Mae’r Sêl Blanhigion Fawr yn ôl!
Mae bodiau gwyrdd a dwylo crefftus yn uno wrth i sêl blanhigion gymunedol fwyaf Gorllewin Cymru ddychwelyd ar gyfer 2025.


Manylion Digwyddiad:
Dyddiad: Mai 3ydd
Amser: 10am – 3pm
Lleoliad: Ysgol Gynradd Arberth, Ffordd Jesse, Arberth. SA67 7FE
Pris: Awgrymir rhodd o £2 wrth y fynedfa.
Ymholiadau stondinwyr: vco@span-arts.org.uk
Os ydych chi’n dyfwr lleol, yn feithrinfa blanhigion, yn grefftwr neu’n wneuthurwr ac os hoffech chi gael stondin yn y ffair, rydym yn chwilio am gynhyrchwyr eco-ymwybodol gwych i ymuno â’r sêl. Cysylltwch â vco@span-arts.org.uk i holi a bod yn rhan o’r Sêl Fawr Blanhigion eleni.


Eleni cynhelir y Sêl Blanhigion Fawr yn Ysgol Gynradd Arberth, gan gynnig mwy o le i lenwi gyda’r gorau o arddwriaeth ac eitemau wedi’u crefftio â llaw o bob rhan o’n hardal. Fel un o sêls cyntaf y flwyddyn yn yr ardal, mae’r Sêl yn enwog am ei chydbwysedd gwych o blanhigion arbenigol a rhai bob dydd i lenwi’ch cartref a’ch gardd â nhw.
Felly, p’un ai ydych chi eisiau planhigion suddol i’ch silff ffenestr, eginblanhigion ar gyfer pâm llysiau ffrwythlon neu ychwanegiad egsotig i’ch borderi, bydd rhywbeth yma i bob tyfwr.
Ochr yn ochr â phlanhigion, bydd sêl eleni hefyd yn arddangos y gorau o gynnyrch crefft llaw Sir Benfro. Bydd y crefftwyr hyn yn dathlu’r gorau o gynhyrchion a wnaed â llaw, a gynhyrchir yn lleol, ac sy’n ymwybodol o’r amgylchedd gan amrywio o sebon i ddodrefn pren crefftus.


Mentrwch i’r gwanwyn gyda’r diwrnod gwych hwn i’r teulu cyfan. Ochr yn ochr â’r sêl blanhigion a chrefft bydd bwyd blasus wedi’i gynhyrchu’n lleol, adloniant a cherddoriaeth fyw gan Gôr Pawb, côr cymunedol torfol Celfyddydau SPAN, y Band Iwc a Chriw Saith Shanty. Ymunwch â ni rhwng 10am a 3pm ddydd Sadwrn Mai 3ydd yn Ysgol Gynradd Arberth, Ffordd Jesse, Arberth, ar gyfer Sêl Blanhigion Fawr eleni.