‘The Mothers of Nature’

Gan Hannah Darby, Meg Haines, Emma Stevens

Crëwyd yr act hon trwy gomisiwn ‘Straeon Cariad at Natur’ SPAN yn 2023.

Mae’r sioe  ‘The Mothers of Nature’ yn sioe grwydrad gyda chymysgedd o symudiad acrobatig corfforol, dawns ac enydau o ryngweithio gydag aelodau o’r gynulleidfa. Mae’r cymeriadau’n annog gwylwyr i gysylltu gyda’r natur o’u cwmpas gan gasglu ‘geiriau doethineb’ a dod o hyd i eiliadau o ryfeddod yn y pethau bach, mae’r mamau hyn yma i rannu eu cariad at natur.

Mae’r sioe yn defnyddio darn pwrpasol o offer, wedi’i lunio gan Jo Adkins, yn arddull rhaca gocos a rhaffau pysgota, mae’r rhaffau a’r bar yn cael eu trin gyda’i gilydd i greu platfform, a ddefnyddir i godi, troelli a chydbwyso ei gilydd tra’n creu delweddau i ddyrchafu’r straeon.

Credydau: 

Ffilm / Ffotograffiaeth – Heather Birnie 

Gwisgoedd  –  Emily Redsell

Rhaca gocos – Jo Adkins

Scroll to Top