Taer Angen Pobl Ifanc a Theuluoedd i Gefnogi Celfyddydau SPAN.
Mae Celfyddydau SPAN yn galw allan am fwy o bobl ifanc a theuluoedd i ymuno â’n tîm o wirfoddolwyr oherwydd y galw cynyddol am raglen o ddigwyddiadau ar adeg pan mae niferoedd y gwirfoddolwyr yn isel.
Ers dros 30 mlynedd, mae Celfyddydau SPAN wedi dod â chymunedau at ei gilydd trwy greadigrwydd – gan ddefnyddio’r celfyddydau i sbarduno syniadau, adeiladu cysylltiadau, ac ysbrydoli newid cadarnhaol. Fel nifer o sefydliadau cymunedol, mae ein gwaith yn dibynnu ar wirfoddolwyr, ac mae’r gefnogaeth honno bellach yn fwy hanfodol nag erioed.
Galwad am Gefnogaeth
“Gwirfoddolwyr yw asgwrn cefn ein sefydliad, ac ar hyn o bryd rydym yn isel o ran niferoedd,” esbonia’r tîm. “Gyda mwy o ddigwyddiadau ar y gorwel, mae arnom wir angen mwy o bobl i gamu i’r adwy, yn enwedig pobl ifanc a theuluoedd.”
Dyma wahoddiad agored i gymryd rhan, naill ai dros dro neu yn yr hir dymor.
Pam gwirfoddoli?
Mae gwirfoddoli gyda Chelfyddydau SPAN yn cynnig mwy na rhoi o’ch amser – mae’n darparu cyfle i fod yn rhan o gymuned greadigol groesawgar wrth ennill profiad gwerthfawr.
Yn aml mae gwirfoddolwyr yn cwrdd â phobl newydd ac yn teimlo’n rhan o amgylchedd cefnogol, yn adeiladu hyder a datblygu sgiliau newydd, cael profiad ymarferol ar gyfer CV, a chael cip tu ôl i’r llenni ar y diwydiannau creadigol.
Mae cyfleoedd yn cynnwys cefnogi digwyddiadau byw, gweithio ochr yn ochr ag artistiaid proffesiynol a dysgu am feysydd megis marchnata, goleuo, sain a chynhyrchu.
Cyfleoedd i Bobl Ifanc
I bobl ifanc mae gwirfoddoli’n gyflwyniad gwych i sector y celfyddydau a digwyddiadau. Mae’n cynnig y cyfle i ymuno â thîm cyfeillgar, dysgu sgiliau ymarferol tu hwnt i’r ystafell ddosbarth, cael profiad o ddigwyddiadau byw a thyfu o ran hyder trwy heriau newydd.
Gwirfoddoli i Deuluoedd
Anogir teuluoedd yn gynnes i gymryd rhan. Gyda gweithdai a pherfformiadau wedi eu hanelu at gynulleidfaoedd ifanc mae Celfyddydau SPAN yn cynnig cyfleoedd pleserus i wirfoddoli gyda’ch gilydd.
Dyma gyfle i dreulio amser o ansawdd gyda’ch gilydd mewn amgylchedd creadigol, cefnogi plant wrth iddynt fagu hyder a sgiliau gwaith tîm, rhannu profiadau newydd gyda’r gymuned leol a gwneud rhywbeth ystyrlon fel teulu.
Cymryd rhan
Gwahoddir darpar wirfoddolwyr i gysylltu â Belinda, Cydlynydd Gwirfoddolwyr Celfyddydau SPAN am sgwrs anffurfiol:
📞 01834 869323
📧 VCO@span-arts.org.uk
Gwnewch wahaniaeth
Gyda nifer y gwirfoddolwyr yn isel ar hyn o bryd, mae pob cyfraniad yn cael effaith gwirioneddol. Drwy ymuno â Chelfyddydau SPAN, mae gwirfoddolwyr yn helpu i sicrhau y gall y sefydliad barhau i ddod â phobl at ei gilydd trwy greadigrwydd, tra hefyd yn ennill profiadau a sgiliau gwerthfawr newydd.
Support Arts for Social Change with a one-off donation!
YOUR in person donations add up to enough to fund half of a Love Stories to Nature environmental commission. This provides a local artist fair pay to develop an environmental arts project inspired by your glorious Pembrokeshire.
We really appreciate every donation made as it helps us achieve more for the whole of our community. Whatever you can give today, will help us do a whole lot!



