi’u cynllunio i fod yn gynhwysol a chroesawgar, gyda phwyslais cryf ar greu amgylchedd diogel a chadarnhaol. Nid oes pwysau i rannu gwaith ar goedd, ond bydd cefnogaeth ar gael i’r rhai sy’n dymuno hynny.



Manylion Gweithdy

📍 Y Stiwdio, Hermon,Sir Benfro, SA360DX— Dydd Sul Medi 7fed, 2:00 yp – 4:30 yp

📍 Celfyddydau SPAN, Arberth, SA67 7AG— Dydd Sul Medi 14eg, 2:00 yp – 4:30 yp

 

Am ddim i fynychu (rhaid archebu trwy wefan Celfyddydau SPAN)

  • Ar gael i oedolion 18+
  • Nid oes angen profiad ysgrifennu
  • Dewch â llyfr nodiadau a phin ysgrifennu, neu liniadur/llechen
  • Gofod wedi’i greu gan/ar gyfer cymunedau LHDTCARh+, traws a BPOC—ond ar agor i bawb sydd â chalon a meddwl agored.

Mae’r gweithdai hyn yn cynnig nid yn unig allfa greadigol, ond cyfle prin i arafu, myfyrio, a chysylltu—gyda’n hunain, gyda natur, a gyda’n gilydd. Mewn byd sy’n aml yn teimlo’n fratiog ac yn frysiog, mae Ysgrifennu yn y Freninesiaeth Ffyngaidd yn gyfle i wreiddio’n ddwfn, i dyfu’n addfwyn, a ffynnu mewn cymuned.

span-arts.org.uk

Cysylltwch ag info@spanarts.org i drafod eich anghenion hygyrchedd.


Scroll to Top