Rydym yn chwilio am Hwylusydd Celfyddydau ar gyfer Hanner Tymor Chwefror 2025!
Ydych chi’n hwylusydd celfyddydol angerddol sydd â phrofiad o weithio gyda phobl ifanc? Rydym yn chwilio am rywun i arwain gweithdai ysbrydoledig a chreadigol ar gyfer Gofalwyr Ifanc yn ystod Hanner Tymor Chwefror 2025.
Y Gweithdai
Y nod yw creu man diogel, cefnogol lle gall pobl ifanc 11–17 oed ymlacio, cysylltu ag eraill, ac archwilio eu creadigrwydd. Bydd y gweithdai ymarferol hyn yn helpu i fagu hyder, annog hunanfynegiant, a meithrin cyfeillgarwch newydd.
Rydym yn agored i unrhyw ffurf ar gelfyddyd – o’r celfyddydau gweledol i berfformiad, cerddoriaeth, neu grefftau. Mae gan Gelfyddydau SPAN ystod eang o ddeunyddiau ar gael i ‘w defnyddio gan hwyluswyr.
Manylion Allweddol
- Dyddiadau Gweithdy: Chwefror 24ain – 28ain 2025
- Amser: 11am – 4pm
- Lleoliad: Celfyddydau SPAN Arts, Gwaun y Dref, Arberth
- Cyfranogwyr: Gofalwyr Ifanc, 11–17oed
- Manylion Ffioedd a Chyflwyniadau
- Ffi: £250 y diwrnod gweithdy (yn cynnwys teithio a threuliau)
- Gall hwyluswyr arwain un neu fwy o weithdai diwrnod llawn yn ystod yr wythnos
- Dyddiad Cau ar Gyfer Cyflwyniadau: Ionawr 12fed 2025
- Os ydych chi’n ffynnu ar greu amgylcheddau diddorol a hwyliog i bobl ifanc ac eisiau cael effaith barhaol, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
- I wneud cais, anfonwch eich CV, llythyr eglurhaol byr yn manylu ar eich profiad, ac enghreifftiau o’ch gwaith atInfo@span-arts.org.uk