We Move - Span Arts
26098
post-template,post-template-single-project,post-template-single-project-php,single,single-post,postid-26098,single-format-standard,bridge-core-2.3.8,ajax_fade,page_not_loaded,,qode-title-hidden,qode_grid_1200,footer_responsive_adv,qode-child-theme-ver-1.0.0,qode-theme-ver-22.3.1,qode-theme-bridge,qode_advanced_footer_responsive_1000,wpb-js-composer js-comp-ver-7.6,vc_responsive

We Move

Mae We Move yn brosiect dan arweiniad pobl ifanc o’r gymuned Ddu ledled Gorllewin Cymru i ddod ynghyd, cysylltu, a gwneud newid cadarnhaol yn y byd drwy weithredu cymdeithasol.

 

Digwyddiadau ac Gweithgareddau

Diwrnod Syrffio We Move

 

Dydd Sadwrn 22ain Gorffennaf

Traeth Poppet

Diwrnod o wersi syrffio a hwyl dan arweiniad Kwame Salam.

Sgript a stori gyda Phil Okwedy a Rose Thorn.

Dydd Mawrth 22ain Awst

Yr Ysgubor, Iet Goch, SA34 0YP

Ymunwch â ni am ddiwrnod o adrodd straeon, drama, ymarfer corfforol a sgriptio gyda Phil Okwedy a Rose Thorn.

10am i 12pm – 4 i 10 oed

1.30pm i 6pm – 11 i 18 oed

Lansiad cenedlaethol Hanes Du 365 yn Amgueddfa St. Fagans

Dydd Sadwrn 30ain o Fedi

Amgueddfa Hanes Cenedlaethol St. Fagans, Ffordd Michaelston, Caerdydd CF5 6XB

Ymunwch â ni ar drip i lansiad cenedlaethol Hanes Du 365 yn Amgueddfa St. Fagans, Caerdydd (manylion i’w cadarnhau).

Parti Lansiad Hanes Du 365 Gorllewin Cymru

2 – 9pm, Dydd Sadwrn 7 Hydref

Theatr Small World, Ffordd y Bath House, Aberteifi SA43 1JY

2pm: Lansiad swyddogol o lyfr Atinuke Black British History: Sesin Holi ac Ateb gyda’r awdur a’r darlunydd, perfformiadau gan grŵp We Move, paentio wynebau, llofnodion llyfrau.

4pm: Lansiad Llwy Gariad Too, llyfr coginio nesaf gan bobl amrywiol o orllewin Cymru a ddechreuodd y grŵp cymdeithasol. Bydd yr ail lyfr o ryseitiau’n cael eu hysgrifennu a’u darlunio gan blant a phobl ifanc We Move.

5pm: Cawlica ac Afrawl! Cyfuno dylanwadau Affro-Caribîaidd â chawl traddodiadol Cymreig.

7pm (i’w gadarnhau): Perfformiad gan gorau Caerdydd, Afrocluster

Cysylltwch â’n Swyddog Prosiect We Move, Molara Awen i archebu lle: wemove@spav-arts.org.uk

Os ydych chi neu’ch plentyn yn rhan o’r gymuned mwyafrifol fyd-eang sy’n byw yn Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin neu Sir Aberteifi ac eisiau cael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’n Swyddog Prosiect, Molara Awen, yn wemove@spav-arts.org.uk

Mae prosiect We Move yn bartneriaeth rhwng Grŵp Cymdeithasol Llwy Gariad a SPAN Arts gyda chymorth o Gronfa We Move y BBC Children in Need.