Rhowch sbardun i 2025 trwy ymuno â SPAN ym Mharti Arti y Flwyddyn Newydd ar gyfer pobl greadigol llawrydd yng Ngorllewin Cymru.
Mae’r Parti Arti’n dychwelyd i roi hwb Blwyddyn Newydd i’ch gyrfa greadigol. Ymunwch â Chelfyddydau SPAN ar gyfer ein Parti Arti Blwyddyn Newydd ar y 15fed o Ionawr, digwyddiad rhwydweithio a drefnwyd ar gyfer gweithwyr llawrydd cymuned celfyddydau creadigol Gorllewin Cymru.
Ymunwch â ni ar gyfer noson hamddenol lle gall pobl greadigol, artistiaid a gweithwyr llawrydd lleol gysylltu â’i gilydd, rhannu syniadau ac archwilio posibiliadau i gydweithio. Mae hefyd yn lle gwych i ddysgu sut y gallwch gymryd rhan ym mhrosiectau cyffrous Celfyddydau SPAN yn y flwyddyn i ddod a chael gwybod mwy am ein digwyddiadau eraill i gefnogi artistiaid eraill megis Sesiynau’r Ystafell Werdd. P’un ai’ch bod yn edrych i ehangu eich rhwydwaith, dod o hyd i brosiectau newydd i gydweithio arnynt, neu ddim ond eisiau gweld beth sydd gan SPAN ar y gweill ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod, dyma’r cyfle perffaith i gymryd rhan.
Ymunwch â ni am noson gyffrous ym Mharti Arti Blwyddyn Newydd SPAN, rhwng 5pm ac 8pm ddydd Mercher y 15fed o Ionawr i fwynhau byrbrydau, diodydd a chwmni da. Mae’n gyfle gwych i gysylltu â chyd-greadigolion, rhannu syniadau ar gyfer y flwyddyn i ddod, a dysgu am ddigwyddiadau a chyfleoedd sydd ar ddod gan dîm SPAN.
Mae hwn yn ddigwyddiad AM DDIM ond mae angen archebu lle drwy ein gwefan. Am ragor o wybodaeth ffoniwch 01834 869323, ewch i span-arts.org.uk neu cysylltwch trwy info@span-celfyddydau.
Manylion digwyddiad
Amser: 5pm tan 8pm
Lleoliad: Adeilad Celfyddydau SPAN, Gwaun y Dref, Arberth. SA67 7AG
Pris: AM DDIM
Archebu: Rhaid archebu ymlaen llaw. Ewch i span-arts.org.uk i archebu.