Galw am Artistiaid: Trawsffurfio Cynwysyddion Cludo gydag Ysgol Gymunedol Prendergast
Mae Celfyddydau SPAN yn chwilio am artist talentog sydd â phrofiad mewn prosiectau paentio ar raddfa fawr i gydweithio gyda disgyblion Ysgol Gymunedol Prendergast, Hwlffordd. Bydd y prosiect cyffrous hwn yn trawsnewid dau gynhwysydd cludo – a ddefnyddir fel Bocs Bwyd a Siop Ddillad Ail-law – yn weithiau celf bywiog, wedi’u cyd-greu gyda’r disgyblion.
Manylion y Prosiect
- Gweithdy Dylunio: 1 diwrnod yn Ionawr 2025 (sesiwn yn yr ysgol)
- Diwrnodau Peintio Awyr Agored: 5 diwrnod ar ddechrau Mawrth 2025 (gyda disgyblion)
- Cynllunio a Pharatoi: 1 diwrnod
- Ffi: £250/y dydd (£1,750 – cyfanswm) a chostau teithio
- Deunyddiau: Darperir cyllideb ar wahân
Yr hyn yr ydym yn chwilio amdano
Artist profiadol sy’n mwynhau cydweithio â phobl ifanc gan ysbrydoli creadigrwydd, a dod â syniadau ar raddfa fawr yn fyw.
Sut i ymgeisio
Anfonwch y canlynol i production@span-arts.org.uk erbyn 5pm, Ddydd Iau Rhagfyr 12fed.:
Llythyr eglurhaol (dim mwy nag un ochr A4) yn amlinellu’ch profiad perthnasol
Eich CV.
Delweddau neu ddolenni i enghreifftiau o’ch gwaith.
Fel arall, gallwch gyflwyno recordiad sain neu fideo 5 munud gyda’r un wybodaeth.
Rhaid i bob ymgeisydd fod â gwiriad DBS cyfredol. Byddwn yn cydnabod pob cais, ac os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â ni ar y cyfeiriad e-bost uchod neu ffoniwch 01834 869323.
Ymunwch â ni i greu rhywbeth anhygoel i’r gymuned!