Writing Out: A Scratch Night of Queer Writing in West Wales

Yn cyflwyno ‘Ysgrifennu Allan’ lle gorfoleddus, creadigol i glywed, rhannu a dathlu lleisiau LHDTCRhA+.
Mae’r noson sgratsh newydd sbon hon yn gwahodd ysgrifennwyr Cwiar sy’n dod i’r amlwg a rhai hir sefydlog i ddatblygu ac arddangos gwaith sydd ar y gweill, wedi ei berfformio gan actorion proffesiynol ym mherfeddion Gorllewin Cymru.
Ein Thema Eleni: Dod Allan yng Nghefn Gwlad
Rydym yn chwilio am waith sy’n crynhoi llawenydd, heriau a phrofiadau bywiog bywyd Cwiar yng nghefn gwlad Cymru. Yn dyner neu’n fuddugoliaethus, yn farddonol neu’n chwareus – rydym am glywed eich straeon.
Beth Rydym Yn Chwilio Amdano
Rydym yn derbyn cyflwyniadau ar draws amrywiaeth o ffurfiau celf:
- Dramâu byrion ( hyd at 3 chymeriad)
- Cyflwyniadau llafar a barddoniaeth
- Monologau
- Straeon byrion
- Cerddoriaeth (hyd at 3 cân y cyflwyniad)
Ni ddylai darnau fod yn fwy na 10 munud o hyd.
Gwybodaeth Allweddol:
Dyddiad Digwyddiad: Dydd Sadwrn Medi 27ain 2025
Lleoliad: Arberth
Dyddiad Cau i Gyflwyno: Dydd Sul Gorffennaf 14eg 2025
Cyflwynwch i: info@span-arts.org.uk
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn mentora ac adborth proffesiynol cyn y rhannu. Ar y diwrnod, bydd darnau yn cael eu hymarfer a’u perfformio o flaen cynulleidfa fyw gefnogol – gydag adborth dewisol i helpu i lunio cam nesaf eich taith greadigol.
Cwestiynau Cyffredin
Beth yw noson Sgratsh?
Mae noson sgratsh yn llwyfan ar gyfer gwaith newydd, sy’n mynd rhagddo, i’w berfformio am y tro cyntaf. Mae awduron yn gweld eu geiriau’n dod yn fyw, yn casglu adborth, ac yn adeiladu hyder – gyda phob dim mewn awyrgylch croesawgar, creadigol.
Oes rhaid i mi fod yn artist proffesiynol?
Dim o gwbl. Rydym yn croesawu cynigion gan awduron a cherddorion ar bob cam o’u taith greadigol. Dim ond angen i chi:
- Adnabod eich hun fel LHDTCRhA+
- Fod 18+ oed
- Fyw yn Sir Benfro, Ceredigion neu Sir Gaerfyrddin
Allaf i Gyflwyno yn Gymraeg?
Wrth gwrs! Rydym yn croesawu cyflwyniadau yn Gymraeg, Saesneg, neu’n ddwyieithog. Os byddwch yn defnyddio iaith heblaw am Gymraeg neu Saesneg, byddwch cystal â chynnwys cyfieithiad.
Fydda i’n cadw’r hawliau i’m gwaith?
Byddwch chi – mae’r gwaith o’ch eiddo chi’n unig. Trwy gyflwyno, rydych chi’n rhoi caniatâd i SPAN ei berfformio ar y noson sgratsh ar Fedi 27ain ond mae’r gwaith yn parhau yn eich eiddo chi.
Oes rhaid i fi berfformio?
Awduron: Gallwch ddewis perfformio’ch gwaith eich hun neu gael ei ddarllen gan actorion proffesiynol.
Cerddorion: Bydd angen i chi berfformio eich deunydd eich hun yn acwstig.
Pwy fydd yn dewis y cyflwyniadau?
Panel o grŵp llywio Cwiar SPAN yn cynnwys:
Jane Campbell (Bardd gwobrwyedig)
Bean Sawyer (Nofelydd, Bardd, Gwneuthurwr Ffilmiau)
Ash Kriengsak (Dramodydd, Gwneuthurwr Ffilmiau)
Anna Sherratt (Cyfansoddwr Caneuon, Libretydd, Dramodydd)
P’un ai’ch gwaith cyntaf neu’ch canfed yw hwn, mae Ysgrifennu Allan yn lle i arbrofi, mynegi a chysylltu. Allwn ni ddim aros i ddarllen eich gwaith!
👉 Cyflwynwch erbyn Gorffennaf 14eg 2025 i info@span-arts.org.uk



